Ers 20 Mai 2019 mae wedi ei ddiffinio yn nhermau cysonion ffisegol sylfaenol. Cyn 20 Mai 2019, roedd wedi ei ddiffinio gan silindr o aloiplatinwm, yCilogram Prototeip Rhyngwladol (yn anffurfiolLe Grand K neu IPK) a wnaethpwyd yn 1889, a gadwyd yn ofalus ynSaint-Cloud, maestref oBaris.
Delwedd o'rInternational Prototype Kilogram (“IPK”), sef y cilogram yr oedd pob cilogram drwy'r byd wedi'i sylfaenu arno. Fe welir pren mesur gyda modfeddi wrth ei ochr. Fe'i wnaed oblatinwm-iridiwn a chaiff ei storio yn folts yBIPM ynSèvres, Ffrainc.
Yn Gymraeg, defnyddiwn y symbol rhyngwladolkg, gan y byddai gwrthdaro gydag uned arall (y centigram) pe bawn yn defnyddio cg.
Mae'r uned hon (sef y cilogram) yn 2.20462262 pwys (yr hen bwysau 'Imperial'). Uned arferoldwysedd yw cilogram pob metr ciwb (cg/m³).
Lle
ρ yw dwysedd y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogram pob metr ciwb)
m yw màs cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn cilogramau)
C yw cyfaint cyfan y gwrthrych (wedi'i fesur mewn metrau ciwb)
Ar26 Mawrth1791 danfonodd Ffrancwr o'r enw Charles Maurice de Talleyrand-Périgord lythyr at Lywodraeth Ffrainc yn galw am safoni'r grefft o fesur. Pedwar diwrnod ar ôl derbyn y llythyr hwn, sefydlodd y llywodraeth Academi a rhannwyd y gwaith gan greu unedau metrig sy'n parhau i gael eu defnyddio heddiw.
Ar7 Ebrill1795 cyhoeddwyd yn Ffrainc fod ygram yn hafal i "bwysau absoliwtcyfaint y dŵr sydd mewn ciwb 1cm wrth 1cm (un centimetr ciwb), a hynny ar dymheredd rhew.[1] Ond roedd diwydiant yn gweiddi am fesurau mwy na'r centimetr a'r gram. Sylweddolwyd hefyd fod pwysau rhew yn amrywiol ac yn ddibynnol ar nifer o ffactorau ac felly aethpwyd ati i greu prototeip mwy ymarferol na dŵr, a fyddai 1000 gwaith yn fwy na'r gram, sef y "kilogram". Yn yr un flwyddyn, aethpwyd ymlaen â'r gwaith o ddiffinio "litr".