Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cwafer

Oddi ar Wicipedia
Ffigwr 1. Cwafer gyda choesyn yn wynebu i fynny, cwafer gyda choesyn yn wynebu i lawr a saib y cwafer.
Ffigwr 2. Pedwar cwafer wedi'u cysylltu â'i gilydd.

Mewncerddoriaeth, ycwafer yw'r nodyn a chwarëir am wythfedamser yrhannerbrif.

Fe'i nodir gyda chylch hir-grwn du gyda choesyn syth gydag un faner. (Gweler Ffigwr 1.). Symbol sy'n perthyn iddo ywsaib y cwafer sydd yn dynodi tawelwch am yr un cyfnod oamser.

YnUnicode y symbol yw: U+266A () os unigol neu U+266B () os mewn parau.

Llunir y nodau gyda'r coesynnau yn wynebu i lawr ac i dde pen y nodyn os yw'r nodyn yn is na llinell ganol yrerwydd ac y gwrthwyneb os yw'n uwch na'r llinell ganol.

Mae'r baneri wastad ar ochr dde y coesyn gan gylchu i'r dde. Ar y coesynnau sy'n wynebu i fyny, mae'r faner yn dechrau ar y pen ac yn cylchu i lawr; ar goesynnau sydd yn wynebu i lawr, mae'r baneri yn y dechrau ar waelod y coesyn ac yn cylchu i fyny.

Pan mae yna nifer o gwaferi ar bwys ei gilydd, fe gysylltir y coesynnau gyda phelydr yn hytrach na baner, fel dengys Ffigwr 2.

Daw'r gair "cwafer" o'r gair Saesneg,"quaver" sydd yn dod o'r ferf"to quaver" sy'n golygu i ganu mewn triliau.

Mae'r enwau ar gyfer y nodyn hwn yn ieithoedd Ewropeaidd yn amrywio'n fawr fel dengys y tabl isod:

IaithEnw'r nodynEnw'r saib
AlmaenegAchtelnoteAchtelpause
Ffrangegcrochedemi-soupir
Eidalegcromapausa di croma
Sbaenegcorcheasilencio de corchea
Portiwgalegcolcheiapausa de colcheia

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cwafer&oldid=13427227"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp