Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cewri (llên gwerin Cymru)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oCewri (mewn llên gwerin Cymraeg))
Cewri
Mathcawr Edit this on Wikidata

Maecewri yn ymddangos yn rheolaidd yn llên gwerin a mytholeg Cymraeg. Y rhai mwy nodedig yw Bendigeidfran fab Llyr, Brenin mytholegol Ynys Prydain yn ail gainc y Mabinogi, Idris GawrCader Idris, acYsbaddaden Bencawr yn un o'r chwedl Arthuraidd cyntaf, Culhwch ac Olwen. Mae ArthurGwalchmai fab Gwyar yn ymddangos hefyd fel y rhai sy'n erlid cewri.[1]

MaeSieffre o Fynwy hefyd yn disgrifio cewri fel trigolion Prydeinig gwreiddiol, a gafodd eu llethu gan ymsefydlwyr dynol.[2]

Chwedlau

[golygu |golygu cod]

Cewri yn y Mabinogion

[golygu |golygu cod]

Yn chwedl Branwen ferch Llyr, caiff Ynys Prydain ei reoli gan Bendigeidfran, nad yw erioed wedi ffitio mewn annedd. Hefyd yn yr Ail Gainc, dygir yPair Dadeni i Gymru o Iwerddon gan y cawr Lassar Llaes Gyfnewid a'i wraig, Cymidei Cymeinfoll.[3]

Yn chwedl Culhwch ac Olwen, cewri yw'r gelynion. Ysbaddaden yw tad Olwen, morwyn brydferth sydd dal llygad Culhwch fab Cilydd, ac yn gefnder iFrenin Arthur. Mae'n cael ei ladd ar ddiwedd y chwedl gan ei nai Goreu fab Custennin,[4] tra bo Wrnach, cawr arall, yn cael ei ladd gan Cei.

Cewri nodedig eraill

[golygu |golygu cod]

Honna Historia Brittonum fod Benlli Gawr yn frenin cynnar arBowys. Cafodd ei losgi i farwolaeth ar ôl ymddwyn yn ymosodol tuag at Garmon.

Canthrig Bwt, oedd cawres a gwrach ddrwg-enwog yn llên gwerin Gwynedd, a oedd yn byw o dan garreg yn Nant Peris a lladdodd a bwytodd nifer o blant yr ardal.[5]

Mae sôn amGogfran y cawr yn Trioedd Ynys Prydain fel tad Gwenhwyfar, trydedd gwraig Arthur. Mae'r chwedl yn adrodd hanes carcharu nifer o'i feibion gan gewri Bron Wrgan, gan arwain Arthur i ymosod ar eu cartref i rhyddhau ei frodyr-yng-nghyfraith.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. The Giants of Wales and their dwellings
  2. [1]
  3. Davies, Sioned.The Mabinogion.
  4. Davies, Sioned.The Mabinogion.
  5. Jones, John.Llên Gwerin Sir Gaernarfon
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cewri_(llên_gwerin_Cymru)&oldid=13698569"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp