Teulu ogolomennod yw'r Columbidae, sy'n cynnwys ysguthan, y golomen wyllt a'rdurtur. Dyma'r unig deulu ynurdd yColumbiformes. Mae'r rhain yn adar cryf eu corff gyda gwddf byr a phigau main, byr. Fel y twrci, y dylluan a'r parot mae gan rhai o aelodau'r teulu yma gwyrbilen ar waelod eu pigau. Gan fwyaf, mae'r golomen yn bwydo ar hadau, ffrwythau a phlanhigion. Mae'r teulu i'w gael ledled y byd, ond mae'r amrywiaeth fwyaf yn y byd yn Indomalayan (ar draws y rhan fwyaf o Dde a De-ddwyrain Asia ac i rannau deheuol Dwyrain Asia) acAwstralasia. Mae'r teulu'n cynnwys tua 335 o rywogaethau.[1] Maen nhw'n codinyth syml o ffyn, lle maen nhw'n dodwy un neu ddauŵy gwyn. Mae'r rhieni'n cynhyrchu math o "laeth" ar gyfer eucywion nhw.
Hadau a ffrwyth yw bwyd y rhan fwyaf o golomenod a gellir rhannu'r teulu'n ddau. Gall un math o golomenod sy'n perthyn i'rColomennod Ffrwyth Atol fwyta pryfaid a phryfaid genwair agwybed.[2]
Mae'n symbol rhyngwladol a Christnogol o heddwch ac o ran geirdarddiad, mae'n fenthyciad o'r Lladincolumba gair a ddaeth i ynysoedd Prydain gan yRhufeiniaid, fwy na thebyg.
Mae'r teulu wedi'u rhannu'n 50genera gyda 13 rhywogaeth wedidifodi.[3]
YnSaesneg, mae'r rhywogaethau llai yn dueddol o gael eu galw'n "doves" a'r rhai mwy yn "pidgeons".[4] Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaeth yn gyson,[4] ac nid yw'n bodoli mewn unrhyw iaith arall, gan gynnwys y Gymraeg. Yr aderyn y cyfeirir ato amlaf fel "colomen" yw'r golomen ddof (Columba livia domestica), istrywogaeth, a'r aderyn cyntaf i gael ei dofi a'i chadw er mwyn ei chig a'i hwyau, ac sy'n cael ei hadnabod mewn llawer o ddinasoedd fel y golomen wyllt (hefydColumba livia domestica). Ond maecolomen wyllt hefyd yn enw ar rywogaeth o golomennod, sef y (Columba oenas).
Nyth digon tila mae'r golomen yn ei hadeiladu fel arfer, yn aml gan ddefnyddio ffyn a malurion eraill, y gellir eu gosod ar ganghennau coed, ar silff o ryw fath, neu ar y ddaear, yn dibynnu ar y rhywogaeth. Maent yn dodwy un neu (fel arfer) ddau wy gwyn ar y tro, ac mae'r ddau riant yn gofalu am y cywion, sy'n gadael y nyth ar ôl 25-32 diwrnod. Gall colomennod hedfan erbyn y maent yn 5 wythnos oed. Mae an y cywion hyn, leisiau gwichlyd anaeddfed ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, gall colomennod o'r ddau ryw gynhyrchu "llaeth cropa" i'w fwydo i'w cywion, wedi'i secretu gan lif o gelloedd llawn hylif o leinin y cropa (neucrombil).
Phylogentic relationship of Columbiformes in the Neoaves clade[5]
Columbiformes yw un o'r cladau mwyaf amrywiol oneoafiaid, ac mae ei wreiddiau yn y cyfnodCretasaidd[6] ac yn ganlyniad arallgyfeirio cyflym ar ddiwedd ffin K-Pg.[7] Dadansoddwyd y genom cyfan yn y 2010au, a darganfyddwyd bod gan y columbiformes gysylltiad agos â'r gog (Cuculiformes), gan ffurfio grŵp sy'n chwaergytras i grŵp y grugieir (Pterocliformes) a'r mesitiaid (Mesitornithiformes).[8][9]
Cyflwynwyd yr enw 'Columbidae' i'rteulu gan y sŵolegydd o Loegr William Elford Leach mewn canllaw i gynnwys yrAmgueddfa Brydeinig a gyhoeddwyd yn 1820.[10][11] Columbidae yw'r unig deulu byw yn y drefn Columbiformes. Roedd y grugieir tywod (Pteroclidae) yn cael eu gosod yma gynt, ond fe'u symudwyd i urdd ar wahân, sef Pterocliformes, oherwydd gwahaniaethau anatomegol sylfaenol (fel yr anallu i yfed trwy "sugno" neu "bwmpio").[12]
Rhennir y Columbidae fel arfer yn bum is-deulu, yn anghywir yn ôl pob tebyg.[13] Er enghraifft, mae'r colomennod daear a sofliar Americanaidd (Geotrygon), sydd fel arfer yn cael eu gosod yn y Columbinae, yn ymddangos mewn dau is-deulu ar wahân. Mae'r drefn a gyflwynir yma yn dilyn Baptista et al. (1997),[14] gydag ambell ddiweddariad.[15][16][17]
Mae trefniant genera ac enwi is-deuluoedd mewn rhai achosion yn amodol oherwydd bod dadansoddiadau o ddilyniannau DNA gwahanol yn rhoi canlyniadau sy'n wahanol, yn aml yn radical, wrth leoli rhai genera (Indo-Awstralia yn bennaf). Mae'n ymddangos bod yr amwysedd hwn, a achosir yn ôl pob tebyg gan 'atyniad cangen hir', yn cadarnhau bod y colomennod cyntaf wedi datblygu ynAwstralasia, a bod y "Treronidae" a'r ffurfiau perthynol (colomennod coronog a'r golomen ffesant, er enghraifft) yn cynrychioli tarddiad cynharaf y grwp.
Cyn hynny roedd y teulu Columbidae hefyd yn cynnwys y teulu Raphidae, a oedd yn cynnwys yRodrigues solitairediflanedig a'rdodo.[18][19][20] Mae'r rhywogaethau hyn yn ôl pob tebyg yn rhan o gangen Indo-Awstralia a gynhyrchodd y tri is-deulu bach a grybwyllir uchod, gyda'r colomennod ffrwythau eecolomen Nicobar. Felly, cânt eu cynnwys yma fel is-deulu Raphinae, tra'n aros am dystiolaeth berthnasol, well o'u hunion berthynas.[21]
Gan waethygu'r materion hyn, nid yw'r columbiaid yn cael eu cynrychioli'n dda yn ycofnod ffosil.[22] Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw ffurfiau gwirioneddol gyntefig hyd yn hyn. Mae'r genwsGerandia wedi'i ddisgrifio o ddyddodionMïosen Cynnar yn Ffrainc, ond er y credid ers tro ei fod yn golomen,[23] fe'i hystyrir bellach yn grugiar dywod (y Pteroclidae).[24] Darganfuwyd rhanau o golomennod "ptilinopine" y cyfnodMïosen Cynnar mae'n debyg yn Ffurfiant Bannockburn ynSeland Newydd ac fe'i disgrifiwyd felRupephaps.[24][25][26]
Colomen y graig (Columba livia ) yn hedfanDwy golomen y graig yn paru
Mae colomennod yn amrywio'n sylweddol o ran maint, yn amrywio o ran hyd, sef rhwng15 a 75 cm (5.9 i 29.5 mod), ac mewn pwysau o 30 gm i dros 2,000 gm.[27] Y rhywogaeth fwyaf yw'r golomen goronog oGini Newydd,[28] sydd bron yr un maint athwrci, ac yn pwyso 2-4 km (4.4-8.8 pwys).[29] Y lleiaf o'r colomennod yw colomen ddaear y Byd Newydd o'r genwsColumbina, sydd yr un maint agaderyn y to, ac yn pwyso cyn lleied â 22 gram (0.049 pwys).[30] Yturtur ffrwythau fechan, a all fesur cyn lleied â 13 cm yw'r lleiaf o'r teulu hwn. Mae un o'r rhywogaethau goed mwyaf, cosef colomen Ynys Nukuhiva, yn brwydro yn erbyn difodiant ar hyn o bryd.[31]
Yn gyffredinol, nodweddir anatomeg aelodau o'r teulu Columbidae gan goesau byr, pigau byr gyda chwyrbilen (cere), a phennau bach ar gyrff gymharol fawr.[32] Fel rhai adar eraill, nid oes gan y Columbidaegoden fustl.[33] Daeth rhai naturiaethwyr canoloesol i’r casgliadfod hyn yn egluro natur felys cig y golomen.[34] Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae ganddynt fustl (fel y sylweddoloddAristotle yn gynharach), sy'n cael ei secretu'n uniongyrchol i'r perfedd.[35]
Maeturtur dorchog (Streptopelia decaocto) yn glanio ac yn arddangos plu hedfan ei hadenydd agored
Mae'r adenydd yn fawr, a cheir 11 prif bluen;[36] mae gan golomennod gyhyrau cryf yn eu hadenydd (cyhyrau adenydd yw 31–44% o bwysau eu cyrff[37]) ac maen nhw ymhlith yr hedfanwyr cryfaf o'r holl adar.[36]
Mewn cyfres o arbrofion yn 1975 gan Dr. Mark B. Friedman, gan ddefnyddio colomennod, dangoswyd bod eu pen yn pendilio lan a lawr oherwydd eu hawydd naturiol i gadw eu golwg ar rywbeth yn gyson.[38] Fe'i dangoswyd eto mewn arbrawf yn 1978 gan Dr. Barrie J. Frost, ar felin redeg, lle sylwyd nad oeddent yn pendilio eu pennau, gan fod eu hamgylchoedd yn gyson.[39]
Mae gan aelodau o deulu'r Columbidaeblu unigryw ar eu cyrff, gyda'r coesyn yn gyffredinol eang, cryf, a gwastad, yn lleihau'n raddol i bwynt main.[40] Yn gyffredinol, mae'r adbluen (aftershaft) yn absennol; fodd bynnag, efallai y ceir rhai bach ar rai plu cynffon ac adain.[41] Mae gan blu'r corff waelodion trwchus iawn, sy'n cysylltu'n rhydd â'r croen ac yn disgyn yn hawdd,[42] o bosibl er mwyn osgoi ysglyfaethwyr,[43] mae niferoedd mawr o blu yn cwympo allan yng ngheg yr ymosodwr os caiff yr aderyn ei gipio, gan ei gwneud yn haws i'r aderyn ddianc.
Ceir cryn amrywiaeth o fewn plu'r teulu.[44] Mae gan rai rhywogaethau blu llachar.[45] YPtilinopus (y colomennod ffrwythau ee yTurtur ffrwythau benlas) yw rhai o'r colomennod mwyaf lliwgar, gyda'r tair rhywogaeth endemig oFfiji acAlectroenasCefnfor India y disgleiriaf.[46] Yn ogystal mae gan rhai colomennod gribau neu addurniadau eraill.[47]
Dyma deulu o hedfanwyr rhagorol oherwydd y lifft (neu'r codiad) a ddarperir gan eu hadenydd mawr;[48][49] ac mae ganddynt gymhareb agwedd (aspect ratio) isel oherwydd lled eu hadenydd, gan ganiatáu iddynt fedru lansio i'w hedfaniad yn gyflym, gan ddianc rhag ysglyfaethwyr, ond am gost ynni uchel.[50]
Mae'r teulu wedi addasu i'r rhan fwyaf o'r cynefinoedd sydd ar gael ar y blaned. Ceir rhywogaethau amrywiol hefyd mewn: safanas, glaswelltiroedd,anialwch, coetir tymherus a choedwigoedd,coedwigoedd mangrof, a hyd yn oed tywod a graean diffrwyth yratolau.[52]
Y rhywogaeth gyda'r ardal fwyaf (o unrhyw rywogaeth) yw'rgolomen graig.[62] Mae ei chynefin yn eang iawn: o ynysoedd Prydain ac Iwerddon i ogledd Affrica, ar drawsEwrop,Arabia,Canolbarth Asia, India, yrHimalaya, i Tsieina a Mongolia.[62] Daeth y cynnydd hwn drwy ddofi colomennod, a llawer o'r rheiny'n dianc i'r gwyllt, yn enwedig mewn dinasoedd.[62][62] Ond nid yw'r unig golomen sydd wedi cynyddu ei hardal oherwydd gweithredoedd dyn; mae nifer o rywogaethau eraill wedi ymsefydlu y tu allan i'w cynefin naturiol ar ôl dianc o gaethiwed.[61] Canfu astudiaeth yn 2020 fod Arfordir Dwyreiniol yr Unol Daleithiau yn cynnwys dwy fegaddinas genetig y golomen: Efrog Newydd a Boston, lle nad yw'r adar yn cymysgu â'i gilydd.[63]
Pryd o fwyd Sundanaidd, oIndonesia: colomen wedi'i ffrio gydatimbel nasi (reis wedi'i lapio â dail banana), tempeh,tofu, a llysiau.
Defnyddir sawl math o golomennod fel bwyd; ac mae pob rhywogaeth yn fwytadwy.[64] Defnyddiwyd y mathau dof fel ffynhonnell bwyd ers sawl mileniwm.[65] Fe'i defnyddiwyd yn helaeth o fewn bwydydd Iddewig, Arabaidd a Ffrengig. Yn ôl y Tanakh,kosher yw colomennod, a dyma'r unig adar y gellir eu defnyddio ar gyfercorban. Defnyddir colomennod hefyd mewn bwydydd Asiaidd, megis bwydydd Tsieineaidd, Asameg ac Indonesia.
Yn Ewrop, maesguthanod yn cael eu saethu'n gyffredin feladeryn helwriaeth,[66] tra bod colomennod y graig yn cael eu dofi yn wreiddiol er mwyn eu cig.[67] Roedd difodiant colomennod crwydr yng Ngogledd America o leiaf yn rhannol oherwydd iddynt gael eu hela am eu cig.[68] Mae'r llyfrMrs Beeton's Book of Household Management yncynnwys ryseitiau ar gyfer colomennod rhost a phastai colomennod, bwyd poblogaidd, rhad yng ngwledydd Prydain yn Oes y Llymru.[69]
↑Baptista, L. F.; Trail, P. W. & Horblit, H. M. (1997): Family Columbidae (Doves and Pigeons).In: del Hoyo, J.; Elliott, A. & Sargatal, J. (editors):Handbook of birds of the world, Cyfrol 4: Sandgrouse to Cuckoos. Lynx Edicions, Barcelona.ISBN 84-87334-22-9
↑Gill, Frank; Donsker, David;Rasmussen, Pamela, gol. (2020)."Pigeons".IOC World Bird List Version 10.1. International Ornithologists' Union. Cyrchwyd27 February 2020.
↑Pereira, S.L.et al. (2007) Mitochondrial and nuclear DNA sequences support a Cretaceous origin of Columbiformes and a dispersal-driven radiation in the Paleocene.
↑Soares, A.E.R.et al. (2016) Complete mitochondrial genomes of living and extinct pigeons revise the timing of the columbiform radiation.
↑Bock, Walter J. (1994).History and Nomenclature of Avian Family-Group Names. Bulletin of the American Museum of Natural History. Number 222. New York: American Museum of Natural History. t. 139.
↑Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.).Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions.ISBN978-84-87334-22-1.
↑Shapiro, Beth; Sibthorpe, Dean; Rambaut, Andrew; Austin, Jeremy; Wragg, Graham M.; Bininda-Emonds, Olaf R. P.; Lee, Patricia L. M.; Cooper, Alan (2002). "Flight of the Dodo". Science295 (5560): 1683. doi:10.1126/science.295.5560.1683. PMID11872833.
↑Shapiro, Beth; Sibthorpe, Dean; Rambaut, Andrew; Austin, Jeremy; Wragg, Graham M.; Bininda-Emonds, Olaf R. P.; Lee, Patricia L. M.; Cooper, Alan (2002). "Flight of the Dodo". Science295 (5560): 1683. doi:10.1126/science.295.5560.1683. PMID11872833.Shapiro, Beth; Sibthorpe, Dean; Rambaut, Andrew; Austin, Jeremy; Wragg, Graham M.; Bininda-Emonds, Olaf R. P.; Lee, Patricia L. M.; Cooper, Alan (2002).
↑Janoo, Anwar (2005). "Discovery of isolated dodo bonesRaphus cucullatus (L.), Aves, Columbiformes from Mauritius cave shelters highlights human predation, with a comment on the status of the family Raphidae Wetmore, 1930". Annales de Paléontologie91 (2): 167. doi:10.1016/j.annpal.2004.12.002.
↑Olson, Storrs L. (1985). "The fossil record of birds". In Farmer, Donald S.; King, James R.; Parkes, Kenneth C. (gol.).Avian Biology, Vol. VIII. Academic Press. tt. 79–238.ISBN978-0-12-249408-6.The earliest dove yet known, from the early Miocene (Aquitanian) of France, was a small species named Columba calcaria by Milne-Edwards (1867–1871) from a single humerus, for which Lambrecht (1933) later created the genus Gerandia
↑Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.).Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions.ISBN978-84-87334-22-1.Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997).
↑Thorsen, M., Blanvillain, C., & Sulpice, R. (2002). Reasons for decline, conservation needs, and a translocation of the critically endangered upe (Marquesas imperial pigeon, Ducula galeata), French Polynesia. Department of Conservation.
↑Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.).Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions.ISBN978-84-87334-22-1.Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997).
↑Pap, Péter L.; Osváth, Gergely; Sándor, Krisztina; Vincze, Orsolya; Bărbos, Lőrinc; Marton, Attila; Nudds, Robert L.; Vágási, Csongor I. (2015). Williams, Tony. ed. "Interspecific variation in the structural properties of flight feathers in birds indicates adaptation to flight requirements and habitat" (yn en). Functional Ecology29 (6): 746–757. doi:10.1111/1365-2435.12419.
↑61.061.1Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997). "Family Columbidae (Doves and Pigeons)". In del Hoyo, J.; Elliott, A.; Sargatal, J. (gol.).Handbook of birds of the world. 4: Sandgrouse to Cuckoos. Barcelona: Lynx Edicions.ISBN978-84-87334-22-1.Baptista, L. F.; Trail, P. W.; Horblit, H. M. (1997).