Mewndaearyddiaeth, maecyhydedd yn llinell ddychmygol, sydd yn mynd o gwmpas yddaear mewn plaen sy'n berpendiciwlar i echel ei chylchdro. Mae i bob planed sy'n cylchdroi ei gyhydedd ei hun, ond fel arfer, mae "Cyhydedd" yn cyfeirio at linell ar y Ddaear. Gosodir y Cyhydedd yn union rhwng dau begwn y blaned; golyga hyn ei bod yr un pellter oBegwn y Gogledd ag ydyw oBegwn y De. Mae'r Cyhydedd yn rhannu'r ddaear yn ddau;Hemisffer y Gogledd acHemisffer y De.
Y gweledydd hynny sydd ar y Cyhydedd (coch) neu gyfeirnod meridian IERS (glas)
Diffinnir Cyhydedd y Ddaear o ran eiledred gan 0° (sero gradd). Mae'n un o bump prif cylch lledred a nodir mewn daearyddiaeth; ceir hefyd y cylchoedd pegynol hyn: (y CylchArctig a'r CylchAntartig) a'r ddau gylch trofannol (Trofan Cancr aThrofan Capricorn).
Chwith: Cofeb yn nodi'r Cyhydedd ger trefPontianak, Indonesia Y dde: Arwydd ffordd yn nodi'r Cyhydedd ger trefNanyuki, Cenia
Yn ei symudiad ymddangosiadol yn yr awyr, mae'r haul yn pasio uwchben y Cyhydedd ddwywaith y flwyddyn, yn ystod ycyhydnosau. Am eilad, yn ystod y cyhydnos, mae pelydrau'r haul yn union berpendiciwlar i wyneb y ddaear ar y rhan arbennig honno o'r Cyhydedd.
Mae'r mannau hynny sydd ar y Cyhydedd yn cael y gwawrio a'r machlud haul cyflymaf, gan fod yr haul yn codi ac yn machlud bron yn fertig drwy gydol y flwyddyn. Mae hyd diwrnod (o godiad haul hyd at ei fachlud) ar y Cyhydedd bron yn hafal drwy gydol y flwyddyn ac mae ei hyd oddeutu 14 munud yn hirach na'r nos oherwydd plygiant golau gan yr atmosffer a gan y diffinnir yr union eiliad o wawrio a machlud gan yr eiliad honno pan fo 'ymyl' yr haul (yn hytrach na'i ganol) i'w weld uwchben y gorwel. Mae'r Ddaear yn bolio rhyw ychydig ar y Cyhydedd. Eiddiametr yw 12,750 cilometr (7,922 mi), on ar y Cyhydedd mae'r diametr oddeutu 43 cilometr (27 mi) greater than at the poles.[1]
Lleolir nifer o ganolfanau gofod ger y Cyhydedd e.e. Canolfan Ofod Guiana ynKourou,Guiana Ffrengig, gan fod y lleoliadau hyn yn symud yn gynt nag unrhyw ledred arall oherwydd cylchdro'r Ddaear. Golyga hyn fod y rocedi'n defnyddio llai o danwydd, pan gânt eu lansio. Er mwyn gwneud yn fawr o hyn, mae'n rhaid i'r rocedi gael eu lansio i gyfeiriad y dwyrain, y de-ddwyrain neu'r gogledd-ddwyrain.