Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cockermouth

Oddi ar Wicipedia
Cockermouth
Mathtref,plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Allerdale
Poblogaeth8,847 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMarvejols Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.6613°N 3.362°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04002401 Edit this on Wikidata
Cod OSNY121304 Edit this on Wikidata
Cod postCA13 Edit this on Wikidata
Map

Hen dref farchnad a phlwyf sifil ynCumbria,Gogledd-orllewin Lloegr, ydyCockermouth.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedolCumberland.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 8,761.[2]

Mae'r dref wedi’i lleoli ar gyrion Parc CenedlaetholArdal y Llynnoedd. Mae Caerdydd 354 km i ffwrdd o Cockermouth ac mae Llundain yn 412 km. Y ddinas agosaf ydyCaerliwelydd sy'n 36.7 km i ffwrdd.

Daw’r enw gan fod tarddiadAfon Cocker yno. MaeAfon Derwent hefyd yn llifo drwy’r dref. Y llyn agosaf ywLlyn Bassenthwaite, sydd 6 milltir i ffwrdd.

Canwyd y barddWilliam Wordsworth yn Cockermouth ar7 Ebrill1770. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei fywyd yno cyn cael ei yrru i ysgol ramadeg ynSwydd Gaerhirfryn yn wyth oed. Ffigwr enwog arall sy’n gysylltiedig a'r dref ywBing Crosby. Bu’r canwr a'r cyflwynydd Americanaidd ar sawl ymweliad ȃ'r dref i bysgota gan aros yngNgwesty’r Trout, oedd bryd hynny yn eiddo i’r Arglwydd Egremont.

Yn2009 a2015, bu i Cockermouth ddioddef o lifogydd drwg. Roedd y brif stryd dan lifogydd ac effeithiwyd ar gannoedd o dai a busnesau.

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu |golygu cod]
  • Bragdy Jennings
  • Castell Cockermouth
  • Ty Wordsworth
  • Gwesty'r Trout (Bwyty Derwent)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2019
  2. City Population; adalwyd 11 Mehefin 2019
gw  sg  go
Dinasoedd a threfiCumbria

Dinas
Caerliwelydd
Trefi
Alston ·Ambleside ·Appleby-in-Westmorland ·Aspatria ·Barrow-in-Furness ·Bowness-on-Windermere ·Brampton ·Broughton-in-Furness ·Cleator Moor ·Cockermouth ·Dalton-in-Furness ·Egremont ·Grange-over-Sands ·Harrington ·Kendal ·Keswick ·Kirkby Lonsdale ·Kirkby Stephen ·Longtown ·Maryport ·Millom ·Penrith ·Sedbergh ·Silloth ·Ulverston ·Whitehaven ·Wigton ·Windermere ·Workington

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cockermouth&oldid=11762233"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp