Maecetamin, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Ketalar ymysg eraill, ynfeddyginiaeth a ddefnyddir yn bennaf i ddechrau a chynnal anesthesia.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₆ClNO. Mae cetamin yn gynhwysyn actif yn Zetamine, Ketaved, Vetaket, Ketaject, Ketaset a Ketathesia .
Mae cetamin fel rhan o ddarpariaeth anesthetig yn ysgogi cyflwr tebyg ilesmair wrth ddarparu rhyddhad rhag poen, tawelyddiad, a cholli cof. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin poen cronig ac ar gyfer tawelyddiad mewn gofal dwys[2][3]. Yn gyffredinol, mae swyddogaethau'rgalon,y system anadlu ac adweithiau'r llwybr awyr yn parhau i fod yn weithredol yn ystod ei effeithiau. Fel rheol, bydd yr effeithiau'n dechrau o fewn pum munud pan weinir trwy bigiad gyda'r prif effeithiau yn para hyd at 25 munud.
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Cetamin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys adweithiauseicolegol wrth i'r prif effeithiau gwanhau. Gallai'r adweithiau hyn gynnwys cynnwrf, dryswch arhithweledigaethau. Maepwysedd gwaed uchel a chryndod y cyhyrau yn gymharol gyffredin, tra bod pwysedd gwaed isel a gostyngiad yn y gallu i anadlu yn llai cyffredin. Yn achlysurol iawn gall gwaew'rlaryncs yn digwydd[4].
Darganfuwyd cetamin ym 1962, a brofwyd gyntaf ymhlith pobl ym 1964. Cafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn yrUnol Daleithiau ym 1970. Yn fuan wedi ei gymeradwyo gan yr Unol Daleithiau, fe'i defnyddiwyd yn helaeth ar gyfer anesthesiallawfeddygol ynRhyfel Fietnam. Mae arRestr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Caiff cetamin ei ddefnyddio'n aml fel anaesthetig aphoenliniarydd argathod,cŵn,cwningod, llygod mawr, ac anifeiliaid bach eraill. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn cynefino a chynhaliaeth anesthetig mewnceffylau[5].
Mae cetamin hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cyffur hamdden anghyfreithiol[6]. Yny Deyrnas Unedig, fe'i labelwyd yn gyffur Dosbarth C ar 1 Ionawr 2006. Ar 10 Rhagfyr 2013, argymhellodd Cyngor Ymgynghorol y DU ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) i'r llywodraeth ail-ddosbarthu cetamin i fod yn gyffur Dosbarth B, ac ar 12 Chwefror 2014 cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y byddent yn dilyn yr argymhelliad "yng ngoleuni'r dystiolaeth o ddamweiniau cronig sy'n gysylltiedig â defnyddio cetaminau, gan gynnwys difrod cronig i'r bledren a rhannau eraill o'r llwybr wrinol"
Fel cyffur hamddenol mae'n cael ei hadnabod wrth yr enwau "y grintach werdd", "rockmesc", "K", "Citi", "Kallie Ziltz", "Cet", "Special K", "K2", "Fitamin K", "Super K", "Piws", "Skittles", "olew mêl" ac enwau eraill. Wedi ei gymysgu achocên mae'n cael ei alw'n "CK" neu "Calvin Klein".
↑Lamont, LA (2008).Adjunctive analgesic therapy in veterinary medicine". Veterinary Clinics of North America: Small Animal Practice. 38 (6): 1187–203.
↑Center for Substance Abuse Research (CESAR); Prifysgol Maryland."Ketamine". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2013-11-12. Cyrchwyd25 Mawrth 2018.
Cyngor meddygol
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnciechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.
Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!