Commodus |
---|
 |
Ganwyd | Lucius Aelius Aurelius Commodus  31 Awst 161  Lanuvium  |
---|
Bu farw | 31 Rhagfyr 192  o strangling  Rhufain  |
---|
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol  |
---|
Galwedigaeth | llywodraethwr  |
---|
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig,Conswl Rhufeinig  |
---|
Tad | Marcus Aurelius  |
---|
Mam | Faustina yr Ieuengaf  |
---|
Priod | Bruttia Crispina  |
---|
Partner | Marcia  |
---|
Llinach | Nerva–Antonine dynasty  |
---|
Marcus Aurelius Commodus Antoninus neuCommodus (31 Awst161 –31 Rhagfyr192) oeddYmerawdwr Rhufain. GanwydLucius Aelius Aurelius Commodus. Bu'n gyd-ymerawdwr gyda'i dadMarcus Aurelius o177 i17 Mawrth180, ac ar ôl hynny bu'n unig ymeradwr hyd ei farwolaeth..
Cafodd ei eni ynLanuvium,Latium. Roedd yn fab i Marcus Aurelius ac yr oedd ganddoefaill, Antoninus, a fu farw yn bedair oed, a chwaer,Galeria Lucilla. Gwnaeth ei dad ef yn gyd-ymerawdwr yn177. Pan fu farw Marcus Aurelius yn180, dilynodd Commodus ef ar yr orsedd. Ar y dechrau yr oedd yn boblogaidd, gan fod llawer o barch i'w dad, ond yn fuan gwelwyd fod Commodus yn fath gwahanol o ymerawdwr. Rhoddodd rym i ffrindiau llwgr, a chynorthwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Roedd yn arbennig o hoff o ymladdfeyddgladiator a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enwHercules Romanus.
Yn 192 distrywiwyd rhan o ddinas Rhufain gan dân, a chymerodd Commodus y cyfle i gyhoeddi ei fod yn ei hail-sefydlu dan yr enwColonia Commodiana. Ychydig yn ddiweddarach bu cynllwyn yn ei erbyn, a thagwyd ef tra'r oedd yn cysgu gan gaethwas o'r enw Narciso. Dilynwyd ef ganPertinax. Ar ôl ei farw cyhoeddoddSenedd Rhufain ydamnatio memoriae. Seilir y ffilmGladiator (2000) yn rhannol ar fywyd Commodus.