Maegwyddonwyr yn credu mailafa yn llifo i arwyneby Ddaear o'rcraidd tawdd wnaeth creu'r cyfandiroedd. Ar yr arwyneb,ymsolidodd y lafa igramen, a wnaetherydu'ngwaddodion trwy brosesauhindreuliad. Ffurfiodd, chwalodd ac ailffurfiodd y gwaddodion yma tro ar ôl tro, wedi'u heffeithio gan nwyon poeth yn codi o ganol y Ddaear. Ar ôl caledu, trodd yllwyfandiroedd gwaddodol oedd ar ôl yn y cyfandiroedd, sydd yn gorchuddio tua 30% o wyneb y Ddaear.[1]
Mae'r enw cyfandir ei hunan yn awgrymu taw pwnc daearyddol yw dosbarthiad cyfandiroedd, ond yn ddiweddar bu rhai yn galw am ailddosbarthiad cyfandiroedd yn ôl rhesymau gwleidyddol (e.e. cefnogaeth am esgyniad (annhebygol)Canada i'rUndeb Ewropeaidd) neu am resymauhanesyddol (e.e. cynhwysiad gwledydd megisIwerddon acAngola ynyr Amerig).
Dysgir y model 7-cyfandir ynTsieina, rhannau oOrllewin Ewrop, a'r rhan fwyaf o wledyddSaesneg. Dysgir y model 6-chyfandir (un America) ynAmerica Ladin,Iberia, a'r rhan fywaf o Orllewin Ewrop. Dysgir y model 6-chyfandir (Ewrasia) ynRwsia,Dwyrain Ewrop, aJapan. Mae'n well gan y gymuned ddaearyddol y model hon, gan fod Ewrop ac Asia yn yr un tir yn ddaearyddol. Mae rhai haneswyr (megisJared Diamond) yn defnyddio model 5-cyfandir lle gwahanirGogledd Affrica oAffrica Is-Saharaidd a'i chynnwys yn Ewrasia, tra bo eraill (megisAndre Gunder Frank) yn ffafrio'r model 4-cyfandir (Affrica-Ewrasia). Ni welir y model 5-cyfandir (Lawrasia) yn aml – dim ond am resymau diwydiannol neu ddaearegol (roedd Gogledd America ac Ewrasia ynun gyfandir blynyddoedd maith yn ôl) y'i defnyddir.
Oherwyddsymudiadau'r platiau, bu nifer o gyfandiroedd eraill trwy hanesy Ddaear, gyda siapiau cwbl wahanol i gyfandiroedd heddiw, ac mae o i fyny i ddaearegwyr i benderfynu beth oedd ffurfiau [yr eangdiroedd yma.
Rhanbarth mawr o gyfandir ywisgyfandir. Nid oes cydwelediad ar beth sy'n gwneud isgyfandir, ond fel arfer gwahanir isgyfandir o weddill y cyfandir gan rhywtirffurf mawr neu nodweddddaearegol, megis cadwyn ofynyddoedd neublât tectonig.
Gwahaniaethir cyfandir oynys neuorynys nid yn unig gan faint mwy ond hefyd gan strwythur a datblygiad daearegol. Mae'r ardal gyfandirol – sef yr holltir uwchbenlefel y môr – yn gorchuddio 29% o gyfanswm arwynebedd y Ddaear. Mae mwy na dau draean o arwynebedd y tir cyfandirol i ogledd ycyhydedd. Ar ben hynny, mae'reangdiroedd cyfandirol yn cynnwys yrysgafellau cyfandirol suddedig, sy'n goleddu o lannau cefnforol y cyfandiroedd i ddyfnderoedd o dua 183 m; ar dua'r pwynt yma mae'r plymiad mwy sydyn yn dechrau i'rffos gefnforol a elwir yn yllethr cyfandirol. Os ystyrir yr ysgafellau cyfandirol, mae cyfanswm yr ardal gyfandirol yn cynyddu i 35% o arwynebedd y Ddaear. Mae ynysoedd sy'n sefyll ar ysgafell gyfandirol rhyw cyfandir yn cael eu hystyried fel rhan o'r cyfandir hwnnw. Mae enghreifftiau yn cynnwysPrydain Fawr acIwerddon yn Ewrop;Ynysfor Malei aSiapan yn Asia;Gini Newydd,Tasmania, aSeland Newydd ynAwstralasia; a'rYnys Las yng Ngogledd America.