Astudiaethcymdeithas a gweithredoedd cymdeithasolbodau dynol ywcymdeithaseg. Yn gyffredinol mae'n ymwneud ârheolau aphrosesau cymdeithasol sy'n cysylltu a gwahanu pobl nid yn unig felunigolion, ond fel aelodaucymunedau,grwpiau, asefydliadau, ac yn cynnwys astudiaeth o drefniadaeth a datblygiad bywyd cymdeithasol dynol. Mae ymchwil cymdeithasegol yn amrywio o ddadansoddiad cysylltiadau byrion rhwng unigolion dienw ar y stryd i astudiaethprosesau cymdeithasol byd-eang. Mae'r rhan fwyaf o gymdeithaswyr yn gweithio mewn un arbenigedd neu fwy.
Mae'r gair cymdeithaseg yn tarddu o'r olddodiad "-eg" sy'n golygu "astudiaeth", a'r gair "cymdeithas" (sef, mewn ystyr llac, "pobl").Gwyddor cymdeithas sy'n cynnwys astudiaethbywydau cymdeithasol pobl,grwpiau, achymdeithasau yw e, a ddiffinir weithiau fel astudiaethrhyngweithiadau cymdeithasol. Feldisgyblaeth academaidd mae cymdeithaseg yn weddol ifanc – cafodd ei datblygu yn y19g.
Oherwydd bod cymdeithaseg yn bwnc mor eang, gall fod yn anodd i'w diffinio, hyd yn oed i gymdeithaswyr proffesiynol. Un ffordd ddefnyddiol i ddisgrifio'r ddisgyblaeth yw fel clwstwr o is-feysydd sy'n astudio agweddau gwahanol ar gymdeithas. Er enghraifft, maehaeniad cymdeithasol yn astudio anghyfartaledd a'rstrwythur dosbarth; maedemograffeg yn astudio newidiadau mewn meintiau a mathaupoblogaethau; maetroseddeg yn astudio ymddygiadau troseddol; maecymdeithaseg wleidyddol yn astudiollywodraeth a'rgyfraith; ac maecymdeithaseg hil achymdeithaseg rhyw yn astudio adeiladwaithhiliau arhywiau yn ogystal ag anghyfartaledd hiliol a rhywiaethol yng nghymdeithas. Mae is-feysydd cymdeithasegol dal i ymddangos – megisdadansoddiad rhwydwaith – ac mae nifer ohonynt yn groes-ddisgyblaethol eu natur.
Mae nifer o gymdeithaswyr yn gwneud ymchwil defnyddiol y tu allan i'r academi. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyoaddysgwyr, deddfwyr, gweinyddwyr, datblygwyr, arweinwyr busnes, a phobl sydd â diddordeb yn natrys problemau cymdeithasol a ffurfiopolisi cyhoeddus.
|
|---|
|
| Is-feysydd | Anthropoleg | |
|---|
Cyfraith | |
|---|
Cymdeithaseg | |
|---|
Daearyddiaeth | |
|---|
Economeg | |
|---|
Gwyddor gwleidyddiaeth | |
|---|
Hanes | |
|---|
Ieithyddiaeth | |
|---|
Seicoleg | |
|---|
|
|---|
| Meysydd rhyngddisgyblaethol | |
|---|
| Dulliau a methodoleg | |
|---|
| Categorïau a dosbarthiadau tebyg | |
|---|
|