Cafodd y Charente ei chreu yn yChwyldro Ffrengig allan o'r hen dalaith Angoumois. Yn y 19eg ganrif cafwyd cyfnod o ffyniant, a chyrhaeddodd y boblogaeth uchafbwynt yn 1851. Yn 1872 daeth adfail i'r diwydiant gwin yn ffurf yphylloxera.
Roedd y boblogaeth yn sefydlog drwy'r 20g: tua 340,000. Mae dipyn o ddatblygiad o gwmpas Angoulême wedi ychwanegu tua 10,000 arall ar ben hyn.
Mae'r Charente wedi ennill ei blwyf gan bobl o wledydd Prydain sydd wedi ymddeol. Yn 2006 roedd yna dros 5,000 o ddinasyddion Prydeinig yn ydépartement[1].