Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cyfrifiad

Oddi ar Wicipedia

Arolwg a wneir ganlywodraethgwlad er mwyn darganfod ystadegau am y boblogaeth, er enghraifft ei nifer,cyflogaeth, lleoliad, arferion ac ati ywcyfrifiad.

Mae'n debyg fod y syniad o gael cyfrifiad yn mynd yn ôl i'r cyfnod pan godwyd dinasoedd am y tro cyntaf. Arferai brenhinoedd gwareiddiadauMesopotamia a'rHen Aifft gynnal cyfrifiad, er enghraifft, ac roedd yn arfer gan yRhufeiniaid hefyd. Yng nghyfnodGweriniaeth Rhufain, etholid daucensor bob pum mlynedd, gyda chynnal cyfrifiad yn un o'u dyletswyddau.

Cyfrifiad Cymru a Lloegr

[golygu |golygu cod]

Cynhelid y cyfrifiad cyntaf erioed ynhanes Cymru ym1801. Roedd 587,000 o bobl yn byw yng Nghymru ar y pryd, aMerthyr Tudful oedd y dref fwyaf gyda 7,705 o drigolion.

Defnyddir hen gyfrifiadau yn aml mewn ymchwil hanesyddol megisHel Achau neu ymchwil hanes tŷ neu ardal benodol. YnLloegr aChymru (roedd cyfrifiadyr Alban acIwerddon yn annibynnol), y cyfrifiad cyntaf a ellir ei chwilio er mwyn pwrpas ymchwil yw1841, ond ni chofnodwyd enwau personol yn y cyfrifiadau cynnar a dinistriwyd y cyfrifiadau gwreiddiol, cyn 1841, wedi i'r ystadegau cael eu casglu.

Ym 1841 cofnodwyd yr enw a chyfenw, oedran (wedi ei grynhoi i'r pum mlynedd agosaf ar gyfer rhai dros 15 oed), galwedigaeth (Dynion yn unig) ac os aned y person yn y sir ai peidio, ac os aned hwy yn yr Alban, Iwerddon, neu mewn tiroedd estron. Cofnodwyd os oedd person yn Forwyn neu'n Was i'r teulu, ond nid y perthynas rhwng y teulu na rhwng ymwelwyr. Dechreuwyd i gofnodi perthynas rhwng yr enwau a gofnodwyd â'r pen-deulu ym1851 ynghyd â manylion pellach o le hanwyd pobl. Arhosodd hyn mwy neu lai yr un fath rhwng 1851 ac 1901, gyda mwy a mwy o fanylder ynglŷn â'r cyfeiriad yn cael ei ategu. Yng Nghymru, cyflwynwyd cwestiwn am y Gymraeg am y tro cyntaf yn1891.[1] Cofnodwyd os oedd person yn siaradCymraeg,Saesneg neu'r ddwy iaith.[2]


Cyhoeddwyd cyfrifiad 1901 fanylion am siaradwyr Cymraeg yng Nghymru eto, ond y tro hwn gyda rhai tair oed a throsodd, patrwm sydd wedi parhau hyd heddiw. O ran y data, categoreiddwyd siaradwyr Cymraeg yn ôl oedran a rhywedd. Casglwyd data ar gyfer siroedd gweinyddol, bwreistrefi, ardaloedd dinesig a gwledig.[3]

Nid oedd y manylion a roddir yn y cyfrifiad wastad yn fanwl gywir oherwydd lefel isel llythrennedd ymysg pobl ar y pryd. Saesneg fel arfer oedd prif iaith y cyfrifwyr, felly Seisnigwyd enwau Cymraeg yn aml a chamsillafwyd enwau lle a phersonol. Llenwyd y ffurflenni oll gan Gyfrifwr ar ffurf tabl. Roedd gan bob ardal ei Chyfrifwr ei hun a chymerwyd y cyfrifiad i gyd ar un noson, pob deng mlynedd fel rheol. Erbyn heddiw, nid oes cyfrifwyr, a dosberthir un ffurflen ar gyfer pob tŷ a disgwylia'r gyfraith y rhain gael eu llenwi a'i dychwelyd i'r cyfeiriad priodol erbyn y dyddiad penodol.

Ni chymerwyd y cyfrifiad ym1941, oherwyddyr Ail Ryfel Byd.

Gwelwyd dirywiad mawr yn canran siaradwyr Cymraeg wedi'r Ail Ryfel Byd. Dirywiodd y bobl 3 oed a throsodd a fedr siarad y Gymraeg o 36.8% (909,261 o bobl) yn 1931 i 28.9% (714,686 o bobl) erbyn 195 1[4]. Collwyd mwy o siaradwyr yn ôl cyfrifiad 1961-1971. Ni gwelwyd unrhyw arwydd calonogol nes cyfrifiad 1971.

Yn 2001, roedd llawer o gwynion am y diffyg blwch i nodi cenedligrwyddCymreig a gwrthododd nifer o bobl lenwi'r ffurflenni mewn canlyniad.

Cafwyd y cyfrifiad diwethaf yn2011.

Delir y cyfrifiadau o dan glo am gan mlynedd ond mae ystadegau'r cyfrifiad ar gael bron yn syth. Y rheswm am hyn yw cadw manylion personol yr unigolion a restrir arnynt yn gyfrinachol. Y cyfrifiad diweddaraf sydd ar gael yn llawn yw1901, erbyn hyn mae lluniau ac adysgrifau o'r cyfrifiadau ar gael ar y we, sydd wedi gwneud ymchwil hanesyddol yn llawer haws, ac wedi achosi atgyfodiad ym mhoblogeiddrwydd hel achau dros y byd.

Cyfrifiadau yng Nghymru a Lloegr

[golygu |golygu cod]
BlwyddynDyddiadAr Gael
18416 Mehefinar gael
185130 Mawrthar gael
18617 Ebrillar gael
18712 Ebrillar gael
18813 Ebrillar gael
18915 Ebrillar gael
190131 Mawrthar gael
19112 Ebrillar gael
192119 Mehefinar gael
193126 EbrillDinistriwyd yn y rhyfel
193929 Medi(Cofrestriad Cenedlaethol)ar gael
1941Dim cyfrifiad-
19518 Ebrillar gael
196123 Ebrillar gael
197125 Ebrillar gael
19815 Ebrillar gael
199121 Ebrillar gael
200129 Ebrillar gael
201127 Mawrthar gael
202121 Mawrthheb gynnal eto

Cyfrifiad Ynys Manaw

[golygu |golygu cod]

Deilwyd cyfrifiad diweddarafYnys Manaw ar ddydd Sul23 Ebrill2006, pum mlynedd ar ôl yr un diweddaraf.[5] Fel arfer, cynhelir cyfrifiad pob 10 mlynedd, ond penderfynodd y Llywodraeth gynnal cyfrifiad ychwanegol oherwydd eu bod yn credu bod y boblogaeth wedi codi'n sydyn iawn yn y cyfnod 2001–2006.[6] Cymerwyd cyfrifiad interim pob deng mlynedd ers1966 yn ogystal[7][8] ond fel rheol cymerir y cyfrifiad yn Ynys Manaw'r un pryd ac yng ngweddill Lloegr a Chymru, gan ddefnyddio'r un ffurflenni.[9]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Language questions in Wales, Matthew Woollard Adalwyd 10 Hydref 2014
  2. Language spoken in Wales and Monmouthshire, Vision of Britain Adalwyd 10 Hydref 2014
  3. Griffiths, I.; Aitchison, John; Carter, Harold (1996-07). "A Geography of the Welsh Language 1961-1991". The Geographical Journal 162 (2): 230. doi:10.2307/3059899. ISSN 0016-7398. http://dx.doi.org/10.2307/3059899.
  4. A., Jenkins, Geraint H. Williams, Mari (2000)."Eu hiaith a gadwant"? : y Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif. Gwasg Prifysgol Cymru.ISBN 1-4175-1612-7.OCLC 55872689.
  5. (Saesneg) BBC (13 Ebrill 2006). BBC NEWS. BBC. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  6. (Saesneg) BBC (17 Ionawr 2006). BBC NEWS. BBC. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  7. (Saesneg) Y Goron. Isle of Man Census 1996 - Isle of Man Treasury Department - Economic Affairs. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  8. (Saesneg) Y Goron. Isle of Man Census 2006: Introduction - Isle of Man Treasury Department - Economic Affairs. Y Goron. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
  9. (Saesneg) Ancestry.com. UK Census Collection - Ancestry.co.uk. Ancestry.com. Adalwyd ar 15 Hydref 2010.
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch amcyfrifiad
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cyfrifiad&oldid=13700057"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp