Mae Croatia wedi ei lleoli yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop, yn ffinio gydaHwngari i'r gogledd-ddwyrain, Serbia i'r dwyrain,Bosnia a Hertsegofina i'r de-ddwyrain,Montenegro i'r de-ddwyrain, yMor Adriatig i'r de-orllewin a Slofenia i'r gogledd-orllewin. Mae'n gorwedd yn bennaf rhwng lledredau 42° a 47° G a hydredau 13° a 20° Dn. Mae rhan o'r diriogaeth sydd bellaf i'r de sy'n amgylchynnuDubrovnik yn allglofan ymarferol sy'n gysylltiedig â'r cyfandir gan stribyn byr o arfordir sy'n perthyn i Fosnia a Hertsegofina o amgylchNeum.
Credir fodhanes Croatia yn cychwyn gyda'rIllyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'rYmerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwythCeltaidd yBoii ynPannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaithIllyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir felPula,Split aDubrovnic i gyd yn hen iawn.Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw PalasDiocletian yn Split (300 OC) a'ramffitheatr fawr yn Pula.
Cyrhaeddodd yCroatiaid (llwythSlafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r 7c ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig danVladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siaradLladin ac wedynEidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oeddTomislav, a goronwyd yn 925.
Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnasHwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraethFenis, yMongoliaid a'rCroesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbynbrwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan oYmerodraeth yr Otomaniaid.
Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbynArchddug Ferdinand oAwstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yrHabsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.
Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid.
Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae Croatia yn cynrychioli cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol. Mae wedi bod yn groesffordd i ddylanwadau diwylliannol y gorllewin a'r dwyrain ers i'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a'r Ymerodraeth Bysantaidd ymrannu - yn ogystal â diwylliannau Mitteleuropa a Môr y Canoldir.[240] Y mudiad Ilyraidd oedd y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes diwylliant y genedl, oherwydd i'r 19eg ganrif brofi'r allweddol i ryddhau'r iaith Croataidd a gweld datblygiadau nas gwelwyd eu math o'r blaen yn holl feysydd diwylliant a chelf.[43]
Mae Croatia yn cael ei hystyried gan y Cenhedledd Unedig fel economi incwm uchel. Mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol (GDP) enwol Croatia yn $53.5 billion, neu $12,863 per capita yn 2017, tra bod paredd grym pwrcasu y Cynnyrch Mewnwladol yn $100 billion, neu $24,095 per capita. Yn ôl data Eurostat, roedd PPS GDP Croatia yn 61% o'r cyfartaledd Ewropeaidd yn 2012.
Roedd twf real y Cynnyrch Mewnwladol yn 2007 yn 6.0 y cant. 5,895 HRK y mis oedd cyfartaledd cyflog gweithiwr yng Nghroatia yn Ionawr 2017, a chyfartaledd cyflog crynswth oedd 7,911 HRK y mis.[155] Yn Chwefror 2017, roedd cyfradd ddiweithdra gofrestredig Croatia yn 15.3 y cant.