![]() Canol pentref Cerrigydrudion | |
Math | cymuned,pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 740, 716 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6,128.09 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.026°N 3.562°W ![]() |
Cod SYG | W04000112 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Jones (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref bychan achymuned ymmwrdeistref sirol Conwy,Cymru, ywCerrigydrudion[1][2] (neuCerrig-y-drudion). Saif yn ne-ddwyrain y sir yn y bryniau ar lôn yrA5, tua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o drefCorwen. Yn ogystal â'r A5, mae lôn yn cysylltu'r pentref âRhuthun i'r gogledd-ddwyrain aDinbych i'r gogledd. Roedd ynSir Ddinbych gynt.
Cerrigydrudion yw'r pentref mwyaf yn ardalUwchaled, sydd yn cynnwys yn ogystalLlangwm,Pentrefoelas,Pentre-llyn-cymer,Dinmael,Glasfryn,Cefn-brith,Llanfihangel Glyn Myfyr aCwmpenanner. Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 75% o'r boblogaeth o 692 o bobl yn siarad yGymraeg fel iaith bob dydd.
Mae rhai o'r bythynnod yn y pentref yn dyddio o1717. ArosoddGeorge Borrow yn nhafarn y Llew Gwyn ar ei ffordd oLangollen ar ei daith trwy Gymru; wrth ymarfer ei Gymraeg efo'r morwynion cafodd ei gyflwyno i Eidalwr ar daith yn y gogledd a oedd wedi dysguCymraeg hefyd (neu rywfaint, o leiaf).
Mae eglwys y plwyf yn gysegredig iFair Fadlen. Yn y bryniau tua milltir i'r de-ddwyrain ceirbryngaerCaer Caradog, ond mae'n annhebygol iawn fod unrhyw gysylltiad rhyngddi â'rCaradog (Caratacus) hanesyddol.
Yn ôletymoleg boblogaidd mae'r enw yn golygu "Cerrig y Derwyddon", ond y gwir ystyr yw "Cerrig y Dewrion".
Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Cerrigydrudion (pob oed) (740) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cerrigydrudion) (549) | 77.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cerrigydrudion) (571) | 77.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Cerrigydrudion) (96) | 30% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Abergele ·Bae Colwyn ·Betws-y-Coed ·Conwy ·Cyffordd Llandudno ·Degannwy ·Hen Golwyn ·Llandudno ·Llanfairfechan ·Llanrwst ·Penmaenmawr ·Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel ·Bae Penrhyn ·Betws-yn-Rhos ·Bryn-y-maen ·Bylchau ·Caerhun ·Capel Curig ·Capel Garmon ·Cefn Berain ·Cefn-brith ·Cerrigydrudion ·Craig-y-don ·Cwm Penmachno ·Dawn ·Dolgarrog ·Dolwen ·Dolwyddelan ·Dwygyfylchi ·Eglwys-bach ·Esgyryn ·Gellioedd ·Glanwydden ·Glasfryn ·Groes ·Gwytherin ·Gyffin ·Henryd ·Llanbedr-y-cennin ·Llandrillo-yn-Rhos ·Llanddoged ·Llanddulas ·Llanefydd ·Llanelian-yn-Rhos ·Llanfair Talhaearn ·Llanfihangel Glyn Myfyr ·Llangernyw ·Llangwm ·Llangystennin ·Llanrhos ·Llanrhychwyn ·Llan Sain Siôr ·Llansanffraid Glan Conwy ·Llansannan ·Llysfaen ·Maenan ·Y Maerdy ·Melin-y-coed ·Mochdre ·Nebo ·Pandy Tudur ·Penmachno ·Pensarn ·Pentrefelin ·Pentrefoelas ·Pentre-llyn-cymmer ·Pentre Tafarnyfedw ·Pydew ·Rowen ·Rhydlydan ·Rhyd-y-foel ·Tal-y-bont ·Tal-y-cafn ·Trefriw ·Tyn-y-groes ·Ysbyty Ifan