Creoliaid Louisiana
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
| Enghraifft o: | grŵp ethnig |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bms44 |
Grŵp ethnig sydd yn hanu o dalaithLouisiana yn neUnol Daleithiau America ywCreoliaid Louisiana (Ffrangeg:Créoles de la Louisiane,Saesneg:Louisiana Creoles,Sbaeneg:Criollos de Luisiana) sydd yn disgyn o drigolion yr ardal honno yn yr oes drefedigaethol, pryd oedd Louisiana dan reolaethFfrainc (1682–1769, 1801–03) aSbaen (1769–1801). Maent yn bennaf o drasFfrancod,Sbaenwyr,Affricanwyr, acAmericanwyr Brodorol, gyda rhywfaint o linach o ymfudwyrAlmaenig,Gwyddelig, acEidalaidd sydd wedi cymysgu â'r Creoliaid. Ieithoedd traddodiadol Creoliaid Louisiana ywCreoliaith Louisiana,Ffrangeg, aSbaeneg, ond bellach mae nifer ohonynt yn defnyddio'rSaesneg fel eu prif iaith.[1]Catholigion ydy'r mwyafrif helaeth o Greoliaid Louisiana.