CSV
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu/allforio
Mewn prosiectau eraill
| Enghraifft o: | fformat ffeil, gwerthoedd wedi’u gwahanu ag amffinydd |
|---|---|
| Math | data tablaidd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02hznc |
MaeCSV (Comma-Separated Values, sef "gwerthoedd wedi’u gwahanu ag atalnod") yn fformat data sy'n cynrychioli data tablaidd (rhifau a thestun) fel testun plaen â'i werthoedd wedi'u gwahanu gan atalnodau.
Cynigir CSV fel strwythur data gan amrywiaeth eang o feddalwedd, yn enwedig rhaglennitaenlen fel Microsoft Excel. Mae'r manteision a grybwyllir o blaid CSV yn cynnwys symlrwydd a darllenadwyedd. Mae hyn yn groes i ffeiliau deuaidd, sy'n fwy cryno ac effeithlon, ond sydd i bob pwrpas yn annarllenadwy. Mae ffeiliau CSV, fodd bynnag, yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth cronfa ddata rhwng dau beiriant â phensaernïaeth wahanol.