Mae'r enghreifftiau cynharaf o Girgiseg ysgrifenedig yn dyddio o'r 19g ac yn cynnwys nodweddion o iaith lafar y Cirgiseg wedi eu hychwanegu at yr iaithTsagadai safonol, a hynny drwy gyfrwngyr wyddor Arabeg. Yn 1923 diwygwyd a safonwyd yr wyddor Arabeg ar gyfer yr iaith, ac yn 1929 newidiwyd i'rwyddor Ladin. Yn 1940 mabwysiadwyd system o ysgrifennu Cirgiseg ar sailyr wyddor Gyrilig, a dyma'r drefn a barheir hyd heddiw yng Nghirgistan. Defnyddir yr wyddor Arabeg o hyd yn Tsieina.
Perthyna Cirgiseg i grŵp y gogledd-orllewin, neu’r Kipchak, yn nheulu’r ieithoedd Tyrcaidd. Y Girgiseg ydy’r drydedd iaith Kipchak fwyaf yn nhermau nifer ei siaradwyr, ar ôl Casacheg aThatareg. Mae Cirgiseg modern yn perthyn yn agos iawn i Gasacheg, ac yn hanesyddol cafodd y Cirgisiaid a’rCasachiaid eu cysylltu ac yn aml eu cymysgu am y rheswm honno. Mae Cirgiseg yn rhannu nodweddion â ieithoedd Tyrcig deSiberia, gan gynnwysAltaeg, ond nid yw ieithyddion yn sicr os ydy Cirgiseg yn tarddu yn uniongyrchol o’rHen Dyrceg.[1]
Map o ddosraniad yr iaith Girgiseg yng Nghanolbarth Asia yn yr 21g.
Trwy gydolyr oes Sofietaidd, cedwid yr iaith Girgiseg yn gryf gan y Cirgisiaid ethnig a drigasant yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, er yr oeddynt yn cyfri am leiafrif o boblogaeth y weriniaeth honno. Yn ôl cyfrifiad 1979, roedd 97.9 y cant o Girgisiaid yn yr Undeb Sofietaidd yn hawlio’r Girgiseg yn famiaith.[2] Er i Rwsieiddio gael mwy o effaith yng Nghirgistan nac yng nghyn-wladwriaethau Sofietaidd eraill Canolbarth Asia, mae llai o bobl yn siarad Rwseg yr ardaloedd gwledig ac mae’r iaith Girgiseg wedi dal ei thir ar draws Cirgistan yn yr 21g.[3] Siaredir Cirgiseg gan ryw 5 miliwn o bobl yng Nghirgistan, a hefyd yn rhannau o Tsieina, Casachstan, Tajicistan, ac Wsbecistan.
Cyn yr oes Sofietaidd, ysgrifennwyd Cirgiseg ac ieithoedd Tyrcaidd eraill Canolbarth Asia yn yr wyddor Arabeg. Defnyddiwyd ffurf ddiwygiedig ar yr wyddor Arabeg o 1923 i 1929, pryd mabwysiadwyd yr wyddor Ladin. Yn 1940, dechreuwyd defnyddio’r wyddor Gyrilig i ysgrifennu’r Girgiseg. Mae Cirgistan yn parhau i ddefnyddio llythrennau Cyrilig er bod gwledydd cyfagos yng Nghanolbarth Asia, megisTyrcmenistan acWsbecistan, wedi dychwelyd at y gyfundrefn Ladin.[3]
↑Mark Kirchner, "Kirghiz" ynThe Turkic Languages, golygwyd gan Lars Johanson ac Éva Á. Csató (Llundain: Routledge, 2006), t. 344.
↑J. C. Dewdney, "The Turkic Peoples of the USSR" ynThe Turkic Peoples of the World, golygwyd gan Margaret Bainbridge (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2010 [1993]), tt. 243–44.
↑3.03.1David Gullette,The Genealogical Construction of the Kyrgyz Republic: Kinship, State and ‘Tribalism’ (Folkestone, Caint: Global Oriental, 2010), t. 13.
J. C. Dewdney, "The Turkic Peoples of the USSR" ynThe Turkic Peoples of the World, golygwyd gan Margaret Bainbridge (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2010 [1993]), tt. 214–95.
David Gullette,The Genealogical Construction of the Kyrgyz Republic: Kinship, State and ‘Tribalism’ (Folkestone, Caint: Global Oriental, 2010).
Mark Kirchner, "Kirghiz" ynThe Turkic Languages, golygwyd gan Lars Johanson ac Éva Á. Csató (Llundain: Routledge, 2006), tt. 344–56.