Cymuned (Ffrangeg:commune) yw'r haen isaf o lywodraeth leol ynFfrainc. Ar1 Ionawr2008, roedd 36,781 ohonynt yn Ffrainc, 36,569 o'r rhain ar dir mawr Ffrainc a 212 yn ydépartements tramor.
Fel gyda cymunedau Cymru, mae'r cyfan o Ffrainc wedi ei rhannu yncommunes. Fodd bynnag, mae'r amrywiaeth mewn maint yn llawer mwy yn Ffrainc; ycommune mwyaf yw dinasParis, tra mae rhaicommunes eraill a phoblogaeth o ddeg person neu lai. Ar gyfartaledd, mae gancommune yn Ffrainc ei hun arwynebedd o 14.88 km² (5.75 milltir sgwâr neu 3,676 acer). Ar gyfartaledd, roedd poblogaethcommune yn 380. Mae llai na 500 o bobl yn byw yn 57.4% o'rcommunes.