Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cross Ash

Oddi ar Wicipedia
Cross Ash
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.873°N 2.863°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO407197 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map

Pentref yngnghymunedLlangatwg Feibion Afel,Sir Fynwy,Cymru, ywCross Ash[1][2] neuCroes Onnen.[3][4] Saif mewn ardal wledig yng ngogledd-ddwyrain y sir, ar ffordd y B4521 rhwngY Fenni acYnysgynwraidd.

Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganPeter Fox (Ceidwadwyr)[5] ac ynSenedd y DU ganCatherine Fookes (Llafur).[6]

Enw

[golygu |golygu cod]

Yr enwCymraeg yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal yn ôl cofnodion mapiau hanesyddol o hanner cyntaf y19eg ganrif.[4][7] 'Croesffordd gydagonnen' yw ystyr yr enw.[8]

Yn 2004 ychwanegwyd yr enw "Croes Onnen" at arwyddion ffyrdd y tu allan i'r pentref er mwyn eudwyieithogi. Er ymddengys taw hwn yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal,[4] mynnodd ymgyrchwyr lleol nad oedd sail hanesyddol iddo a’i fod yn fathiad diangen, a chwyno na fu unrhyw ymgynghori â phentrefwyr.[9][10] Llwyddodd yr ymgyrchwyr i gael yr enw Cymraeg wedi'i dynnu o'r arwyddion yn 2011.[11] Ailgyflwynwyd yr enw Cymraeg i brif stryd y pentref yn 2021 pan osodwyd arwydd ysgol newydd gan yr ysgol gynradd.[3] "Cross Ash" yw'r ffurf sy'n ymddangos ar restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gyhoeddir ganGomisiynydd y Gymraeg.[1]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1"Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru".Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
  3. 3.03.1"Arwydd Ysgol Gynradd Croes Onnen".Twitter. 6 Medi 2021. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
  4. 4.04.14.2Budgen, Charles (1813)."Darluniau'r Arolwg Ordnans: Wysg".Y Llyfrgell Brydeinig. Cyrchwyd17 Chwefror 2022.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. "Map degwm Ynysgynwraidd".Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 1842. Cyrchwyd18 Chwefror 2022.
  8. Owen, Hywel Wyn (2007).Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer.ISBN 978-1-84323-901-7.OCLC 191731809.
  9. Nicholas, Roy (24 Chwefror 2011)."Don't blame the Welsh Language Board".Monmouthshire Beacon. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
  10. Brendan Hughes (1 Mehefin 2011)."Villages' Welsh names painted out by council".Western Mail. Cyrchwyd1 Mehefin 2011.
  11. "Rockfield and Cross Ash signs have Welsh names removed". BBC News. 1 Mehefin 2011. Cyrchwyd1 Mehefin 2011.
gw  sg  go
Trefi a phentrefiSir Fynwy

Trefi
Brynbuga  ·Cas-gwent  ·Cil-y-coed  ·Y Fenni  ·Trefynwy
Pentrefi
Aber-ffrwd  ·Abergwenffrwd  ·Betws Newydd  ·Bryngwyn  ·Caer-went  ·Castellnewydd  ·Cemais Comawndwr  ·Cilgwrrwg  ·Clydach  ·Coed Morgan  ·Coed-y-mynach  ·Cwmcarfan  ·Cwm-iou  ·Drenewydd Gelli-farch  ·Y Dyfawden  ·Yr Eglwys Newydd ar y Cefn  ·Gaer-lwyd  ·Gilwern  ·Glasgoed  ·Goetre  ·Gofilon  ·Y Grysmwnt  ·Gwehelog  ·Gwernesni  ·Gwndy  ·Hengastell  ·Little Mill  ·Llanarfan  ·Llan-arth  ·Llanbadog  ·Llancaeo  ·Llandegfedd  ·Llandeilo Bertholau  ·Llandeilo Gresynni  ·Llandenni  ·Llandidiwg  ·Llandogo  ·Llanddewi Nant Hodni  ·Llanddewi Rhydderch  ·Llanddewi Ysgyryd  ·Llanddingad  ·Llanddinol  ·Llanelen  ·Llanelli  ·Llanfable  ·Llanfaenor  ·Llanfair Cilgedin  ·Llanfair Is Coed  ·Llanfihangel Crucornau  ·Llanfihangel Gobion  ·Llanfihangel Tor-y-mynydd  ·Llanfihangel Troddi  ·Llanfihangel Ystum Llywern  ·Llanfocha  ·Llan-ffwyst  ·Llangatwg Feibion Afel  ·Llangatwg Lingoed  ·Llangiwa  ·Llangofen  ·Llan-gwm  ·Llangybi  ·Llanhenwg  ·Llanisien  ·Llanllywel  ·Llanofer  ·Llanoronwy  ·Llan-soe  ·Llantrisant  ·Llanwarw  ·Llanwenarth  ·Llanwynell  ·Llanwytherin  ·Y Maerdy  ·Magwyr  ·Mamheilad  ·Matharn  ·Mounton  ·Nant-y-deri  ·Newbridge-on-Usk  ·Y Pandy  ·Pen-allt  ·Penrhos  ·Pen-y-clawdd  ·Porth Sgiwed  ·Pwllmeurig  ·Rogiet  ·Rhaglan  ·Sudbrook  ·Tre'r-gaer  ·Tryleg  ·Tyndyrn  ·Ynysgynwraidd

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cross_Ash&oldid=13088015"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp