![]() | |
Enghraifft o: | cerfio pren ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 3 g ![]() |
Lleoliad | Bethlehem,Gwladwriaeth Palesteina ![]() |
![]() |
Dechreuodd y traddodiad o gerfio pren efo llaw yn y4g OC, yng ngyfnodYr Ymerodraeth Fysantaidd ym Methlem. Mae'r ddinas yn parhau i fod y brif fan sy'n cynhyrchu'r grefft.
Roedd mynachodUniongred Gwlad Groeg yn dysgu trigolion lleol sut i gerfio prenolewydd.[1] Datblygodd y grefft a daeth yn ddiwydiant mawr ym Methlehem a threfi cyfagos felBeit Sahour a Beit Jala yn yr16g a'r17g panddysgodd crefftwyr Eidalaidd aFfransisgaidd ar bererindod i'r ardal y preswylwyr sut i gerfio. Ers hynny mae'r traddodiad wedi cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn enwedig gan ddisgynyddion y cerfwyr lleol gwreiddiol.
Heddiw, mae'r gelf yn parhau i fod yn brif ffynhonnell incwm i drigolion Cristnogol Palestinaidd Bethlehem a hi yw'r atyniad twristiaeth mwyaf (a'r mwyaf proffidiol) yn y ddinas gyda'r prif brynwyr yn bererinion Cristnogol yn ymweld ynystod y Nadolig.[2] Mae pren olewydd yn cael ei gerfio'n groesau, blychau, fframiau lluniau, cloriau ar gyfer llyfrau hanesyddol a hen, canhwyllbrennau, rosaris, wrnau, fasau ac addurniadau Nadolig yn ogystal â golygfeydd o'r Teulu Sanctaidd.[2] Mae canghennau pren olewydd yn cael eu cyflenwi gan lwyni olewydd mewn pentrefi cyfagos yn ogystal ag o ranbarthNablus a Tulkarm, er gwaethaf anhawster cludo yn yLan Orllewinol.[2]
Mae'r broses o gynhyrchu gwrthrych o bren yr olewydd yn gofyn am dipyn go lew o amser a llafur ac mae'n cynnwys sawl cam, yn aml mae'n cynnwys gwaith mwy nag un crefftwr. Defnyddir peiriannau drilio i ddechrau i greu amlinelliad bras. Nesaf, trosglwyddir y darn i grefftwr medrus sy'n trawsnewid yr amlinelliad bras yn gynnyrch gorffenedig trwy gerfio'r manylion. Yn olaf, rhaid i'r eitem orffenedig gael ei llyfnu a'i sgleinio fel llygad dafad, yna'i gorchuddio â chwyr neu olew o'r olewydd i roi "sglein naturiol" i'r gwrthrych a sicrhau ei hirhoedledd.
Yn ddibynnol ar beth yw'r cynnyrch penodol, gallai'r broses gymryd hyd at 45 diwrnod. Mae'r mwyafrif o grefftwyr proffesiynol yn mynd trwy chwech i saith mlynedd o hyfforddiant.
Defnyddir pren yr olewydd oherwydd ei bod yn haws ei gerfio na choed eraill a gellir ei gerfio'n fanwl gydag offer llaw syml. Hefyd, mae ganddo amrywiaeth o liw naturiol a dyfnder arlliw, oherwydd yr haenau tywyll, blynyddol.[2][3]