Sant Cristnogol oeddCristoffer neuCristoffr[1] (o'rGroegΧριστόφορος,Christóphoros, "Un a gludodd Crist"). Ef ywnawddsant teithwyr, a dethlir ei ŵyl ar 25 Gorffennaf mewn Eglwysi Gorllewinol ac ar 9 Mai yn Eglwysi Uniongred y Dwyrain.[2]
Does braidd dim yn wybyddys am fywyd y Cristoffer hanesyddol, ond yn ôl traddodiad cafodd eiferthyru ynAsia Leiaf yn y3g. Bu nifer o chwedlau amdano, ac ymddangosodd y rhain yn eu ffurf terfynol ynY Llith Euraid, casgliadJacobus de Voragine o fucheddau'r seintiau, yn y 13g. Yn ôl y chwedl roedd Cristoffer yn gawr oGanaan a wasanaethodd yDiafol ar un adeg, ond ar ôl darganfod bod ei feistr yn ofni'rIesu penderfynodd wasanaethu Mab y Dyn, a oedd yn fwy pwerus, yn ei le. Yna fe ddysgodd am Gristnogaeth oddi wrthfeudwy, ag awgrymodd iddo y gallai blesio Crist drwy ddefnyddio ei nerth i gario teithwyr ar ei gefn ar draws afon beryglus. Un tro daeth plentyn i lan yr afon a oedd yn eithriadol o drwm, gan mai Crist oedd y plentyn, a chariai bwysau'r byd ar ei ysgwyddau. Dywedodd wrth Gristoffer i blannu ei wialen yn y ddaear, a blodeuodd hon y bore drannoeth, yn dystiolaeth bod yr hyn a ddywedodd y plentyn yn wir.[3]
Roedd cwlt Sant Cristoffer yn un o'r ofergoelion a ddirmygwyd adeg yDiwygiad Protestannaidd, ond yn fwy diweddar bu adfywiad yn ei boblogrwydd yn sgil twf trafnidiaeth mewn ceir ac awyrennau. Er gwaethaf hyn, peidiodd cwlt swyddogol y sant yn yrEglwys Gatholig ym 1969 oherwydd diffyg seiliau cadarn i'r chwedl.[3] Adeiladwyd eglwysAnglicanaidd wedi'i gysegru i Sant Cristoffer yn Bulwark, maesdref oGas-gwent, yn yr 20g,[6]; nid yw'n ymddangos fod rhagor o eglwysi wedi'u cysegru iddo yng Nghymru.
(Moliant ganGuto'r Glyn i Huw Lewys ap Llywelyn o Brysaeddfed pan fu bron â boddi.)[7]
Canodd yr un bardd, Guto'r Glyn, gywydd hefyd gan ddefnyddio sillafiad gwahanol:
Sain Cristoffr a fu’n offrwm
Yn dwyn Crist megis dyn crwm.
Mae'r gynghanedd yn mynnu defnyddio'r sillafiad Cristor yn yr enghraifft gyntaf a Christoffr yn yr ail ac mae'n amlwg felly bod y ddwy ffurf yn cael eu defnyddio yn yr Oesoedd Canol.
Ym myd natur, ceir:llysiau Cristoffyr (neuCristoffys), sefPulicaria dysenterica.[8]
↑Cross, F. L.; Livingstone, E. A., gol. (1997).The Oxford Dictionary of the Christian Church. Rhydychen ac Efrog Newydd:Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 105.
↑3.03.13.2Farmer, David (2004).The Oxford Dictionary of Saints. Rhydychen ac Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. tt. 105–6.