Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cramen y Ddaear

Oddi ar Wicipedia
Cramen y Ddaear
Enghraifft o:cramen Edit this on Wikidata
Rhan oy Ddaear, strwythur y Ddaear Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspridd, subsurface Edit this on Wikidata

Y gramen yw’r enw a roddir i haen fwyaf allanol y blaned, ac mae’n rhan o’ilithosffer. Mae fel arfer wedi'i ffurfio o ddeunydd llai dwys na gweddill y blaned.Basalt agwenithfaen sy’n ffurfio'r rhan fwyaf o grameny Ddaear. Mae’r gramen yn oerach ac yn fwy cadarn na’r haenau dyfnach fel yfantell a’rcraidd.

Rhyngdoriad o'rDdaear, o'rcraidd i'r gramen

Ar blanedau haenog, fel y Ddaear, mae’r lithosffer yn arnofio ar haenau mewnol sy’n llifo. Mae’r gramen yn cael ei rhannu'n sawlplât tectonig gan geryntau darfudiad yn yr asthenosffer is. Er nad yw’r asthenosffer yn hylif, mae’n ymddwyn yn blastig.

Mae’rgramen gyfandirol yn wahanol i’rgramen gefnforol. Mae’r gramen gefnforol wedi’i chyfansoddi yn bennaf o fasalt ac mae ganddi drwch o tua 5–10 km. Mae’r gramen gyfandirol wedi’i gwneud o sawl craig lai dwys, ac mae ganddi drwch o tua 20–70 km.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cramen_y_Ddaear&oldid=11814478"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp