Diod boblogaidd a wneir drwy rostio ac ychwanegu dŵr poeth at ffa'r planhigyn 'coffea' ywcoffi (hen air Cymraeg:crasddadrwydd);[1]. Fel arfer mae'r ffa wedi'u rhostio a'u malu'n fân cyn eu gwerthu i'r cwsmer. Tyfir y planhigyn mewn dros 70 o wledydd, gan gynnwysAmerica, de-ddwyrainAsia,India acAffrica. Ceir dau brif fath o goffi:arabica arobusta.
O'r gairArabeg قوةquw-wa "nerth", y daeth y gair Arabeg قهوةqahwa 'coffi'. O'r gair hwn y daeth yTyrcegkahveh, wedyncaffè ynEidaleg. O hwn y daeth y gairSaesnegcoffee a gafodd ei fenthyg i'rGymraeg fel 'coffi'. Cyheoddwyd y gair 'crasddadrwydd' yn gyntaf ynBlodeu-gerdd Cymry gan David Jones yn 1759:"Ond gresyn fod Haidd, Gwinwydd, Llewyg y Blaidd, Ffwgws, Ystrew a Chrâsddadrwydd yn amharu’r hŵyl, ac yn dwyn Aroan yr hên Frutaniaid! lle’r oeddynt gynt yn byw yn hŷn, yn iachach, ac yn gryfach ar laeth, ymenyn, a mêl, na’i hôll Sothach afiach afreidiol alltudaidd pellennig."
Dywedir y cafodd coffi ei ddarganfod gan fynach yn yr 8g.Roedd bugail o'r enw Kaldi yn bugeilio geifr ar wastatir uchelJebel Sabor yn yrIemen. Roedd y geifr yn sionc iawn yn llamu ac yn dawnsio drwy'r nos. Pan ddigwyddodd y pennaeth Shadhili heibio fe ofynnodd pam oedd y geifr mor sionc. Dywedodd Kaldi eu bod wedi bod yn bwyta math o geirios coch oedd yn tyfu'n wyllt. Pan ddywedodd Shadhili y stori wrth fynach fe aeth i hela'r ceirios er mwyn gwneud arbrofiadau. Fe ddarganfu y mynach mai rhywbeth yn y garreg oedd yn cadw'r geifr yn effro. Ar ôl rhostio'r cerrig yn y ffwrn, roedd e'n medru eu malu a'u rhoi mewn dwr poeth i wneud diod. Roedd y mynaich yn yfed y ddiod hon er mwyn deffro i addoli yng nghanol y nos. Fe alwasant y ddiod ynquw-wa ( قوة ) gairArabeg am nerth.
Llwyn neubrysgwydden o'rrhywogaethCOFFEA ywplanhigyn coffi. O'r 60 planhigyn gwahanol mae yna ddau bwysig;-COFFEA ARABICA, planhigynarabica aCOFFEA CANEPHORA, planhigynrobusta.Mae gan y planhigynflodau bychainh gwynion gyda 5 neu 6 phetal, yn debyg i'rsiasmin. Fe fydd yceirios yn dechrau'n wyrdd, wedyn fe drônt yn felyn ac yn goch. Mae dwy garreg yn y geiriosen wedi eu gwahanu gan rych. Hon yw'r ffäen goffi. Gellir gweld y dail, y blodau a'r ceirios ar y planhigyn ar yr un pryd.
Yn y 15g roedd y pererinionMohametanaidd a oedd yn teithio iFeca yn dosbarthu coffi o'rIemen ar drawsArabia. Cyn y 18g nad oedd coffi yn cael ei yfed y tu allan i'r byd Arabaidd.
Yn 1680 fe hwyliodd morwyrHolandaidd o Moca(Al-Mukha) yn yrIemen gyda phlanigion coffi iSri Lanca, ymlaen iIndia, ac wedyn i wladfeydd HolandaiddAsia.ODjakarta ynJava fe dygodd morwyr Holandaidd blanhigion coffi gyda nhw yn ôl i'rIseldiroedd lle y cânt eu ddiwyllio yn nhai gwydr gerddi llysieuolAmsterdam.Ar ddechrau'r 18g, yr Iseldiroedd oedd yr unig wlad ynEwrop i gynhyrchu coffi.Ymlaen iFfrainc; pan gafodd planhigion coffi eu cynnig iLouis IV fe roddodd nhw o dan ofal llysieuydd gardd y brenin (Jardin du Roi; ersy chwyldro -Jardin des Plantes).Ym mis Mai 1723 fe hwyliodd capten Gabriel DeClieu iMartinique ynIndia'r Gorllewin gyda phlanhigion coffi. Roedd y fordaith yn llawn problemau. I ddechrau, roedd y morwyr Holandaidd am droi'n ôl, wedyn fe hwyliasant i mewn i stormydd. Ar ôl hynny roedd y tywydd mor dawel fel nad oedd gwynt i wthio'r llong ymlaen. Roedd dŵr yfed yn brin ac oedd DeClieu yn gorfod arllwys ei gyfran ddŵr ar y planhigion i'w cadw'n fyw.Er hynny, roedd y cynhaeaf yn llwyddiannus iawn ac fe aethant ymlaen i gynhyrchu coffi ar ynysoedd eraill y Caribï a'i allforio'n ôl i Ewrop. Yn 1727 aethant ymlaen iFrasil, cynhyrchydd coffi mwyaf y byd heddiw.
Fel hyn y bydd y coffi gorau yn cael ei baratoi. Cânt y ceorios eu trochi mewn basnau o ddŵr a'u gadael i chwyddo drwy'r nos. Wedyn, cânt y mwydion eu gwahanu ac ar ôl hynny fe gânt eu gadael i'r ffa eplesu, a'u golchi wedyn gyda llawer o ddŵr.
Dyfnyddir y dull hwn ymMrasil ac ynAffrica lle mae dŵr yn brin. Taenir y ceirios am bythefnos ar arwynebedd mawr ogoncrit neu ar ddaear wedi ei churo'n galed nes bydd y mwydion yn sychu yn yr haul.
Cyn rhostio mae ffa coffi yn wyrdd. Fel hyn y cânt eu hallforio neu eu mewnforio. Mae'r coffi gwyrdd yn cael ei rostio wrth eu cynhesu'n raddol hyd at 220 °C. Wrth golli dŵr fe fydd y ffäen yn chwyddo. Rhaid oeri'r ffa yn syth, neu fe losgant.
Mae yna ddau brif rywogaeth o goffi.Arabica, aRobusta (Coffi'r Congo). Mae blas cryfach ar robusta ac mae ynddo ddwy waith gymaint ogaffein acholesterol.
Mae coffi enydus yn gyfleus iawn ac er bod y blas ddim cystal, mae'n boblogaidd iawn ym Mhrydain. Nid oes cymaint ogaffein ynddo. Heddiw mae coffi enydus wedi eisychrewi, hynny yw,dihydradu wrth ei rewi mewngwactod.
Mae rhai sydd am osgoicaffein yn yfed coffi wedi ei ddigaffeineiddio. Gellir trin y ffa coffi gwyrddion gydathoddyddhydrocarbon wedi ei glorineiddio. Yn diweddarach fe ddefnyddircarbon deuocsid o dan wasgedd mawr. Mae'r dull hwn ddim yn gadael blas toddydd ar y coffi. Gan fod y broses o ddigaffeineiddio yn gwanhau blas y coffi, fe ddefnyddirrobusta fel arfer oherwydd bod blas cryfach arno.
Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio ddim yn well i'r galon gan ei fod yn cael ei wneud gyda ffarobusta sy'n cynnwys llawer mwy ogolesterol. Nid yw coffi wedi ei ddigaffeineiddio yn hollol rhydd o gaffein ychwaith.
Cafodd y labelMasnach Deg ei greu ynyr Iseldiroedd yn yr 1980au gan y cymdeithasMax Havelaar. Defnyddiodd y label yn gyntaf ar goffi oMecsico yn1986 i ddangos fod y coffi yn cyfateb i safonau rhyngwladol masnach deg.
Dyma falwr traddodiadol coffi. Wrth arllwys ffa coffi wedi eu rhostio i mewn i'r corn a throi'r ddolen, fe fydd dant yn eu malu. Fe fydd y coffi wedi malu yn cwympo i'r drâr islaw. Rhaid peidio gadael coffi yn y malwr dros nos gan fydd e'n amsugno dŵr a difetha'r blas.
Yn ôl pob tebyg, hwn ydy'r dull mwya hynafol o wneud coffi. Mae Ibric (o'rArabegibrik = pot coffi) yn debyg i sospan fach neu phiser prês gyda gwaelod wastad a dolen hir.Mae'n draddodiadol i yfed coffi Twrcaidd mewn powlen fach yn hytrach na chwpan. Er mwyn gwneud coffi Twrcaidd mae rhaid malu'r coffi'n fân fel blawd. Rhoddir dwy lwyaid o siwgwr yng ngwaelod yr ibric a'i lenwi â dŵr oer hyd at waelod y gwddf. Rhoddir dwy lwyaid o goffi i nofio ar ben y dŵr. Ni throi'r coffi, gadewir iddo nofio. Rhoddir yr ibric i boethi ar y tywod poeth ger môr y canoldir. Os nad yw hwn yn gyfleus, gosodir ef ar y stof. Pan fydd y dŵr yn ddigon poeth bydd ewin yn codi yng ngwddf y pot. Gwylir e'n ofalus. Pan fydd yr ewin yn cyrraedd y top, codir yr ibric o'r gwres yn union. Ni adewir iddo ferwi drosodd. Troir y coffi gyda llwy nes bod yr ewin yn gostwng. Ail boethir yr ibric a gwneir yr un peth eto. Ail boethir ef am y trydydd gwaith ond ni throi'r coffi y tro hwn. Yn ôl rhai, mae rhaid poethi'r coffi pum gwaith, ond beth bynnag, ni throir ef y tro olaf. Gadweir yr ibric am funud er mwyn i'r gwehillion suddo i'r gwaelod ac arllwysir y coffi i'r cwpanau yn ofalus. Ni adewir y gweddillion arllwys i mewn i'r cwpanau. Gellir ychwanegu llaeth ond mae siwgwr ynddo'n barod.
GairFfrangeg am bot coffi ywcafetière. Cafodd ei ddyfeisio gan Saesnes o'r enwElizabeth Dakin yn1841, ond fe ymddangosodd gyntaf ynFfrainc yn 1950 dan yr enw "Melior". Mae'r egwyddor yn debyg i goffi Twrcaidd ond bod hidlydd fel piston yn gwasgu'r gwehillion i waelod y pot. Fe fyddwch chi'n rhoi ffa coffi wedi malu yng ngwaelod y pot ac arllwys dŵr poeth arno, disgwyl rhyw dri neu bedwar munud, ei droi ychydyg gyda llwy, wedyn gwthio'r piston yn araf i'r gwaelod.
Dyfeisiwyd hwn gan Ffrancwr ond ynyr Eidal y daeth yn boblogaidd pan ymddangosodd yn 1933 dan yr enw "Bialetti"; maent yn boblogaidd ynSbaen hefyd.
Mae'r potynTebot Moka mewn dwy ran sy'n sgriwio i'w gilydd. Tywelltir dŵr yn y rhan isod (A) a gosodir twmffat (B) gyda hidl ynddo. Rhoddir y coffi yn y twmffat a'i wasgu gyda'r llwy. Sgriwir y potyn (C) yn dynn ar ei ben a'i osod ar y stof. Pan fydd y dŵr yn dechrau berwi bydd gwasgedd yr ager yn gwthio'r dŵr poeth drwy'r coffi ac i mewn i'r potyn uchaf (C). Mae'r coffi'n barod yn syth. Er bod hwn yn gwneud diod derbyniol, dydy e ddim yn gwneud y coffi gorau gan fod y dŵr yn rhy boeth ac yn dueddol i ddifetha'r blas.
Darllawydd gwactod(vacuum brewer) ydy hwn, wedi ei ddyfeisio gan Sais. Gan fod yr offeryn wedi'i wneud o wydr, does dim metal nag unrhyw ddefnydd arall i ymyrryd ar flas y coffi. Mae twmffat mawr o wydr gyda hidlydd yn ffitio'n ddiddos yng ngwddf potyn gwydr sy'n hanner llawn o ddŵr oer. O dan y potyn mae lamp fach sy'n llosgi gwirod methyl. Pan fydd yr awyr yn twymo ac yn chwyddo fe fydd e'n gwthio'r dŵr poeth drwy diwben gwydr i'r twmffat uwchben. Os symudir y lamp fe fydd yr awyr yn oeri a chreu gwactod sy'n sugno'r dŵr poeth drwy'r coffi ar ben yr hidlydd. Mae'r system hon yn sicrhau bod tymheredd y dŵr yn gywir. Pan fydd y coffi'n barod gellwch godi'r twmffat o'r potyn a'i rhoi i'r naill ochr. Mae hwn yn gwneud coffi ardderchog. Dyma ffordd rhamantus o yfed coffi, gan fod y lamp fechan yn debyg i gannwyll ar y bwrdd.
(O'r gairLladinpercolare = hidlo) Mae'r coffi mewn hidl o ddur ddi-staen o dan ceuad y pot. Pan fydd y dŵr yn poethi fe fydd e'n codi drwy tiwben, rhedeg drwy'r hidl ac yn ôl i'r pot. Fe fydd hwn yn ail-godi a rhedeg drwy'r hidl ambell waith a chryfhau'r coffi yn raddol. Mae coffi percoladur yn lân iawn ond braidd yn wan.
Caiffffa coffi mâl eu dodi mewnhidlydd coffi (papur fel rheol, ond hefyddur distaen) a caiff dŵr berw ei arllwys drosto a diferi'n araf i gwpan,mẁg neudebot oddi tano i'w yfed gyda neu heb laeth. Mae'r dull yma'n boblogaidd yn y cartref. Mae modd defnyddio gwaddod y ffa coffi felcompost neuwrtaith.
(GairEidaleg =gwasgu allan.) Mae pwmp yn gwasgu ergyd o ddŵr poeth drwy hidl bach yn llawn ffa coffi wedi malu, yn syth i'r cwpan sy wedi ei osod yn union o dan yr hidl.
Peidiwch â defnyddio dŵr berwedig (mae coffi yn wahanol i de). Mae dŵr berwedig yn difetha'r blas. Dylai'r dŵr fod yn canu; 90 °C. Os ydy'r dŵr yn berwi rhaid gadael iddo oeri am un funud cyn gwneud y coffi.
Peidiwch â golchi eich pot coffi gyda'r llestri neu fydd blas sebon ar y coffi. Gwell golchi pot coffi mewn dŵr poeth a bicarbonad.
Peidiwch ag ail gysylltu eich pot coffi cyn ei rhoi i gadw. Rhaid cadw'r darnau yn wahan neu fyddyn nhw'n mynd i ddrewi a rhoi blas cas ar y coffi.
Os gofynnwch chi am goffi mewn unrhyw wlad fe gewch chi'r coffi wedi wneud yn y ddull lleol os ddywedwch chi ddim mwy. Er enghraifft, pan ofynnwch am goffi yng Nghymru fe fydd e'n cyrraedd mewn cwpan gyda llaeth a siwgwr. Os gofynnwch amcafé yn Ffrainc, gewch chi goffi bach du espresso mewn demitasse. Os gofynnwch amcaffè neucaffè normale ynyr Eidal fe gewch chi espresso bach du hefyd, ond anarferol iawn fydd rhywun yn gofyn am goffi heb ddweud sut fyddyn nhw'n ei hoffi. Mae blas arbennig hefyd ar goffi Eidalaidd gan fod nhw'n dueddol i gymysgu30% Robusta gyda70% Arabica. Fe welwch chi goffi EidalaiddArabica pur ar werth hefyd.Gweler y rhestr coffi isod am syniadau.
Mae coffi'n cynnwyscaffein sy'n cyffroi'rsystem nerfol canolog. Fe fydd e'n parhau'r dygnedd wrth gadw'r teimlad blinedig yn ôl. Dydy e ddim yn gwella perfformiad corfforol ond mae e'n esmwytho gwaith sy'n angen cydweithrediad y corff. Ar y llaw arall, dydy e ddim yn dda i yfed gormod o goffi.
Byddwch yn ymwybodol fodrobusta a choffi wedidecaffeineiddio yn cynnwys lefel uchel ogolesterol.
Gall lwch coffi gwyrdd (ffa coffi heb eu rhostio) achosi'rfogfa acalergedd y croen.
Er mwyn gwybod rhagor, ewch i'r erthygl "caffein".
Yn sgîl tŵf anhygoel mewn yfed y gwahanol fathau o goffi espresso y tu allan i'r caffe draddodiadol, gwelwyd tŵf mewn cwpanau untroplastig achardfwrdd gan ychwanegu ar sbwrieltirlenwi. Mae bellach sawl cwmni yn cynhyrchucwpanau clud sy'n gwpannau ailddefnydd sy'n cadw'r diod yn gynnes, yn declun gwydn a gellir yfed y coffi yn syth o'r gwpan.
Moca (Moka / Mocca) yw'r coffi gorau. Mae e'n cael ei allforio oAl-Mukha, porthladd masnachwyr coffi yn yrIemen. Mae llawer o goffi Moca yn dod oEthiopia.
Y coffi drytaf ywKona oHawaï aBlue Mountain oJamaica.
Pobly Ffindir sy'n yfed y mwyaf o goffi. Mae pob un yn yfed pum gwaith cymaint o goffi na'r Cymry.
Mae gwaddod coffi yn dda i'r ardd ac yn cadw'r malwod i ffwrdd.