Con Colbert | |
---|---|
Ganwyd | 19 Hydref 1888 ![]() Swydd Limerick ![]() |
Bu farw | 8 Mai 1916 ![]() Carchar Kilmainham ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
RoeddCornelius "Con" Colbert (Gwyddeleg:Conchúir Ó Colbáird;19 Hydref1888 –8 Mai1916) yn rebel Gwyddelig ac yn un o arweinwyr Fianna Éireann (mudiad sgowtio cenedlaetholgar Iwerddon). Cafodd ei ddienyddio gan sgwad saethu am ei ran yngNgwrthryfel y Pasg 1916.[1][2]
Yn enedigol o Moanleana, Castlemahon,Swydd Limerick roedd Colbert y pedwerydd ieuengaf o dri ar ddeg o blant i Michael Colbert, ffermwr a Nora née MacDermott ei wraig[3]. Symudodd y teulu i bentref Athea pan oedd Con yn dair oed. Cafodd ei addysg yn yr ysgol genedlaethol leol. Gadawodd Athea yn un ar bymtheg oed ac aeth i fyw at ei chwaer Catherine yn RanelaghSwydd Dulyn. Parhaodd ei addysg mewn ysgol y Brodyr Cristnogol yng Ngogledd Richmond Street. Wedi ymadael a'r ysgol cafodd swydd fel clerc yng nghwmni popty Kennedy Roedd Colbert yn aelod o'rEglwys Gatholig ac yn ŵr crefyddol iawn.
Ymunodd côn a Fianna Éireann fel capten yng Nghangen Inchicore, gan godi trwy'r rhengoedd i ddyfod yn Brif Sgowt Iwerddon. Roedd yn rhugl yn y Gwyddelig. Roedd yn credu bod gwrthryfeloedd cenedlaetholgar blaenorol wedi methu yn unig oherwydd "yfed ... diffyg disgyblaeth a sgwrs rydd", gan hynny roedd yn llwyr ymwrthodwr o'r ddiod gadarn. Cafodd gwersi preifat ar ddriliau milwrol gan hyfforddwr yn yfyddin Brydeinig. Er yn fach mewn statws ac yn dawel ei leferydd, profodd Colbert hyfforddwr dril effeithiol ac erbyn 1910 fe'i cyflogwyd yn rhan-amser fel hyfforddwr dril yn YsgolPádraig Pearse, St Enda.
Ar ôl ymuno â'rFrawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol ym 1912 a'rGwirfoddolwyr Gwyddelig ym 1913 bu'n gyfrifol am gynorthwyo drilio a hyfforddiant milwrol cyfrinachol aelodau'r frawdoliaeth o 1913. Fel capten Cwmni F, Pedwerydd Bataliwn, Brigâd Dulyn, bu'n gyfrifol am ddewis a hyfforddi'r rhai a fyddai'n gwasanaethu fel swyddogion ar wirfoddolwr yn ystod Gwrthryfel y Pasg.[4]
Yn ystod yr wythnosau yn arwain at y gwrthryfel, bu Con yn gweithredu fel gwarchodwr i Tom Clarke. Gan ei fod yn ddirwestwr, ac yn annhebygol o gael ei demtio gan eu nwyddau, fe fu'n ymladd i geisio meddiannu Bragdy Watkin a Distyllfa Jamesons, Marrowbone Lane, yn ystod y gwrthryfel.
Wedi dal eu tir yn llwyddiannus, hyd dderbyn yr orchymyn i ildio gan Pearse, honnir i Colbert wylo'n agored pan gafodd yr orchymyn ei throsglwyddo iddo gan Thomas MacDonagh.
Wedi ildio hebryngwyd y gwrthryfelwyr i Farics Richmond lle fuont yn sefyll eu prawf o flaen llys milwrol, cafodd Colbert ei ddarfarnu'n euog a'i ddedfrydu i'w saethu'n farw a'i drosglwyddo i Garchar Kilmainha i'w dienyddio.
Roedd Colbert yn swyddog cymharol isel ac mae cryn drafodaeth wedi bod parthed pam y dienyddwyd ef tra fo cadlywyddion o safle uwch nag ef wedi eu harbed. Y traddodiad yw bod Con wedi ffugio mae ef oedd y prif swyddog yn y distyllfa, er mwyn gwarchod y gwir arweinydd, Seamus Murphy a oedd yn ŵr a thad[5]. Yn ôl Christopher Byrne un o'r gwirfoddolwyr a oedd yn Marrowbone Lane ac yn llygad dyst i'r hyn a ddigwyddodd mai'r stori heb sail. Roedd o'n awgrymu bod Colbert wedi ei ddienyddio oherwydd y ffordd y fu'n arddangos ei gredoau cenedlaetholgar yn agored i'r awdurdodau cyn y gwrthryfel a bod hynny wedi ei wneud o'n hysbys i'r awdurdodau[6].
Cafodd ei ddienyddio ar fore'r 8fed Mai 1916 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyffredin Carchar Arbour Hill[7]
Mae'r llefydd hyn wedi eu henwi er cof ac anrhydedd iddo:
Dadorchuddiwyd cofeb i Colbert yn Athea ganGerry Adams TD, LlywyddSinn Féin ym mis Hydref 2015 fel rhan o gofio canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg.[8]
|