Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Chewbacca

Oddi ar Wicipedia
Chewbacca
Enghraifft o:Wookiee, cymeriad o Star Wars, cymeriad ffilm, cymeriad llenyddol, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad gêm fideo Edit this on Wikidata
CrëwrGeorge Lucas Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCrimson Dawn, Rebel Alliance, Resistance Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.starwars.com/databank/chewbacca Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymeriad ffuglennol ywChewbacca, llysenw"Chewie", yn y fasnachfraintStar Wars. Wookiee yw Chewbacca, creaduriaid (ffuglennol) tal, blewog, deudroed a deallus o'r blaned Kashyyyk. Chewbacca yw ffrind ffyddlon a chydymaith Han Solo, ac mae'n gyd-beilot iddo ar y llong ofod, yMillennium Falcon.[1] Yn ôl y stori, cyfarfu'r ddau ar ol i Chewbacca ddianc o gaethiwed yr Ymerodraeth ar blaned Minban. Yn dilyn cyfres o anturiaethau ar Vandor a Kessel, mae Chewbacca yn ymuno â'r fasnach smyglo fel cyd-beilot i Solo.

YsbrydoliaethGeorge Lucas oedd y cymeriad, wedi iddo weld ei gi ei hun yn eistedd i fyny yn sedd teithiwr ei gar.[2] Dywedir bod enw Chewbacca yn deillio oсобака (sobaka), y gairRwsia am gi.[3] YnFfrainc, newidiwyd ei enw ym mhennod 4 (y ffilm gyntaf i'w rhyddhau) i "Chiktaba"[4] oherwydd bod yr enw Saesneg yn debyg i "cnoi baco" yn Ffrangeg, sef "tabac à mâcher" neu "tabac à chiquer". Cadwyd yr enw "Chewbacca" yn y penodau eraill. Yn y fersiynauEidaleg, gelwir Chewbacca yn "Chewbecca", a'i lysenw yw "Ciube".[5]

Yn ffilmiau'r prif saga, portreadwyd Chewbacca ganPeter Mayhew o benodauIII iVII (mae Mayhew yn rhannu'r rôl gyda'i gorff dwbl, Joonas Suotamo, ymMhennod VII). Cymerodd Suotamo y rôl ar ei ben ei hun yn yr wythfed bennodStar Wars: The Last Jedi,[6] ac ynSolo: A Star Wars Story aStar Wars: The Rise of Skywalker. Mae'r cymeriad hefyd wedi ymddangos ar deledu, llyfrau, comics, a gemau fideo.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Chewbacca Profile, at StarWars.com. Retrieved May 30, 2018.
  2. George Lucas, in DVD bonus disc documentary, "Characters of Star Wars"
  3. "FilmSmarts.com - Chewbacca from Star Wars".filmsmarts.com.
  4. http://cinema.jeuxactu.com/news-cinema-star-wars-quand-chewbacca-s-appelait-chiktaba-et-han-solo-yan-28943.htm
  5. Lorenzo Frati."La Guerra delle stelle: Il doppiaggio e l'adattamento italiano di Star Wars del '77".Star Wars Athenaeum (yn Eidaleg). Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2016-02-24. CyrchwydNovember 21, 2018.
  6. "Why We Still Love Star Wars: A New Chewie".Parade magazine. December 3, 2017. t. 8.Now Joonas Sutamo,....,has taken over the suit full-time from 73-year old actor Peter Mayhew.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Chewbacca&oldid=10972964"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp