MaeChwalfa Epynt neuGlirio Epynt yn cyfeirio at orfodi cymunedMynydd Epynt (Powys) allan o'u tai. Cafodd 200 o ddynion, merched a phlant eu troi allan o'u cartrefi gan gynnwys 54 o ffermydd a thafarn.[1]
Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig oedd yn gyfrifol am y dadfeddiant ym 1940, gan greu Ardal Hyfforddi Pontsenni (SENTA), sef ardal hyfforddi filwrol fwyaf Cymru.[1]
Defnyddir y term "Cofiwch Epynt" er cof am yr hanes, mewn modd tebyg iCofiwch Dryweryn.[2][3][4]
Cymunedau Cymreig a ddinistrwyd |
---|
![]() |
Mynydd Epynt (1949) |
Cwm Elan (1893) |
Llanwddyn (1888) |
![]() |
Siaradodd nifer o Aelodau Senedd Cymru a ffigyrau blaenllaw yn erbyn y meddiannu. Er hyn, ni wrandawyd ar y gwrthwynebiad. Ystyriwyd y gwrthwynebiad yn wrth-Brydeinig a'i fod yn tanseilio ymdrech y rhyfel.[5] Gan fod y cliriad wedi digwydd yn ystod y tymor wyna, caniatawyd estyniad byr i rai ffermwyr, ond roedd pob un o’r achosion o ddadfeddianu wedi’u cwblhau erbyn Mehefin 1940. Cafodd cyfanswm o bedwar cant o bobl eu taflu allan, gyda'r fyddin yn meddiannu 30,000 acr (12,000 ha)o dir. Ardal Hyfforddi Pontsenni (SENTA) yw'r ardal bellach, un o'r parthau hyfforddi milwrol mwyaf yn y Deyrnas Unedig.[6][7]
Dinistriodd gweithgareddau hyfforddi y rhan fwyaf o strwythurau gwreiddiol cymuned Mynydd Epynt. Roedd y rhain yn cynnwys capeli a mynwentydd. Er gwaethaf hyn, adeiladwyd pentref artiffisial yn yr ardal ym 1988. Fe godwyd llawer o adeiladau ffug fel rhan o brosiect "Fighting In Built Up Areas" (FIBUA), gan gynnwys capel ffug gyda cherrig beddau ffug.[8]
Disgrifir y cliriad fel "y Chwalfa" yn Gymraeg ac mae wedi'u disgrifio fel "ergyd angau iSir Frycheiniog-Gymraeg" gan Euros Lewis. Tynnodd Lewis gymariaethau â diwedd cymunedCapel Celyn, gan nodi cyfradd marwolaeth gymharol ifanc y rhai a gafodd eu troi allan, a'r gred bod un preswylydd wedi "ei lefain ei hun i farwolaeth". Wrth i'r rhai gafodd eu troi allan gael eu gwasgaru i ardaloedd mwy Saesneg eu hiaith, cafodd y cliriad effaith sylweddol ary Fro Gymraeg, gan leihau ei hardal yn nwyrain Cymru a nifer y tafodieithoedd a siaredir.[9][10]
Mae adroddiadau diweddarach yn awgrymu bod llawer o’r rhai a gafodd eu troi allan dan yr argraff y byddent yn dychwelyd ar ddiwedd yrAil Ryfel Byd. Mae hanesion am bobl yn gadael eu goriadau mewn cloeon ac yn dychwelyd i gynnal a chadw'r cartrefi ac hyd yn oed yn parhau i aredig y caeau. Cafodd y fyddin anhawster i gadw rhai cyn-drigolion draw. Dychwelodd Thomas Morgan i'w dŷ, "Glandŵr", yn ddyddiol i gynnau tân yr aelwyd er mwyn amddiffyn cerrig y tŷ. Rhybuddiwyd Morgan dro ar ôl tro i roi'r gorau iddi, ond parhaodd nes cafodd ei gartref ei dinistrio gan ffrwydron, gyda swyddog milwrol yn ei hysbysu "Rydym wedi chwythu'r ffermdy i fyny. Fydd dim angen i chi ddod yma bellach."[10][11]
Dogfennwyd y chwalfa ganIorwerth Peate, curadur a sylfaenyddAmgueddfa Werin Sain Ffagan. Ymwelodd Peate â'r ardal sawl gwaith, gan gynnwys diwrnod olaf y cliriad. Disgrifiodd Peate yn atgof o gyfarfod un o'r rhai a gafodd ei throi allan, yn ei chartref "Waunlwyd". Eisteddodd y ddynes oedrannus yn llonydd a dagreuol gyda'i chefn at y tŷ. Darganfu Peate yn ddiweddarach fod y ddynes yn 82 mlwydd oed ac wedi ei geni yn y cartref, fel y ganed ei thad a'i thaid. Ceisiodd Peate gilio pan ofynnodd y wraig iddo yn sydyn o ble yr oedd yn dod. Atebodd Peate "Caerdydd", ac atebodd hi, "Fy machgen bach i, ewch yn ôl yno gynted ag y medrwch", "Mae'n ddiwedd byd yma". Mae'r term "Mae'n diwedd byd yma" wedi cael ei gysylltu gyda'r cliriad ac yn deitl ar lyfr ar Hanes Mynydd Epynt a gyhoeddwyd yn 1997.[12]