Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021

Cyfesurynnau:55°51′39″N4°17′17″W / 55.86085°N 4.28812°W /55.86085; -4.28812
Oddi ar Wicipedia
Dyddiad31 Hydref - 12 Tachwedd 2021
Cyfesurynnau55°51′39″N4°17′17″W / 55.86085°N 4.28812°W /55.86085; -4.28812
ArlywyddAlok Sharma
Gwefanhttps://ukcop26.org/it ukcop26.org/, https://ukcop26.org/it/, https://ukcop26.org/it

Mae Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021 (neu COP26) yn gynhadledd ryngwladol arnewid hinsawdd sydd yn cael ei gynnal ynGlasgow,yr Alban, yDeyrnas Unedig rhwng Hydref 31 a Thachwedd 12 2021. Arlywydd y gynhadledd yw'r gwleidydd ceidwadol ac aelod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig Alok Sharma. Yn wreiddiol roedd disgwyl i COP26 ddigwydd yn 2020 ond cafodd ei oedi am flwyddyn oherwyddPandemig COVID-19.

Mae disgwyl i'r gynhadledd adeiladu ar gytundebau COP21 ymMharis yn 2017 i gadw codiad tymheredd byd-eang i lai na 1.5°C.[1] Mae'r gwledydd hefyd yn bwriadu cytuno i orffen datgoedwigo erbyn 2030[2] ac i nifer o wledydd cytuno i fod ynsero net carbon erbyn 2050, gydag India yn cytuno i wneud hyn erbyn 2070.[3]

Canolfan SECC yn Glasgow, lleoliad cynhadledd COP26

Er nad oeddBrenhines Elisabeth II neu Arlywydd ChinaXi Jinping yn bresennol, mae nifer o wleidyddion ac amgylcheddwyr pwysig wedi mynychu. Mae'r rhain yn cynnwys Prif Weinidog y Deyrnas UnedigBoris Johnson, Arlywydd yr Unol DaleithiauJoe Biden, Prif Weinidog IndiaNarendra Modi, Prif Weinidog CymruMark Drakeford aDavid Attenborough. Bu'r ymgyrchydd hinsawdd ifancGreta Thunberg hefyd yn Glasgow, er nad oedd hi wedi ei gwahodd yn swyddogol i'r gynhadledd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "What is a COP?".UN Climate Change Conference (COP26) at the SEC – Glasgow 2021 (yn Saesneg). Cyrchwyd2021-11-02.
  2. "COP26: More than 100 countries commit to ending and reversing deforestation by 2030".Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd2 Tachwedd 2021.
  3. "India targets net zero carbon emissions by 2070".www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd2 Tachwedd 2021.
  4. natalie-chalk (30 Hydref 2021)."Greta Thunberg reveals she's 'not officially invited to COP26' as activist arrives in Glasgow on eve of summit".inews.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd2 Tachwedd 2021.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cynhadledd_Newid_Hinsawdd_y_Cenhedloedd_Unedig_2021&oldid=11848151"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp