Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cod QR

Oddi ar Wicipedia
Cod QR
Enghraifft o:nod masnach Edit this on Wikidata
Mathcod bar 2D Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluHydref 1997 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.qrcode.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cod QR i'r Wicipedia Cymraeg drwy ei safle ddiogel hi.

Math ogod bar (neu god dau ddimensiwn) penodol sy'nddarllenadwy ganddarllenydd cod bar QR affonau camera ywcod QR (gair a dalfyrrwyd oQuick Response code ("Cod Ymateb Cyflym"). Mae'r cod yn dangos modiwlau du sydd wedi eu trefnu i wneud sgwâr ar gefndir gwyn. Drwy ddefnyddio cod QR, mae modd amgodio testun,URL, neu ddata eraill.

Maent yn gyffredin ynSiapan, lle y crëwyd nhw gan is-gwmniDenso-Wave iToyota ym 1994. Un o'r mathau o godau bar dau ddimensiwn mwyaf poblogaidd yw'r cod QR. Crëwyd y codau QR yn wreiddiol er mwyn tracio ceir y cwmni a chaniatáu dadgodio cyflym.

Defnyddir y dechnoleg hon yn aml yn Siapan aDe Corea, ond mae'r Gorllewin wedi bod yn eithaf araf yn ei mabwysiadu.

Y dyfodol

[golygu |golygu cod]

Bellach ceir nifer o apps sy'n galluogi'r ffonau clyfar i adnabod gwrthrychau e.e. maeAurasma yn caniatáu i ffôn y defnyddiwr "adnabod" dillad ar fodel mewn ffenest siop Dunhill ynEfrog Newydd ac mae'r model yn siarad (ar y ffôn) gan ddisgrifio'r dillad mae'n ei wisgo. Rhannwyd 2 filiwn o apps Aurasma, a hynny heb gost. MaeBlippar yn gwneud gwaith tebyg i nwyddau cyrff megisCadbury,Jack Daniels, aTesco.[1]

CyhoeddoddPepsi'n ddiweddar fod y cwmni Pongr o Boston yn galluogi i ddefnyddiwr hepgor y codau QR gan sganio'r gwrthrych fel llun ar hysbyseb yn uniongyrchol i'w ffôn. Mae hyn gam yn y datblygiad pan y bydd "meddalwedd adnabod" yn caniatáu i chi bwyntio'ch ffôn at adeilad ac o fewn eiliadau bydd tudalen neu erthygl Wicipedia yn agor gan ddisgrifio'r adeilad. Yn y cyswllt hwn, gellir edrych ar y codau QR fel rhywbeth dros dro.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Gwefan Adweek.com; adalwyd 01/02/2012.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cod_QR&oldid=11765836"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp