Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Corsygedol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oCors y Gedol)
Corsygedol
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolystad Corsygedol Edit this on Wikidata
Lleoliadystad Corsygedol,Dyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
SirDyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr157.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7871°N 4.07726°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethTeulu Fychan,Mostyn Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Plasdy hynafol sy'n ffermdy heddiw, ym mhlwyfLlanddwywe (Llanddwywe-is-y-graig), gerDyffryn Ardudwy,Meirionnydd, ywCorsygedol (cyfeiriad gridSH600231). Mae ganddo le pwysig yn hanesllenyddiaeth Gymraeg fel aelwyd i deulu o noddwyrbeirdd a chartref i gasgliad olawysgrifau Cymraeg, yn cynnwysLlyfr Gwyn Corsygedol.

Gorwedd y plasdy, sy'n fferm y dyddiau hyn, tuag un milltir i'r dwyrain o bentref Dyffryn Ardudwy, ger lanafon Ysgethin, ar esgair sy'n codi i fryniau'rRhinogydd, ynArdudwy.

Corsygedol heddiw: y porthdy gyda'r plasdy yn y cefndir

Cyrchai beirddGwynedd y plasdy i fwynhau nawdd Fychaniaid Corsygedol am yn agos i dair canrif a hanner. Mae'r cerddi cynharaf yn dyddio i ddiwedd y15g, ond credir y bu'n blasdy pwysig ymhell cyn hynny hefyd. Dechreuwyd adeiladu'r plasdy presennol gan Rhisiart Fychan yn1576, ac ychwanegwyd iddo gan ei fab Gruffudd Fychan. Yn 1630 ychwanegwyd y porth mawr gan William Fychan, mab Gruffudd.

Canodd y barddGruffudd Philip i Gorsygedol ddechrau'r 17g:

Gwal y gaer yn glaer deg lân,
Gwydr troeog ydyw'r traean.[1]

Edmyga'r bardd y ffenestri gwydr ardderchog, un o newyddbethau'r oes. Cerrig lleol a ddefnyddwyd i godi'r plasdy, sy'n nodweddiadol hefyd am ei simneiau mawr yn arddull lleol y rhan honno oSir Feirionnydd.

Trwy gydbriodas, unwyd aelwyd Corsygedol a theuluNannau, gerDolgellau. Yr aelod mwyaf adnabyddus o'r teulu yn y cyfnod hwnnw ywWilliam Vaughan (AS) (1707-75),Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd ac un o gyfellion pennaf yMorysiaid, yn enwedigLewis Morris.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. dyfynnir gan Enid Roberts,Tai Uchelwyr y Beirdd 1350-1650 (Cyhoeddiadau Barddas, 1986).

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Corsygedol&oldid=8657951"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp