Llid ar ycroen sy'n periatgyrch i grafu ywcosi,prwritis,cosfa neu'rgoglais. Mae cosi ynsymptom cyffredin iawn o nifer ogyflyrau meddygol ac yn aml bubrech neu smotyn lle mae'n digwydd. Gall effeithio ar unrhyw rhan o'rcorff, a gall digwydd dros y corff cyfan neu mewn un man lleoledig yn unig.[1]
Achosir cosi gan ystod eang oglefydau,heintiau, a chyflyrau meddygol. Maent yn cynnwys:[2]
- clefydau megisdiabetes math 1 amath 2,clefyd thyroid (isthyroidedd),methiant arennol difrifol, acanemia oherwydd diffyg haearn;
- rhai cyflyrau sy'n effeithio ar yrafu megissirosis bustlog sylfaenol,canser yr afu, ahepatitis;
- cyflyrau ar ycroen, megisecsema,soriasis,lichen planus,acne rhosynnaidd,gwres pigog (brech goslyd iawn a fydd yn ymddangos yn ystod tywydd poeth, llaith),llosg haul, achroen sych;
- heintiau, megisbrech yr ieir,y dwymyn goch,haint ffyngaidd sy'n gallu achosi cosi ar y corff (tarwden), yn yr afl, neu rhwng bysedd y traed (tarwden y traed), acandidasis sy'n achosi cosi yn rhan allanol yrorganau rhywiol benywaidd;
- pryfed megisllau corff,pen, acarffed,gwiddonyn sy'n achosiclefyd y crafu, abrathau a phigiadau pryfed; a
- beichiogrwydd, lle mae cosi yn symptom cyffredin, ond gall hefyd fod yn symptom cynnar ocolestasis obstetrig (a chynghorir i fenywod beichiog sy'n profi cosi i'w wirio ganfeddyg neufydwraig, yn arbennig yn ystod y trydydd tymor gan y bydd yn arwain atfarwanedigaeth).
Gall cosi hefyd gael ei achosi gan adwaith ifeddyginiaeth neuadwaith alergaidd i lawer o bethau, megiscosmetigau,ffabrigau,metelau penodol (e.e.nicel), neu gysylltiad â phlanhigion gwenwynig neu blanhigion sy'n pigo. Fel arfer, byddgwaldiau coch coslydllosg danadl ar wyneb y croen yn adwaith alergaidd i fwyd neu feddyginiaeth.[2]
Cynghorir i unigolion sydd yn dioddef o gosi difrifol, yn para am amser hir, yn ailadroddus, neu'n gysylltiedig â symptomau eraill megisproblemau anadlu neuchwyddo, i ymweld âmeddyg i gaeldiagnosis. Gall cosi ar hyd y corff cyfan, heb unrhyw achos amlwg neu yn ystod beichiogrwydd, bod yn symptomcyflwr sylfaenol difrifol.[3]
Maetriniaeth y llid hwn yn dibynnu ar achos y cosi. Defnyddirmeddyginiaeth a chyngor hunanofal i'w drin.
Cynghorir cleifion sydd yn dioddef o gosi i geisio peidio â chrafu, sydd yn llidio'r croen ymhellach gan arwain at fwy o gosi a mwy o grafu. Cynghorir i gleifion cadw euhewinedd yn fyr i helpu wrthsefyll yr atgyrch, ac i geisio binsio'r croen ger y cosi rhwng y bawd a'r mynegfys drwy'r dillad, gan fydd hyn yn creu llai o ddifrod na chrafu uniongyrchol. Cynghorir i wisgo dilladcotwm os bosib, yn hytrach na deunyddiau sy'n achosi llid megisgwlân a rhaiffabrigau synthetig, ac i wisgodillad gwely claear, ysgafn, a llac. Gall osgoi treulio amser mewn amgylcheddau poeth a llaith hefyd helpu trin cosi.[4]
Cynghorir hefyd i gleifion gaelcawodydd neufathiau claear neu lugoer yn hytrach na phoeth, i beidio â defnyddiosebonau,geliau cawod, nadiaroglyddionpersawrus a llidus, ac ar ôl cael bath i ddefnyddioelïau sy'n cynnwyslleithyddion i atal y croen rhag sychu. Gall ychwanegu ychydig osodiwm deucarbonad at y dŵr bath neu drochi croen y pen neu'r traed â sodiwn deucarbonad, trochi mewn bath â dwy gwpan ogeirch rholiedig wedi'u sicrhau mewn hosan, a defnyddio clwtyn oer neuhylif calamin lliniarol hefyd helpu i leddfu cosi.[4]
Mae triniaethau meddyginiaethol ar gyfer cosi yn cynnwys cyffuriaugwrth-histamin geneuol i reoli adweithiau alergaidd ac felly cosi, a ellir eu prynudros y cownter; maent yn gallu helpu'r claf i gysgu ac yn torri'r cylch cosi-crafu. Gallhufen hydrocortison dros y cownter trin mannau coslyd lleoledig. Gallmeddygragnodi meddyginiaethau penodol hefyd megiscorticosteroidau argroenol, a hylifau megiscynhwysion actif asteroidau ar ffurf cymysgedd hylif neugel i drin mannau llai hygyrch neu fannaublewog, yn hytrach na defnyddio hufenau gludiog.[4]