Sir seremonïol asir hanesyddol yngNgogledd-orllewin Lloegr ywSwydd Gaer,Sir Gaer,Swydd Gaerlleon neuSir Gaerlleon[1] (Saesneg:Cheshire), ar y ffin â gogledd-ddwyrainCymru. Ei chanolfan weinyddol yw dinasCaer ond y ddinas fwyaf ydyWarrington ac mae ei threfi'n cynnwys:Widnes,Congleton,Crewe,Ellesmere Port,Runcorn,Macclesfield,Winsford,Northwich, aWilmslow.[2]
Lleoliad Swydd Gaer yn LloegrMae ei harwynebedd yn 2,343km² a'i boblogaeth yn 1,066,647 yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[3]
Gan mai sir seremonïol ydyw ers Ebrill 2009, ni chynhelir etholiadau; mae'r gwaith o weinyddu'r sir ar lefel lleol yn cael ei wneud gan bedwar awdurdod unedol llai:Dwyrain Swydd Gaer,Gorllewin Swydd Gaer a Chaer,Bwrdeistref Halton aBwrdeistref Warrington.[4][5]
Rhennir y sir yn bedwarawdurdod unedol:

- Gorllewin Swydd Gaer a Chaer
- Dwyrain Swydd Gaer
- Bwrdeistref Warrington
- Bwrdeistref Halton
Rhennir y sir yn 11 etholaeth seneddol yn San Steffan: