Comin Creu |
Enghraifft o: | sefydliad di-elw, cyhoeddwr,awdur, sefydliad  |
---|
Rhan o | free-culture movement  |
---|
Dechrau/Sefydlu | 15 Ionawr 2001  |
---|
Yn cynnwys | Creative Commons Global Network  |
---|
Prif weithredwr | Ryan Merkley, Catherine Stihler, Anna Tumadóttir  |
---|
Sylfaenydd | Lawrence Lessig, Hal Abelson, Eric Eldred  |
---|
Aelod o'r canlynol | COMMUNIA Association for the Public Domain, Open Source Initiative, Open Education Global, UNESCO Global Open Science Partnership, Re:Create Coalition  |
---|
Gweithwyr | 147  |
---|
Ffurf gyfreithiol | sefydliad di-elw  |
---|
Cynnyrch | trwyddedau Comin Creu  |
---|
Asedau | 12,542,497 $ (UDA), 9,584,245 $ (UDA) 12,542,497$ (UDA) (2022) |
---|
Pencadlys | Mountain View  |
---|
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America  |
---|
Gwefan | https://creativecommons.org/  |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydliad nid-er-elw ywComin Creu (Saesneg:Creative Commons neucc) a sefydlwyd gyda'r nod o ehangu'r ystod o weithiau creadigol sydd ar gael i'w rhannu'n gyfreithlon.[1]
Mae'r sefydliad wedi rhyddhau sawl trwydded hawlfraint i'r cyhoedd am ddim.
Gall y crewr, boed arlunydd, awdur neu arall, ddefnyddio un o nifer o'r trwyddedau hyn, yn ddibynol ar faint o hawliau mae'n dewis eu rhyddhau i bobl eraill. Nid yw'r trwyddedau'n cymryd lle hawlfraint, ond wedi'u sefydlu'n soled ar hawlfraint. Mae nhw'n cymryd lle yr angen i unigolion drafod a negydu hawliau arbennig - rhwng perchennog yr hawlraint (y trwyddedwr) a defnyddiwr y gwaith (y trwyddedig). Gall faint o hawliau a ryddheir amrywio o "Cedwir pob hawl" i drwydded hollol rydd lle nad yw perchennog y gwaith ddim yn dymuno arian am y defnydd o'r gwaith, na chydnabyddiaeth arall mewn unrhyw fodd. Mae bron y cyfan sydd ar Wicipedia a nifer o gyrff eraill yn dod o dan drwydded rhydd CC-BY-SA.[2]
Sefydlwyd y mudiad yn 2001 ganLawrence Lessig, Hal Abelson, ac Eric Eldred[3] gyda chefnogaeththe Center for the Public Domain. Sgwennwyd yr erthygl gyntaf am Comin Creu gan Hal Plotkin yn Chwefror 2002.[4] Rhyddhawyd y set cyntaf o drwyddedau yn Rhagfyr 2002.[5][6]