Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cyflaith

Oddi ar Wicipedia
Cyflaith o siopThorntons.

Melysfwyd a wneir drwy ferwi cymysgedd osiwgr,surop megistriagl, ac yn amlmenyn a'i adael i oeri ac ymgaledu ywcyflaith,cyfleth,taffi,toffi, neuffani. Ceir dau brif fath: cyflaith wedi ei dynnu, sy'n draddodiadol yng Nghymru a'r Unol Daleithiau, a chyflaith heb ei dynnu, sef y math a geir yn Lloegr.

Cyflaith Cymreig

[golygu |golygu cod]
Ffatri Taffi Harrison ymMhenrhyndeudraeth (1959).

Melysyn tynnu yw'r cyflaith Cymreig traddodiadol. Paratoid yn y cartref gan ddefnyddiotriagl du, siwgr a menyn. Berwer y cymysgedd gan roi iddo ei ansawdd arbennig, a thywallt y cymysgedd ar fwrdd llechen neu ddysgl agored. Yna iro'r dwylo â menyn a thynnu'r cyflaith yn rhaffau hirion, melyn.[1] Mae'r traddodiad o bartïon tynnu cyflaith yn parháu mewn rhannau o Gymru. Gellir cael cyflaith heb fenyn, ond gan amlaf bydd yn cynnwys ychydig ofêl neu surop i atal crisialu.[2]

Mae'n hen arferiad mewn llawer man yng ngogledd Cymru gynnal Noson Gyflaith i ddathlu'rNadolig neu'rFlwyddyn Newydd. Bydd pobl ifainc, gan amlaf, yn ymgynnull mewn ffermdai i wneud cyflaith triog wrth aros am amser gwasanaethy plygain.[3] Traddodiad arall oedd rhagweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r gyflaith i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai.[4]

Losin du neu daffi triog, a fwyteir adegCalan Gaeaf aNoson Guto Ffowc. Ceir y cyflaith hwn ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yny cymoedd glo. Ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yn y de, ond roedd yn arfer gan wragedd i'w werthu o'u cartrefi neu yn y farchnad leol.[5] Cyflaith o liw gwyn a hufen oedd taffi a ffani neu ddant. Byddai amryw o wragedd ymMorgannwg yn ei wneud yn eu cartrefi ar gyfer ei werthu. Siwgr a menyn oedd ei sylfaen, a byddid yn ei dynnu nes cael rhan ohono'n wyn a'r gweddill o liw hufen. Byddid yn blasu'r un lliw hufen ag olewmintys weithiau. Fe'i gwerthid yn stribedi deuliw o ryw chwe modfedd o hyd am geiniog yr un.[1] Ym Morgannwg ceir hefyd paradeis, sef darnau o gyflaith ar ffurf tri chornel ac wedi'u blasu âmintys, a'u gwerthu am geiniog yr owns. Hefyd yn yr ardal honno rhoddir yr enw losin tripa ar gyflaith a wnaed yn y cartref.[6] Gwnaed cyflaith o'r enw losin bwtwna gan hen wraig mewn siop fach ynAberdâr. Byddid yn ei dynnu nes iddo droi'n wyn, ei dorri'n ddarnau ac yna addurno'r darnau â chwrlyn o gyflaith.[6]

Toffi Seisnig

[golygu |golygu cod]

Gelwid cyflaith Seisnig neu Brydeinig ynghynt yn daffi (Saesneg:taffy), a heddiw yn doffi (toffee). Gwneir osurop siwgr a menyn gyda chynhwysyn ychwanegol i atal crisialu, er enghraifft surop neudriagl du yn lle rhai o'r siwgr, neu asid megissudd lemwn. Berwer i'rcam hollt feddal i wneud toffi meddal, neu'r gam hollt galed am doffi caled, gan ei gymysgu'n brin iawn neu ddim o gwbl. Arllwysir a gedewir i geulo, heb dynnu neu fel arall trin y cymysgedd. Ceir nifer fawr o ychwanegion a chyflasynnau, gan gynnwys triagl,cnau,siocled,hufen neuhufen sur, mintys, awisgi.[7]

Taffi Americanaidd

[golygu |golygu cod]
Powlen o daffis dŵr hallt.

Melysyn tynnu yw taffi Americanaidd, yn debyg i gyflaith yng Nghymru. Gwerthir yn aml ar ffurf melysion bychain mewn papurau losin lliwgar, math o "gandis ceiniog" (penny candies). Yn ôl y rysáit sylfaenol, gwresogir cymysgedd o siwgr, dŵr a thriagl neusurop corn, ac yna'i dywallt dros lechen i oeri a'i flasu gydagolew naws. Wrth iddo oeri, tynnir a phlygir y taffi gan roi iddo ansawdd gwydn ond meddal.[8] Math poblogaidd yw taffi dŵr hallt, a brynid gan genedlaethau o Americanwyr yn y ffair ac ar lan y môr. Gwneir heb fenyn ac yn wreiddiol gyda dŵr y môr.[2]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1S. Minwel Tibbott.Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 54.
  2. 2.02.1Alan Davidson.The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 801.
  3. Trefor M. Owen.Welsh Folk Customs (Amgueddfa Werin Cymru, 1978), t. 28.
  4.  Arferion Nadoli. BBC Cymru. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
  5.  Gwneud Cyflaith. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
  6. 6.06.1Tibbott,Geirfa'r Gegin (1983), t. 55.
  7. Davidson,Companion to Food (2006), tt. 800–01.
  8. (Saesneg) taffy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2015.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae ganGomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cyflaith&oldid=13027373"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp