On the Tendency of Species to form Varieties; and on the Perpetuation of Varieties and Species by Natural Means of Selection,On the Origin of Species, The Voyage of the Beagle, The Descent of Man, and Selection in Relation to Sex, The Expression of the Emotions in Man and Animals, Insectivorous Plants, The Power of Movement in Plants, The Formation of Vegetable Mould through the Action of Worms
Anne Darwin, Francis Darwin, William Erasmus Darwin, Henrietta Darwin, George Darwin, Leonard Darwin, Horace Darwin, Charles Waring Darwin, Elizabeth Darwin, Mary Eleanor Darwin
Perthnasau
Ursula Mommens, Josiah Wedgwood II, Emma Darwin, Robin Darwin,Sarah Darwin
Gwobr/au
Medal Brenhinol, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Cymrawd Cymdeithas y Linnean,Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Baly Medal, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, Bressa Prize, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Leiden, Medal Wollaston, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi, Medal Darwin
Yn Awst 1831, astudioddgreigiau Eglwyseg gerLlangollen ac yna ymweliad âPhen y Gogarth ynLlandudno, cyn mynd ymlaen iGwm Idwal ynEryri lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno.[1][2] Ar ei daith ddaearegol olaf i Gymru, ym 1842, fe ymwelodd âMoel Tryfan ym mhlwyfLlanwnda, lle roedd olion o waddodiad morol wedi eu darganfod ar ffurf cregin; er na chafodd hyd i fwy o'r rhain, fe ddaeth at rai casgliadau ynglŷn â ffurfiant y gwythiennau llechfaen yn yr ardal, sydd ar ongl anarferol.[3]
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrddHMSBeagle ac roedd ei arsylliadau arYnysoedd y Galapagos yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth.
Yn ystod ei deithiau, aeth Darwin i'r YnysforCape Verde, iYnysoedd Falkland (Malvinas), i lannau môrDe America,Ynysoedd y Galapagos,Seland Newydd acAwstralia. Daeth yn ôl adref ar2 Hydref,1836, ac ar ôl hynny roedd e'n dadansoddi y sbesimenau a gasglodd, pan sylweddolodd fod ffosiliau anifeiliaid a phlanhigion o'r un ardal ddaearyddol yn debyg iawn i'w gilydd. Ei ddarganfyddiad pwysicaf oedd amgrwbanod acadar Ynysoedd y Galapagos: mae math arbennig gwahanol ohonynt ar bob ynys yn dilyn eu golwg, eu bwyd ac ati, ond yn debyg iawn fel arall.
Yng ngwanwyn1837 hysbyswyd ef fod adaregwyr yr Amgueddfa Brydeinig - Byd Natur wedi derbyn maillinos oedd yr holl adar a gasglodd ar Ynysoedd y Galapagos. Hyn a thraethawdThomas Malthus ar boblogaeth a cyhoeddwyd ym1798 arweiniodd at ddamcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturol a rhywiol. Er enghraifft datblygwyd yr holl amrwyiaeth o grwbanod yr Ynysoedd o'r un rhywogaeth trwy ymaddasu i fywyd ar ynysoedd gwahanol, yn ôl ei ddamcaniaeth.
Cwm Idwal: man allweddol yn natblygiad syniadaeth Darwin o esblygiad
Cyhoeddwyd llyfr am ei ddamcaniaeth,Notebook on the Transmutation of Species, sydd yn cytuno âPrinciples of Geology gan SyrCharles Lyell acEssay on the Principle of Population ganThomas Malthus sydd yn awgrymu fod adnoddau bwyd yn tueddu i gyfyngu poblogaeth i un ardal neilltuol. Sylweddolodd Darwin fod ei ddamcaniaeth yn gywir a gwnaeth brofion argolomennod a phlanhigion yn ogystal ag ymchwil gyda bridwyrmoch i gryfhau ei ddamcaniaeth.