Graddfa chwyddiant ledled y byd yn 2019, yn ôl yrIMF.Chwyddiant (glas) a datchwyddiant (gwyrdd) ynUnol Daleithiau America rhwng 1666 a 2019.
Yn gyffredinol, cyflwreconomaidd ywchwyddiant pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi am ysbaid o amser, hynny yw, pan fo swm yrarian dreigl achredyd yn cynyddu o'u cymharu â maint ycynnyrch mewnnwyddaumasnachol.[1][2]
Ceir tri phrif fath o chwyddiant:
Chwyddiant galw-tynnu (demand-pull inflation), pan fo'r galw am nwyddau yn uwch na'rcyflenwad ar y farchnad.
Chwyddiant cost-gwthio (cost-push infaltion), pan fo cynnydd mewn prisiau nwyddau yn absenoldeb cynnydd yn y galw amdanynt.
Chwyddiant ariannol (monetary inflation), pan geir cynnydd yn y cyflenwad arian.
Pan fo prisiau nwyddau a gwasanaethau'n codi, mae uned o arian yn prynu llai o nwyddau; adlewyrcha hyn y 'pŵer prynu' (purchasing power) gwladwriaeth; po fwya'r chwyddiant, po leiaf ydy'r pŵer prynu, a pho fwyaf yw'r diffyg a'r gwerth real yr economi.[3][4] Mesurir chwyddiant gan raddfa blynyddol chwyddiant a'rconsumer price index.[5]
Mae chwyddiant yn effeithio'r economi mewn ffyrdd gwahanol: yn adeiladol ac yn negyddol. Yn negyddol, gwelir cynnydd yng nghostau buddsoddi, ansicrwydd o lefel chwyddiant y dyfodol (sy'n atal buddsoddi), ac (ar ei eithaf) lleihad yn y nwyddau sydd ar gael. Yn adeiladol, mae'n caniatáu i fanciau canolog graddfeydd llog, a rheoli neu leihau'r posibilrwydd oddirwasgiad,[6] ac yn annog buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf.
Datgysylltwyd arian sterling oddi ar y 'safon aur' yn ystod yRhyfel Byd Cyntaf er mwyn ei ariannu. Effaith hyn oedd chwyddiant a chynydd yng ngwerthaur; gwelodd y bunt, hefyd ostyngiad o fewn y cyfraddau llog rhyngwladol. Pan ail-gysylltwyd y bunt gyda'r 'safon aur' wedi'r Rhyfel Mawr, gwnaed hynny ar sail prisiau aur cyn y rhyfel, a oedd yn uwch, a bu'n rhaid gostwng prisiau'n sylweddol.
Cafwyd adegau o wrth-chwyddiant (neu 'ddatchwyddiant') yng ngwledydd Prydain: disgynnodd 10% yn 1921 a 3-5% yn y 1930au cynnar.[7]
↑Paul H. Walgenbach, Norman E. Dittrich and Ernest I. Hanson, (1973), Financial Accounting, New York: Harcourt Brace Javonovich, Inc. Page 429."The Measuring Unit principle: The unit of measure in accounting shall be the base money unit of the most relevant currency. This principle also assumes that the unit of measure is stable; that is, changes in its general purchasing power are not considered sufficiently important to require adjustments to the basic financial statements."