Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cobh

Oddi ar Wicipedia
Cobh
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,347 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Ploermael, Kolbuszowa, Cruzeiro,Lake Charles,Pontarddulais Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Corc Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd8.95 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr47 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.851°N 8.2967°W Edit this on Wikidata
Map

Porthladd sy'n faesdref i ddinasCorc,Iwerddon, ywCobh (Gwyddeleg:An Cóbh).[1] Cafodd yr enwQueenstown neuCove of Cork tan 1922.

MaeHarbwr Corc yn un o'r harbwrau naturiol mwyaf yn y byd. Y porth oedd y stop olaf am y mwyafrif o'r llongau yn croesi'rCefnfor Iwerydd iUnol Daleithiau America.

Ym mis Rhagfyr 1892, gadawodd Annie Moore (1 Ionawr 1877 - 1923) a'i brodyr Phillip ac Anthony, harbwr Cobh ar y llongNevada i symud i'r Unol Daleithiau America. Ar1 Ionawr,1892, Annie Moore oedd y mewnfudwr cyntaf i fynd heibio'r ganolfan mewnfudo newydd arYnys Ellis ynEfrog Newydd. Mae cerflun y tri phlentyn i'w cael ar y cei yn Cobh ac yn Ynys Ellis hefyd.

Hwyliodd y leinarTitanic o harbwr Cobh ar11 Ebrill,1912 ar ei mordaith gyntaf oSouthampton,Lloegr, iEfrog Newydd. Suddwyd y llong ar14 Ebrill,1912 ar ôl taro rhewfynydd yn yr Iwerydd a boddwyd myw na 1,500 o bobl.

Ar7 Mai1915 suddwyd y leinarLusitania, yn hwylio oEfrog Newydd iLerpwl, ganlong-danfor Almaenig oddi ar benrhynKinsale,Swydd Corc. Bu farw 1,198 o bobl. Cludwyd y goroeswyr a'r meirw i dre Cobh a chladdwyd mwy na 100 o'r meirw ym mynwent yr Hen Eglwys. Mae cofadail i'r Lusitania ymMaes Casement yn y dre.

Cerflun Annie Moore a'i brodyr ar y cei.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cobh&oldid=11521083"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp