Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol | |
---|---|
Logo'r Coleg | |
Sefydlwyd | 2011 |
Math | Cyhoeddus |
Canghellor | DrHaydn Edwards (Cadeirydd) |
Lleoliad | Caerfyrddin,![]() |
Tadogaethau | Prifysgol Cymru |
Gwefan | http://www.colegcymraeg.ac.uk/ |
Mewn partneriaeth âphrifysgolion Cymru, mae’rColeg Cymraeg Cenedlaethol yn darparuaddysg uwch ar gyfer myfyrwyr drwygyfrwng y Gymraeg.[2] Nod y coleg ffederal hwn yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod y gefnogaeth ar gyfer y myfyrwyr hynny, ansawdd yr addysg, a phrofiadau astudio’r myfyrwyr, o’r safon uchaf. Erbyn Tachwedd 2015 roedd y Coleg yn cyflogi 115 o ddarlithwyr.[3] Prif Weithredwr y Coleg ywDr Ioan Matthews a'i Gofrestrydd ywDr Dafydd Trystan.
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011 i weithio gyda phrifysgolion Cymru, er mwyn datblygu cyrsiau ac adnoddau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr. Nid oes gan y Coleg ei gampws ei hun, ond mae’n gweithio trwy nifer o 'ganghennau' ar draws y prifysgolion yng Nghymru.[4]
Nod y canghennau yw cefnogi gwaith y Coleg a gweithredu fel pwynt cyswllt lleol i fyfyrwyr. Mae’r dewis o gyrsiau cyfrwng Cymraeg a gynigir wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 500 o wahanol raddau ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, ynghyd â 150 o ysgoloriaethau israddedig a ddyfernir i fyfyrwyr bob blwyddyn. Dyma’r tro cyntaf i unrhyw gorff fynd ati i gynllunio cyrsiau gradd cyfrwng Cymraeg yn genedlaethol ar gyfer myfyrwyr.
Ceisia'r Coleg roi mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd, datblygu modiwlau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ac ariannuysgoloriaethauisraddedig acôl-raddedigion.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae modiwlau sy'n cael eu cynnig ar yr un pryd mewn mwy nag un brifysgol wedi dod yn fwy amlwg, gyda nifer o enghreifftiau llwyddiannus ym meysydd yGwyddorau Amgylcheddol, y Diwydiannau Creadigol, yGyfraith,Cerddoriaeth,Hanes acIeithoedd Modern Ewropeaidd.
Mae llwyfan e-ddysgu’r Porth yn galluogi prifysgolion i rannu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.[5] Felly, mae modd manteisio ar y technolegau e-ddysgu diweddaraf. Mae hefyd yn cynnig adnoddau astudio sy’n ehangach na’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr yn eu prifysgol leol. Mae'r adnoddau'n cynnwys:
Datblygwyd yr holl adnoddau a modiwlau ar y Porth gan ddarlithwyr o brifysgolion Cymru trwy nawdd a chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn Ebrill 2011). Mae ystod eang o'r meysydd a welir ar y Porth yn adlewyrchiad o'r datblygiadau sylweddol sydd wedi bod yn y sector, ac mae'r Porth bellach yn ganolog i'r holl ddatblygiadau yn y sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.
Bob blwyddyn mae’r Coleg yn dyfarnu tua 150 o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn dilyn cyrsiau gradd mewn prifysgolion drwy Cymru benbaladr. Ceir dau fath o ysgoloriaeth – Prif Ysgoloriaethau ac Ysgoloriaethau Cymhelliant. Mae’r Prif Ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf ddwy ran o dair o’u cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg. O wneud hyn, gellir ymgeisio am un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg, gwerth £3,000 dros dair blynedd (£1,000 y flwyddyn). Mae bron i 300 o wahanol gyrsiau gradd bellach yn cynnwys digon o fodiwlau cyfrwng Cymraeg i fod yn gymwys ar gyfer y Prif Ysgoloriaethau.
Yn wahanol i’r Prif Ysgoloriaethau, mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio cyrsiau gradd penodol yn un o’r deg maes academaidd canlynol:Daearyddiaeth,Bioleg a Gwyddorau’r Amgylchedd,Busnes aRheolaeth,Gwaith Cymdeithasol,Gwyddorau ac Astudiaethau Chwaraeon,Y Gyfraith,Gwyddorau Iechyd,Ieithoedd Modern,Mathemateg aFfiseg,Seicoleg aCemeg.[6]
Mae’r Ysgoloriaethau hyn yn cynnig £500 y flwyddyn (neu £1,500 dros dair blynedd) am astudio o leiaf draean o’r cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfnodolyn academaidd Cymraeg yw Gwerddon, sy'n cyhoeddiymchwil ysgolheigaidd o'rCelfyddydau, yDyniaethau a’rGwyddorau ddwywaith y flwyddyn yn gydnaws â gofynion ‘Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil’. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod mor eang â phosibl o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Y ffisegydd Dr Eleri Pryse yw Cadeirydd newydd Bwrdd Golygyddol Gwerddon.[7]
Yn ystod y 2010au gwelwyd cynnydd sylweddol ym maes ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y gymuned academaidd. Fel rhan o'r ymdrech i hyrwyddostatws yr iaith o fewnaddysg uwch, ystyriwyd ei bod yn hanfodol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng ymchwil. I’r perwyl hwnnw, penderfynwyd sefydlu cyfnodolyn academaidd gyda chyfundrefn arfarnu annibynnol a fyddai'n fforwm ar gyfer cyhoeddi gwaith ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg ar draws y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Gwerddon ym mis Ebrill 2007.