Ffurf ogomedi ywcomedi stand-yp,comedi ar ei sefyll[1] neugomedi ar ei draed[1] lle maedigrifwr yn perfformio o flaen cynulleidfa yn fyw, gan eu hannerch yn uniongyrchol.[2] Weithiau caiff perfformiadau eu ffilmio er mwyn eu rhyddhau arDVD, yrhyngrwyd, neudeledu, neu eu recordio a'u rhyddhau aralbwm. Gelwir y perfformiwr yn ddigrifwr(aig) ar ei sefyll, yn ddigrifwr(aig) ar ei draed, neu'nstand-up (o'r Saesneg:stand-up comedian).
Yng ngwledydd Prydain mae comedi stand-yp yn draddodiad sy'n deillio yn wreiddiol o neuaddau gerddoriaeth yn y 18fed a'r 19eg ganrif, gyda pherfformwyr unigol ar lwyfan theatr, yn dweud jôcs neu adrodd stori. Yng Nghymru roedd llai o gyfleoedd i berfformio'n broffesiynol ac roedd traddodiad yn fwy gwerinol ac amatur, gyda cyfleoedd i berfformio comedi mewn eisteddfodau, clybiau cymdeithasol, tafarndai, nosweithiau llawen a chlybiau ffermwyr ifanc. Arweinydd noson adloniant fyddai'r digrifwr fel arfer yn llenwi bwlch rhwng pob eitem. Mae'r digrifwrIdris Charles yn cofio trefnu nosweithiau yn niwedd y 1960au a'r 1970au gyda digrifwyr fel Dilwyn Edwards,Glan Davies,Trefor Selway, Alun Lloyd,Mair Garnon a Peter Hughes Griffiths.[3]
Yn y 1970au a'r 1980au datblygodd arddull fodern stand-yp ar y cyd â chomedi angen, gyda mwy o bwyslais ar ddychan, wleidyddiaeth neu arsylwadau am fywyd. Yn y 1990au fe ddaeth stand-yp Cymraeg i sylw eto ac yn 1996 ac 1997 darlledwydY Jocars ar S4C, cyfres a gynhyrchwyd gan Idris Charles. Fe ymddangosodd mwy o ddigrifwyr Cymraeg yn y 2000au gyda llawer yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg yn yr un math o glybiau a digrifwyr eraill, er nad oedd hyn yn cael ei adlewyrchu ar deledu.[4] Yn y 2010au darlledodd S4C sawl gyfres gomedi stand-up yn cynnwysGigL,Gwerthu Allan a noson gomedi arbennig yn Eisteddfod 2013,Y Babell Lon.
↑1.01.1Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn.Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1357 [stand-up comedian].