Coel Hen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 360 ![]() |
Bu farw | 420 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Priod | gwraig Coel Hen ![]() |
Plant | Garbanion ap Coel Hen, Ceneu ap Coel Hen,Cwyllog,Gwenafwy,Peithien, Gwawl ferch Coel Hen,Helena o Gaergystennin ![]() |
Brenin neu bennaeth grymus yn yrHen Ogledd oeddCoel Hen neuCoel (Hen) Godebog (fl. dechrau'r5g efallai). Ei fab oeddCenau fab Coel (neu Ceneu).
Mae ei enw yn ffurfFrythoneg ar yr enw personolLladinCoelius (neuCoelestius) a thybir ar sail hynny ei fod yndux (sef arweinydd milwrol brodorol) y fyddin Rufeinig yng ngogleddPrydain wrth i rymRhufain ymddatod ac i'r ymerodraeth adael Prydain.
Llwyddodd Coel i warchod ac amddiffyn yBrythoniaid oedd yn byw yn yr ardaloedd o gwmpasMur Hadrian rhag yr ymosodiadau newydd gan yrEingl-Sacsoniaid. Cymaint oedd ei fri fel y daeth pob brenhinllin Frythonaidd yn yr Hen Ogledd i honni eu bod yn tarddu o linach Coel. Dyma'r "Coeling" neu "Coelwys" traddodiadol, disgynyddion Coel Hen. Roeddent yn cynnwysUrien Rheged,Peredur fab Efrog aGwallog. Mae rhai achau yn gwneudCunedda yn fab iEdern a Gwawl ferch Coel. Yng Nghymru roedd y Coeling yn cynnwysLlywarch Hen a saint felCynllo.
Mae SyrJohn Morris-Jones yn cynnig uniaethu teyrnas Coel ag ardaloeddAeron aKyle yn ne'rAlban.
Yn yrOesoedd Canol daeth yn adnabyddus ynLloegr felOld King Cole, gwrthrych yrhwiangerdd Saesneg.