| Math | tref, ardal ddi-blwyf |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Ardal Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr |
| Poblogaeth | 21,988 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerlŷr (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 6.589 km² |
| Cyfesurynnau | 52.724°N 1.369°W |
| Cod OS | SK433138 |
| Cod post | LE67 |
![]() | |
Tref ynSwydd Gaerlŷr,Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydyCoalville.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf yn ardal an-fetropolitanGogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr, ac mae'r dref yn bencadlys y cyngor ardal.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 49,716.[2]
Yn ystod canol y 19g datblygodd Coalville fel canolbwynt ardal cloddio glo gogledd Swydd Gaerlŷr. Tyfodd diwydiannau chwarela, tecstilau a pheirianneg, megis cynhyrchu wagenni rheilffordd, yn ystod y 19g. Daeth mwyngloddio glo i ben yn Coalville yn ystod yr 1980au. Caeodd chwe phwll glo - Snibston, Desford, Whitwick, Ellistown, De Caerlŷr a Bagworth - yn Coalville a'r cyffiniau yn y cyfnod rhwng 1983 a 1991.