Map o Gymru yn 1891, gan ddangos dosbarthiad y Gymraeg yn ôl ardal mewn pum categori (o dan 10% i dros 80%)Mae'r Gymraeg yn Archolladwy yn ôlUNESCOAtlas Ieithoedd y Byd (2010)
Yn ôlcyfrifiad 2021, roedd 538,300 o breswylwyr arferol yng Nghymru oedd yn dair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg (17.8% o'r boblogaeth), tra bod ychydig dros chwarter (25.1%) yn nodi bod ganddynt rywfaint o sgiliau iaith Gymraeg.[11]
Cafwyd ffigurau uwch gan arolygon eraill: canfu arolwg yn 2022–2023 fod 34% o bobl 16 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg (dywedodd 18 y cant ohonynt eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a dywedodd 16 y cant fod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg).[12] Ym mis Mawrth 2025, dangosodd data arolwg arall fod oddeutu 828,600 o bobl (26.9%) tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.[13]
Mae bron i hanner yr holl siaradwyr Cymraeg yn ystyried eu hunain yn rhugl, tra bod 20% yn gallu siarad cryn dipyn.[14] Mae 56% o siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd, ac mae 19% yn siarad yr iaith yn wythnosol.[14]
Flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 1951, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi cynyddu[angen ffynhonnell], er bod canran y siaradwyr hynny o fewn poblogaeth Cymru wedi gostwng bob degawd ar wahân i'r niferoedd a adroddwyd trwy Gyfrifiadau'r Deyrnas Unedig yn 1991 a 2001.
MaeLlywodraeth Cymru yn bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith, erbyn 2050.[15] Ers 1980, mae nifer y plant sy'n mynychuysgolion Cymraeg wedi cynyddu, tra bod y nifer sy'n mynd i ysgolion dwyieithog a chyfrwng deuol Cymraeg wedi gostwng.[16] Ystyrir y Gymraeg fel yr iaith Geltaidd sydd leiaf mewn perygl ganUNESCO.[17]
Mae'r Gymraeg yn un o'r 55 o ieithoedd i gael eu cynnwys fel cyfarchiad arRecord Aur y Voyager er mwyn cynrychioli'r Ddaear yn rhaglen Voyager NASA a lansiwyd ym 1977.[18] Mae pob cyfarchiad yn unigryw i'r iaith, a dywed y Gymraeg "Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd".[19]
Fel y mwyafrif o ieithoedd, mae cyfnodau canfyddadwy o fewn hanes y Gymraeg, ond mae'r ffiniau rhwng y rheiny yn aneglur fel arfer.
Tarddodd yr enw Saesneg ar yr iaith, sefWelsh, o'r enw a roddwyd i'w siaradwyr gan yrEingl-Sacsoniaid, sy'n golygu "iaith estron" (gwelerWalha). Yr enw brodorol ar yr iaith ywCymraeg, a'r enw brodorol ar y wlad ywCymru wrth gwrs.
Graff o ganran y boblogaeth a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 1911–2001.
Gellir disgrifio’r tueddiadau o 1891 hyd at 1971 yn weddol syml: gydag ychydig o eithriadau, gostyngodd y ganran oedd yn siarad Cymraeg ymhob grŵp oedran o’r naill gyfrifiad i’r llall. Cynyddodd y nifer absoliwt o siaradwyr o 1891 i gyrraedd bron i filiwn (977,366) yn 1911.
Ceir dadansoddiad cynhwysfawr o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru yn adroddiad 5-mlyneddComisiynydd y Gymraeg[20], sy'n defnyddio arolwg[21] ynghyd â ffynonellau eraill. Yn ôlCyfrifiad 2011 roedd 19.0% yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 1.8% ersCyfrifiad 2001, ond yn uwch na'r 18.7% ym 1991. Dangosodd cyfrifiad 2011 y ganwyd tua 25% o breswylwyr Cymru y tu allan i Gymru. Nid oes ystadegau ar faint o bobl sy'n siarad Cymraeg yng ngweddill Prydain ond adroddodd Cyfrifiad 2011 fod 8,248 o bobl (3 oed a throsodd) yn Lloegr yn ystyried y Gymraeg yn brif iaith iddynt.[22] Ym 1993, cyhoeddoddS4C ganlyniadau arolwg ar faint o bobl a allai siarad neu ddeall Cymraeg. Darganfu'r arolwg yma fod tua 133,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Lloegr, gyda thua 50,000 ohonynt yn byw yn Llundain Fawr.[23] AmcangyfrifoddBwrdd yr Iaith Gymraeg fod 110,000 o bobl yn 2001 a oedd yn gallu siarad Cymraeg ar ddyddiad cynharach yn byw yn Lloegr.[24]
Yn sgil mudo a thwf yn nylanwad y Saesneg ar fröydd Cymraeg, cafwyd lleihad yn y niferoedd sy'n siaradwyr uniaith Cymraeg[25]. Bellach nid oes siaradwyruniaith y Gymraeg i gael. Ar y cyfan, mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn siarad y Saesneg (ynNhalaith Chubut, yr Ariannin, Sbaeneg yw iaith y mwyafrif —gwelerY Wladfa). Serch hynny, mae llawer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn fwy cyffyrddus yn mynegi eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg na'r Saesneg. Gall yr iaith y mae siaradwyr yn ei dewis amrywio yn ôl yr angen, pwnc, cyd-destun cymdeithasol, ac o fewnmynegiant (a elwir ynieithyddiaeth yn cyfnewid côd).
Caiff y Gymraeg ei siarad yn iaith gyntaf yng Ngogledd a Gorllewin Cymru yn bennaf, yngNgwynedd,Conwy,Sir Ddinbych,Ynys Môn,Sir Gâr, gogleddSir Benfro,Ceredigion, ardaloedd ymMorgannwg, a gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain eithafolPowys, ond canfyddir siaradwyr iaith gyntaf a siaradwyr rhugl ar draws Cymru gyfan.
Bu agweddau negyddol tuag at y Gymraeg yn y 19g a disgrifodd olygydd y 'Times' y Gymraeg fel "the curse of Wales" yn 1866. Er gwaethaf hyn, siaradodd y prif weinidog Gladstone yn Eisteddfod yr Wyddgrug gan sôn am yr heniaith ac yn 1877, dan ddylanwadMatthew Arnold sefydlwyd Llywydd Astudiaethau Celtaidd. Yn 1888 galwodd Gladstone am adnabyddiaeth yr Eglwys o'r Gymraeg a fyddai'n awgrymu adnabyddiaeth y Llywodraeth yn ei dro.[26]
TrefnoddCymdeithas y Cymmrodorion sesiynau yng Nghapel Penlan yn ystodEisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925 i drafod "Cadwraeth yr Iaith". Roedd y Parchedig Ddr. G Hartwell Jones, Elfed a Phedrog yn pwysleisio creu ewyllys da tuag at y Gymraeg tra roeddThomas Gwynn Jones a J.H. Jones, golygyddY Brython, yn mynnu nad oedd gobaith ei chynnal heb wleidyddiaeth ymosodol o'i phlaid.
Roedd SyrJohn Morris-Jones yn cyfiawnhau darlithio i'w fyfyrwyr yn Saesneg am ei fod am weld y Cymry yn genedl ddwyieithog ac nad oedd ar y Gymraeg angen termau ar gyfer trafod y byd cyfoes. MynnaiProsser Rhys,Edward Morgan Humphreys a'r ParchD. Tecwyn Evans y dylid hyrwyddo'r Gymraeg mewn storïau poblogaidd i'r ifanc, mewn drama a ffilm a rhaglenni radio.[27][28]
Er mai iaith leiafrifol ydyw'r Gymraeg, cynyddodd y gefnogaeth iddi yn ystod ail hanner y 20g, ynghyd â chynnydd mewn sefydliadau megis y blaid wleidyddolgenedlaethol,Plaid Cymru ers 1925, aChymdeithas yr Iaith Gymraeg ers 1962.
Yn ôlDeddf yr Iaith Gymraeg 1993 aDeddf Llywodraeth Cymru 1998, roedd yn rhaid i'r sector gyhoeddus drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, cyn belled ag oedd hynny'n rhesymol ac ymarferol. Roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ysgrifennuCynllun yr Iaith Gymraeg, oedd yn rhaid ei gymeradwyo ymlaen llaw, oedd yn nodi ymrwymiad i drin y Gymraeg yn gyfartal. Anfonwyd y drafft hwn am ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o dri mis, lle gellid cynnwys sylwadau awgrymedig yn y fersiwn derfynol. Wedyn, roedd angen arFwrdd yr Iaith ei gymeradwyo cyn iddo gael ei dderbyn yn derfynol gan y cwmni dan sylw. Ar ôl hynny, roedd yn rhaid i'r corff cyhoeddus weithredu ei rwymedigaethau yn unol â'i Gynllun.
Ar 7 Rhagfyr 2010, cymeradwyodd y Cynulliad yn unfrydol set o fesurau i'w defnyddio er mwyn datblygu defnydd y Gymraeg yng Nghymru.[29] Ar 9 Chwefror 2011, derbyniodd y mesur hwn Gydsyniad Brenhinol a chafodd ei gymeradwyo, a chan hynny yn gwneud y Gymraeg yn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yng Nghymru.[30]
creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
creu comisiynydd yr Iaith Gymraeg newydd a chanddo bwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
sefydlu Tribiwnlys Iaith Gymraeg newydd;
rhoi’r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
creu cyngor Partneriaeth Iaith Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effeithiau ei pholisïau ar y Gymraeg;
caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.[31]
O ganlyniad i gymeradwyo'r mesur hwn, y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond ni wyddys eto'r pa gwmnïau a fydd yn gorfod cydymffurfio. Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, "Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur. Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n credu dylai pawb sydd eisiau derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gael y cyfle i wneud hynny, a dyna beth mae’r llywodraeth yma wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig a hanesyddol ymlaen i’r iaith, eu siaradwyr ac i’r genedl".[31]
Ni dderbyniwyd y mesur gan bawb; ysgogodd Bethan Williams, cadeiryddCymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymateb cymysg, gan ddweud, "Through this measure we have won official statusfor the language and that has been warmly welcomed. But there was a core principle missing in the law passed by the Assembly before Christmas. It doesn't give language rights to the people of Wales in every aspect of their lives. Despite that, an amendment to that effect was supported by 18 Assembly Members from three different parties, and that was a significant step forward".[32]
Ar 5 Hydref 2011, penodwyd Meri Huws, CadeiryddBwrdd yr Iaith Gymraeg, yn Gomisiynydd newydd dros y Gymraeg.[33] Mewn datganiad a ryddhawyd ganddi, dywedodd ei bod "wrth ei bodd" i gael ei phenodi i'r "rôl bwysig bwysig," hon, gan ychwanegu, "Bydda i'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu." DywedoddCarwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y byddai Meri yn "eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg," ond roedd pryderon gan ambell i berson; dywedodd Bethan Jenkins oBlaid Cymru, "I have concerns about the transition from Meri Huws's role from the Welsh Language Board to the language commissioner, and I will be asking the Welsh government how this will be successfully managed. We must be sure that there is no conflict of interest, and that the Welsh Language Commissioner can demonstrate how she will offer the required fresh approach to this new role."[34] Cychwynnodd Meri ei gwaith fel Comisiynydd Iaith ar 1 Ebrill 2012.
Defnyddia cynghorau lleol aChynulliad Cenedlaethol Cymru y Gymraeg yn iaith lled-swyddogol, gan ddosbarthu deunydd llenyddol a hyrwyddol yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg (e.e., llythyron at rieni o'r ysgol, gwybodaeth llyfrgelloedd, gwybodaeth cynghorau ac ati) ac mae'r mwyafrif o arwyddion ffyrdd yng Nghymru yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys enwau lleoedd. Serch hynny, defnyddir yr enw Saesneg yn unig am leoedd mewn rhai mannau yn Lloegr er bod enwau Cymraeg arnynt ers llawer dydd (e.e.London: Llundain;The [English] Midlands: Canolbarth Lloegr).
Ers 2000, mae hi'n orfodol i addysgu'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion hyd at 16 oed, ac mae hyn wedi cyfrannu at sefydlogi ac i ryw raddau at wrthdroi dirywiad yr iaith mewn rhai mannau.
Er bod arwyddion ffyrdd dwyieithog yng Nghymru, mae'r geiriad ar arian o hyd yn uniaith Saesneg. Yr unig eithriad i hyn fu'r arysgrif ar bunnoedd Cymru yn 1985, 1990, a 1995, a ddywedai,Pleidiol wyf i'm gwlad o anthem genedlaethol Cymru,Hen Wlad fy Nhadau. Nid yw'r Gymraeg ar y ceiniogau Prydeinig newydd (2008 ymlaen), er iddynt gael eu dylunio gan Ogleddwr a'u bathu yn yBathdy Brenhinol yn Llantrisant, yn ne Cymru. Er bod llawer o siopau yn arddangos arwyddion dwyieithog, prin ydy'r defnydd o'r Gymraeg ar ddeunydd pacio a chyfarwyddiadau.
Mae geirfa'r Gymraeg yn tarddu o eiriau'rFrythoneg yn bennaf (megiswy acarreg), gydag ambell i air benthyg o'rLladin (megisffenestr < Lladinfenestra agwin < Lladinvinum), a'rSaesneg (megissilff agât). Mae'r Gymraeg, fel ieithoedd eraill y byd, yn benthyca geirfa oddi ar ieithoedd eraill. Benthyciwyd i'r Gymraeg o'r Lladin, yrWyddeleg, yFfrangeg, a'r Saesneg yn bennaf. Ceir rhai geiriau Cymraeg sy'n tarddu o'r HenNorseg, yRoeg, a'rHebraeg. Ar hyn o bryd, o'r Saesneg y benthycir gan fwyaf, ac o ieithoedd eraill y byd drwy'r Saesneg.
Ysgrifennir y Gymraeg gydagwyddor Ladin, sydd defnyddio 28 llythyren yn draddodiadol, lle bo wyth ohonynt ynddeugraffau (dwy lythyren a drinnir yn un) ar gyfercoladiad:
a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y
Yn wahanol i'r Saesneg, ystyrir "w" ac "y" yn llafariaid yn y Gymraeg, ynghyd ag "a", "e", "i", "o" ac "u".
Defnyddir y llythyren "j" mewn geiriau benthyg o'r Saesneg, megisjam,jôc, agarej. Prin iawn yw'r defnydd o "k", "q", "v", "x", a "z", ond fe'u defnyddir o fewn rhai cyd-destunau technegol, megiskilogram,volt azero, ond defnyddir amnewidiadau Cymraeg fel arfer:cilogram,folt asero.[35] Roedd y llythyren "k" yn gyffredin hyd y 16g, ond fe'i collwyd adeg cyhoeddi'r Testament Newydd yn y Gymraeg, fel yr egluroddWilliam Salesbury: "C for K, because the printers have not so many as the Welsh requireth". Nid oedd y newid yma yn boblogaidd ar y pryd.[36]
Yracen grom yw'r marc diacritig mwyaf cyffredin, sy'n gwahaniaethu llafariaid hir a byr, fel arfer gyda homograffau yn bennaf, lle bo'r llafariad yn fyr mewn un gair ac yn hir yn y llall: e.e.,man amân.
Nodweddirffonoleg y Gymraeg gan nifer o synau nad ydynt yn bodoli yn y Saesneg ac sy'ndeipolegol brin mewn ieithoedd Ewropeaidd. Mae'racen bwys fel arfer yn disgyn ar y goben (y sillaf olaf ond un) mewn geiriau aml-sillafog.
Aethpwyd ati i ysgrifennu Cymraeg yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin a Groeg), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan,Tywyn y ceir y geiriau Cymraeg cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.
Gan fod datblygiad Cymraeg Fodern ysgrifenedig yn lled araf mae gagendor eang wedi agor rhyngddi a Chymraeg llafar. Yn wir, mae rhai o'r gwahaniaethau rhwng yr ysgrifenedig a'r llafar yn hen iawn. Ysgrifennir ffurf trydydd person lluosog y ferf yn–ant ond fe'i hyngenir yn–an. Dengys barddoniaeth y 12g, lle odlid geiriau'n diweddu ag–ant gyda rhai yn diweddu ag–an, fod y gwahaniaeth hwn eisoes yn bodoli bryd hynny. Dim ond yn ddiweddar y cydnabuwyd llawer o newidiadau yr iaith lafar yn y Gymraeg ysgrifenedig newydd a elwir yn Gymraeg Cyfoes.
Cymraeg llafar yw'r iaith fel y'i siaredir yn hytrach na'i hysgrifennu. Mae hi'n wahanol i'r iaith ysgrifenedig o ran geirfa, gramadeg amorffoleg. Ceir ynddi sawl cywair ieithyddol tra gwahanol, a sawltafodiaith.
Credir bod tua 90% o boblogaeth Cymru yn Gymry Cymraeg ddechrau'r19g a rhyw 70% yn Gymry uniaith. Erbyn 2001, mae rhyw 20.5% o bobl yn siarad Cymraeg (un mewn pump),[37] sef rhyw 580,000 o bobl yn ôl y cyfrifiad.
Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi yny Wladfa, ymMhatagonia,yr Ariannin. Siaredir Cymraeg ym Mhatagonia er1865 pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymru yno i fyw, i chwilio am fywyd gwell ac i gael byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhydd o orthrwm.
Adeg twf Anghydffurfiaeth yn ystod y19g, daeth y capeli yng Nghymru yn ganolbwynt bywyd Cymraeg. Ymysg y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd gan y capeli ceid eisteddfodau, corau a theithiau gwib. Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif yn yr ardaloedd diwydiannol roedd gan y boblogaeth arian yn eu pocedi a'r gallu i dalu am adloniant y tu allan i furiau'r capel. Roedd difyrrwch ar gael yn y theatr, yn y trefi gwyliau, ac yn ddiweddarach mewn ffilm, ar y radio ac ar y teledu. Tanseiliwyd lle'r capeli Cymraeg, a fu'n ganolbwynt cymdeithas, gan yr adloniant newydd hudolus. Erbyn dechrau'r 20g, cyrhaeddai'r diwylliant Eingl-Americanaidd y byd a'r betws drwy ffilm, radio a theledu gan gystadlu ag adloniant a diwylliant traddodiadol y cartref a'r gymuned leol.
Mae ganeisteddfodau le canolog yn niwylliant Cymru a'r Gymraeg. Wedi nychdod yr hen gyfundrefn eisteddfodol yn y canrifoedd wedi'r Deddfau Uno adnewyddwyd yr eisteddfod gyda chyfarfodydd taleithiol yn ystod y 19eg ganrif. Sefydlwyd yrEisteddfod Genedlaethol yn y 1860au ond defnyddiwyd mwy a mwy o Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda threigl y blynyddoedd. Erbyn1931 Saesneg oedd prif iaith y llwyfan, y beirniadaethau a seremonïau gorsedd y Beirdd, sefyllfa annerbyniol i lawer. Gwnaethpwyd y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Eisteddfod ym1937 ond parhau wnaeth y defnydd o'r Saesneg ar lwyfan yr eisteddfod tan1952 pan gyflwynwyd y Rheol Gymraeg. O hyn ymlaen, y Gymraeg yn unig a glywid ar lwyfan yr Eisteddfod (heblaw am rai anerchiadau gan westeion gwadd). Mae'r Rheol Gymraeg hithau'n bwnc llosg sydd wedi peri i rai awdurdodau lleol atal eu cyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniedir yr Eisteddfod Genedlaethol gan rai am safon anwastad y llenyddiaeth a wobrwyir. Ar y llaw arall, clodforir yr Eisteddfod am ei bod yn ŵyl ddiwylliannol i'r werin, am roi llwyfan cenedlaethol i artistiaid Cymru, am feithrin barddoni, ac am hybu dysgu Cymraeg.
Trefnir eisteddfodau gan gymdeithasau megis yr Urdd,Mudiad y Ffermwyr Ifainc, acUndeb Cenedlaethol y Glowyr. Cynhelir rhai eisteddfodau taleithiol o hyd, megis eisteddfod Pontrhydfendigaid ac ambell eisteddfod drefol neu bentrefol, ond nid oes cymaint o fri ar y rhain ag a fu ac nid yw'r capeli'n trefnu eisteddfodau fel ag y buont ychwaith.
Argraffwyd llyfrau Cymraeg yn gynnar o gymharu â llawer o ieithoedd eraill Ewrop nad oeddent yn ieithoedd gwladwriaeth. Nifer fechan o lyfrau a gyhoeddwyd, cyfanswm o 116 rhwng 1546 a 1670. Crefydd oedd pwnc mwyafrif y llyfrau hyn. Yna cynyddodd nifer y llyfrau a gyhoeddwyd i gyfartaledd o 4 y flwyddyn rhwng 1670 a 1700 a 14 y flwyddyn rhwng 1700 a 1730, yn rhannol drwy nawdd y Welsh Trust a'r SPCK. Erbyn y 18g, roedd pris llyfr wedi disgyn yn sylweddol, ac o fewn cyrraedd y werin. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddwyd yr oedd rhai o glasuron y Dadeni Dysg a llenyddiaeth grefyddol Cymru:Cannwyll y Cymry gan yFicer Prichard (1681) aGweledigaetheu y Bardd Cwsc ganEllis Wynne (1703). Esgorodd cynnydd aruthrol llythrennedd yn ystod y 18g yn esgor ar alw am lyfrau o bob math, yng Nghymru fel ag yn Lloegr. Sefydlwyd nifer o argraffdai yng Nghymru i gyflenwi'r farchnad newydd â llyfrau. Cyhoeddwyd dros 2,500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y 18g.
Heddiw, cyhoeddir 500-600 llyfr Cymraeg yn flynyddol, llawer ohonynt yn lyfrau i blant. Ymysg y cyhoeddwyr pennaf mae Gwasg Gomer, Gwasg Prifysgol Cymru a'r Lolfa (rhestr gyflawn o gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg). Ariennir y gwaith o gyhoeddi llawer o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan y Llywodraeth drwyGyngor Llyfrau Cymru a sefydlwyd fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg ym1961. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn dosbarthu llyfrau Cymreig yn Saesneg.
Ceir casgliad helaeth o lawysgrifau, cyfnodolion a llyfrau Cymraeg ynLlyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw rhoi ar gadw copi o bob llyfr gaiff ei gyhoeddi ym Mhrydain. Yn ogystal â deunydd ar bapur cesglir yno ddeunydd ar gyfryngau sain a llun.
Mae'r Gymraeg wedi bod yn elfen flaenllaw yn yrymwybyddiaeth o'r hunaniaeth Gymreig. Mae'r ymwybyddiaeth hon yn treiddio i waith llenorion Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Efallai mai'r man lle mae'r Gymraeg yn fwyaf amlwg yw'r anthem genedlaethol "Hen Wlad fy Nhadau": "a bydded i'r heniaith barhau". Mae'r Gymraeg, Cymreictod a cholli iaith yn themâu i nifer o weithiau llenyddol. Ymhlith y mwyaf amlwg o'r rhain yw nofelIslwyn Ffowc ElisWythnos yng Nghymru Fydd, a cherddiGerallt Lloyd Owen gan gynnwys "Etifeddiaeth", cerddGwyneth LewisY Llofrudd Iaith, cerddiJac Glan-y-gors "Dic Siôn Dafydd", a cherddiWaldo Williams "Yr Heniaith" a "Cymru a Chymraeg". Dylid hefyd grybwyll cerdd arall gan Waldo Williams, "Cofio", sy'n alarnad i ieithoedd a phobloedd golledig y ddaear gyfan.
Yn ogystal â cherddi sy'n moli'r Gymraeg neu weithiau yn galaru amdani neu'n ymgyrchu trosti, ceir hefyd weithiau sy'n mynegi'r profiad o fod yn Gymro Cymraeg. Mae'r profiad hwn yn annatod glwm wrth ddylanwad cenedligrwydd, cenedlaetholdeb, galar, cymhleth israddoldeb, rhamant y gorffennol, gwawd y Sais, ymgecru ymysg y Cymry, perthyn i draddodiad hir a gwerthfawr, a pherthyn i fro.[38]
Ceir ymateb cymhleth i'r Gymraeg a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod hefyd yng ngweithiau rhai llenorion Cymreig yn ysgrifennu yn Saesneg yn enwedig o'r 1930au ymlaen. Yn eu plith mae gweithiauCaradoc Evans, Cymro Cymraeg, megisMy People, gweithiauR. S. Thomas a ddysgodd Gymraeg (megis "Reservoirs" yn eiCollected Poems 1945-1990), aGwyn Thomas, yn Gymro di-Gymraeg o'r union genhedlaeth na fagwyd yn Gymry Cymraeg. Rhoddwyd mynegiant am y tro cyntaf i ymdeimlad o Gymreictod di-Gymraeg gan rai o'r llenorion hyn. Ffenomenon yn perthyn i Gymru'r 20g yw'r diwylliant Cymreig di-Gymraeg a dyfodd yn sgil y mewnlifiad mawr i'r cymoedd diwydiannol yn ystod y ddau ddegawd cyntaf o'r ganrif. Diddorol sylwi bodT. Llew Jones, a hanai o'r un ardal â Caradoc Evans, wedi galw ei hunangofiant o fwriad ynFy Mhobol i; ynddo mae'n trafod ymateb Caradoc Evans i'r Gymraeg.
Er mai digon gelyniaethus oedd rhai o'r llenorion Cymraeg a Saesneg tuag at ei gilydd ar ddechrau'r 20g, ond erbyn diwedd y ganrif roeddynt yn tueddi i gymodi yn lle ymgecru. Llwyddwyd i gyhoeddi casgliad o farddoniaeth ynThe Oxford Book of Welsh Verse in English ym1977 a gynhwysai gerddi Saesneg a cherddi a gyfieithwyd o'r Gymraeg mewn un gyfrol. Ym1986 cyhoeddwydCydymaith i Lenyddiaeth Cymru ar y cyd âThe Oxford Companion to the Literature of Wales. Erbyn hyn, ceir nifer o gyfrolau a gyhoeddir yn Saesneg a Chymraeg ar y cyd, megis llyfrau yn adrodd hanes bro neu'n dathlu digwyddiad hanesyddol.
Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agweddau ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.[39]
Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus.
Yn ystod y19g tyfodd diwydiantpapur newydd ffyniannus yng Nghymru. Erbyn 20au a 30au'r20g, fodd bynnag, roedd y farchnad papurau newydd drwy Brydain yn mynd yn fwy-fwy canolog dan bwysau'r farchnad a bu cwymp yn nifer y papurau newydd a gyhoeddid. PeidioddY Darian ym1934, traflyncwydY Genedl Gymreig gan gwmni'r Herald ym1932, a pheidioddY Faner ym1992.
Heddiw, mae nifer o bapurau a chylchgronau Cymraeg wythnosol neu fisol ar gael megisGolwg,Y Cymro aBarn ond does dim un papur dyddiol. Cafwyd ymdrech i lansio papur wythnosol o'r enw 'Y Byd', ond yn 2007 rhoddwyd y gorau i'r syniad oherwydd diffyg nawdd cyhoeddus. Noddir nifer o gylchgronau arbenigol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Erbyn heddiw, mae'r galw am newyddion lleol trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddiwallu gan y papurau bro. Mae'rpapurau bro yn aelodau o'r Gymdeithas Papurau Bro, ac yn derbyn nawdd o'r llywodraeth i ariannu'r papurau hyn. Mae dau gylchgrawn ar gyfer dysgwyr ar gael — Lingo (Golwg) ac Acen ar gyfer dysgwyr ar y lefelau isaf.
Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982.
Ei gyfrifoldeb yw darparu gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg. Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru a HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu ar adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu disodli neu'n cael ei darlledu ar amseroedd gwahanol.
Yn ôl ymchwil diweddar,[40] postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar 15 Awst 1989[41] Ar 13 Tachwedd 1992, agorwyd y rhestr e-bost WELSH-L, sef yWelsh Language Bulletin Board.[42] Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer fawr o feysydd ar y rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.
Yn sgil goblygiadauDeddf Iaith 1993, mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchugwefannau dwyieithog. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain.
O ran ycyfryngau cymdeithasol Cymraeg, mae dros 300 o flogiau Cymraeg[43] erbyn 2015, a thros 4,500 o gyfrifon yn defnyddio Cymraeg ar Twitter.[44] Nid yw'n glir beth yn union yw'r defnydd o Facebook, ond adnabu ymchwil a gynhaliwyd yn 2008[45] bod 238 grŵp Facebook lle roedd defnydd o'r Gymraeg.
↑Dunbar, R (2007).Diversity in addressing diversity: Canadian and British legislative approaches to linguistic minorities and their international legal context. In: Williams C (ed)Language and Governance. Cardiff: University of Wales Press. t. 104.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun owefan Comisiynydd y Gymraeg. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynyddam ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.