Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Coch dan adain

Oddi ar Wicipedia
Coch dan adain
Turdus iliacus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Passeriformes
Teulu:Turdidae
Genws:Turdus[*]
Rhywogaeth:Turdus iliacus
Enw deuenwol
Turdus iliacus







Dosbarthiad yrhywogaeth

Aderyn arhywogaeth o adar ywCoch dan adain (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: cochion dan adain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonolTurdus iliacus; yr enw Saesneg arno ywRedwing. Mae'n perthyn ideulu'r Brychion (Lladin:Turdidae) sydd ynurdd yPasseriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yngNghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml ynT. iliacus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ynAsia acEwrop. Mae'n aderyn cyffredin yngNghymru yn y gaeaf, ond nid ymddengys fod cofnod iddo nythu yma, er fod nifer fychan o barau yn nythu ynYr Alban ar brydiau. Mae'r Coch Dan-aden ynaderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Maent yn nythu mewn fforestydd, ond yn adeiladu'r nyth mewn llwyni neu ar lawr.

Mae'n nythu trwy rannau gogleddolEwrop acAsia ac yn aderyn cyfarwydd ymhellach i'r de yn y gaeaf.

Nyth Coch Dan-aden.

Gellir ei adnabod o'r cefn brown a bol wyn gyda rhesi neu smotiau tywyll, y lliw coch ar yr ochrau ac o dan yr adenydd a'r llinell wen amlwg uwchben y llygad. Mae tua'r un faint aBronfraith. Ei brif fwyd yw pryfed yn yr haf ac aeron yn y gaeaf. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau yn gymysg gyda'rSocan Eira.

Teulu

[golygu |golygu cod]

Mae'r coch dan adain yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin:Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

Diweddarwch y rhestr nawr |WQS |Chwiliwch am ddelweddau


rhywogaethenw tacsondelwedd
Brych daear AbysiniaGeokichla piaggiae
Brych daear CrossleyGeokichla crossleyi
Brych daear MolwcaiddGeokichla dumasi
Brych daear SiberiaGeokichla sibirica
Brych daear cefnllwydGeokichla schistacea
Geokichla cinereaGeokichla cinerea
Geokichla dohertyiGeokichla dohertyi
Geokichla erythronotaGeokichla erythronota
Geokichla interpresGeokichla interpres
Mwyalch AdeinlwydTurdus boulboul
MwyalchenTurdus merula
Mwyalchen y mynyddTurdus torquatus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn yPeiriant Wayback GwefanCymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
Safonwyd yr enwCoch dan adain gan un o brosiectau. Mae cronfeydd dataLlên Natur (un o brosiectauCymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agoredCC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adranBywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Coch_dan_adain&oldid=13458813"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp