Sain | |
![]() | |
Rhiant gwmni | Sain yw rhiant gwmni label Sain,Rasal, Copa, Gwymon a Slic. |
---|---|
Sefydlwyd | 1969 |
Sylfaenydd | Dafydd Iwan,Huw Jones, aBrian Morgan Edwards |
Math o gerddoriaeth | Clasurol, corawl, gwerin/byd, poblogaidd, gwlad, plant |
Gwlad | Cymru |
Gwefan swyddogol | sainwales.com |
Cwmni alabel recordio o Gymru ywSain. Erbyn heddiw Sain yw cynhyrchydd recordiau mwyaf Cymru gyda cherddoriaeth werin, roc, pop, hip hop, rap, canu gwlad a chlasurol yn rhan o’r ddarpariaeth ganddynt.
Ystyrir mai Sain yw y cwmni recordio gyntaf Cymreig i fod yn hunangynhaliol. Rhyddhawyd sengl gyntaf Sain yn Hydref 1969 o dan yr enw "Dŵr" gan Huw Jones. Roedd yn gan am foddicwm Tryweryn. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y cwmni yn stiwdio Rockfield ynSir Fynwy. Yn 2017 rhyddhaodd Sain dros 7,000 o glipiau sain a 498 clawr albwm.
Y prif weithredwr ers Mai 2025 yw Kevin Tame.[1]
Sefydlwyd y cwmni yn1969 ganDafydd Iwan,Huw Jones a'r dyn busnesBrian Morgan Edwards yngNghaerdydd. Ffurfiwyd cwmni Sain (Recordiau) Cyfyngedig ar 21 Hydref 1969. Y sengl cyntaf i'r cwmni ryddhau oeddDŵr gan Huw Jones yn Hydref 1969, cân am foddiCwm Tryweryn.
Symudwyd swyddfa'r cwmni o 62 Heol Ninian, Parc y Rhath, Caerdydd iLandwrog, gerCaernarfon, yn1970 er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfaGymraeg ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewnardal Gymraeg, a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn yWaunfawr.
Yn1973 symudodd y cwmni i Stad DdiwydiannolPen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol.Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc,canu pop,canu gwerin a phrotest. Yn1975 agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.
1975 -1979 oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiauroc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau felEdward H. Dafis wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oeddHergest aDelwyn Siôn,Geraint Jarman,Heather Jones,Meic Stevens,Tecwyn Ifan,Mynediad am Ddim acEmyr Huws Jones,Endaf Emlyn,Injaroc,Brân,Shwn,Eliffant,Ac Eraill aSidan.
Roedd Dafydd Iwan yn parhau i ddenu tyrfaoedd gyda'i ganeuon personolgwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â'rdeffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y1960au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Cymreig, a hefyd yn flaenllaw yn y mudiad cenedlaethol gwleidyddol. EnilloddPlaid Cymru ei seddau cyntaf ynSan Steffan yn1966 (Gwynfor Evans yngNghaerfyrddin) a1974.
Trebor Edwards aHogia'r Wyddfa oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu "canol-y-ffordd", yn ogystal â grwpiau eraill felHogia Llandegai aTony ac Aloma. Gwerthiant recordiau'r artistiaid hyn, a recordiaucorau meibion, oedd asgwrn cefn y cwmni.
Bu i Sain gymeryd catalog recordiadau cwmni boblogaiddRecordiau'r Dryw oedd yn weithredol rhwng 1964 - 1976.
Agorwyd Stiwdio SAIN, gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn1980. Ar y pryd, yr oedd hi gyda'r mwyaf modern o'i bath ynEwrop, ac yr oedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i'r un safle â'r Stiwdio yn1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio'n amser-llawn i'r cwmni.
Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu'r stiwdio newydd, a bu'n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddauBarcud a chwmni cynhyrchuTir Glas ar gyfer sianeldeledu newyddS4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu, er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN.
Cymerwyd lle Hefin Elis fel cynhyrchydd staff gan Gareth Hughes Jones, ac yna gan Emyr Rees. Cynhyrchwyr eraill a fu'n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw Tudur Morgan, Les Morrison, Simon Tassano, Donal Lunny, Euros Rhys, Steffan Rees,Gareth Glyn, Geraint Cynan,Myfyr Isaac, Annette Bryn Parri, a'r diweddar Gareth Mitford Williams.
Yn1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â'r gallu i olygu'n ddigidol, a chynhyrchuCryno-Ddisgiau. Mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno bellach, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau â'r bydteledu,ffilm afideo.
Yn Rhagfyr 2012 cyhoeddwyd fod y cwmni ar werth. Maent am sicrhau y cedwir y cwmni yn weithredol fel ag y mae, ac am osgoi gwerthu i rywun fyddai ond a diddordeb yn yr ôl-gatalog a'r hawlfreintiau.[2] Ond cyhoeddwyd yn Rhagfyr 2015 na fyddai'r cwmni yn cael ei werthu wedi'r cyfan a byddai'r cwmni yn datblygu ap ffrydio cerddoriaeth "ApTon" ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg.[3]