Cerflun o 'gyfiawnder' yn llys yr Old Bailey, Llundain
Rheolau swyddogol ywcyfraith, neuy gyfraith, sydd i'w darganfod mewncyfansoddiadau adeddfwriaethau, a ddefnyddir ilywodraethucymdeithas ac i reoli ymddygiadau ei haelodau. Yng nghymdeithasau modern, bu corffawdurdodedig megissenedd neulys yn gwneud y gyfraith. Caiff ei chefnogi gan awdurdod ywladwriaeth, sydd yn gorfodi'r gyfraith trwy gyfrwngcosbau addas (gyda chymorth sefydliadau fel yrheddlu).
Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yw goruchaf lys y DU gyfan (ers 2009) ar gyfer apeliadau cyfraith sifil. Mae ei awdurdod yn gyfyngedig i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[2]
Llys Cyfiawnder Ewrop yw llys rhynglywodraethol yr Undeb Ewropeaidd (UE) â'i bencadlys yn Lwcsembwrg.
RoeddDeddfau Uno 1536 a 1543 yn ddwy ddeddf i uno Cymru'n wleidyddol â Lloegr ac i ddisodli'r iaith Gymraeg o unrhyw rôl swyddogol.
Casgliad o hen gyfreithiau ywCyfraith Hywel a sefydlwyd yn y10g. Daeth cyfreithwyr ynghyd yn Hendy-gwyn ar Dâf tua 945 i gysoni, diwygio, dileu a chyhoeddi y cyfreithiau.