Arddangosfa animatronig o bedwarawd yr efengyl yn Amgueddfa Cymdeithas Cerddoriaeth Ddeheuol yr Efengyl ynPigeon Forge, Tennessee. | |
| Enghraifft o: | genre gerddorol |
|---|---|
| Math | cerddoriaeth yr efengyl |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Dechrau/Sefydlu | 1890 |
| Dynodwyr | |
Genre ogerddoriaethGristnogol o daleithiau deheuolUnol Daleithiau America ywcerddoriaeth ddeheuol yr efengyl (Saesneg:southern gospel music) neuefengyl y de, a elwir hefyd ynyr efengyl wen (white gospel) am iddi darddu o'r Americanwyr Ewropeaidd, yn wahanol i'r brif ffurf arall argerddoriaeth yr efengyl, sefyr efengyl ddu. Datblygodd y ddwy genre ar wahân yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g, y ddau draddodiad yn tarddu o'rmudiad efengylaidd Americanaidd ac yn tynnu i wahanol raddau ar gyfuniad oemynyddiaeth yr eglwysi gwynion achaneuon ysbrydol yrAmericanwyr Affricanaidd yn y 19g.
Mae geiriau caneuon deheuol yr efengyl yn canolbwyntio ar themâu Cristnogol megisiachawdwriaeth a grym gwaredigaeth, ffydd a thystiolaeth bersonol, a chyfeiriadauBeiblaidd, yn enwedig hanesIesu Grist. Neges ysbrydoledig a dyrchafol sydd i'r gân, gan gyfleu gobaith, cariad a llawenydd, hyd yn oed os yw'n cyfeirio at ddioddefaint a phrofedigaeth.
Nodweddir efengyl y de gan leisiau cydgordiol, â chyfeiliant offerynnol ypiano, ygitâr,drymiau, ac weithiauofferynnau pres. Cenir efengyl y de yn aml gan bedwarawd o leisiau gwrywaidd: y tenor, y prif lais, y bariton, a'r bas, gan greu harmonïau cryfion. Ymhlith y pedwarawdau enwocaf mae'r Blackwood Brothers (ers 1934), yr Oak Ridge Boys (ers 1947), y Statesmen Quartet (1948–2001), y Jordanaires (1948–2013), y Statler Brothers (1955–2002), a'r Gaither Vocal Band (ers 1981). Yn ogystal, mae nifer o grwpiau cymysg a chantorion a cherddorion unigol yn canu efengyl y de, gan gynnwys Vestal Goodman (1929–2003) a'r soprano Sandi Patty (g. 1956). Perfformir y gerddoriaeth hon mewn eglwysi, cyngherddau, ffeiriau, a gwyliau cerddorol.
Wrth ddatblygu yn ystod hanner cyntaf yr 20g, tynnodd ar arddulliau cerddorol eraill, gan gynnwysy felan,canu gwlad, achanu'r Tir Glas. Yn ei thro, câi efengyl y de ddylanwad ar fathau eraill o gerddoriaeth yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig canu gwlad a cherddoriaeth Gristnogol gyfoes.
Yn y 1910au a'r 1920au, dechreuodd emynau'r eglwysi gwynion golli'r hen sobrwydd, a chychwynnodd oes newydd o gerddoriaeth efengylaidd fywiog i godi'r galon. Dan ddylanwad cerddorion megis Charles McCallon Alexander (1867–1920), a weithiodd gyda John Wilbur Chapman (1859–1918), ac Homer Rodeheaver (1880–1955), un o gerddorion Billy Sunday (1862–1935), trawsnewidiodd arddulliau, offeryniaeth, a deunydd y gerddoriaeth. Cymerai'r piano le'rorgan, a defnyddiwyd offerynnau eraill yn ogystal, er enghraifft ytrombôn a genid gan Rodeheaver. Daeth geiriau'r emynau i gyfleu neges obeithiol a llon yn hytrach nag ymdriniaeth ddifrifol a phwyllog o'r efengyl. Yn y 1930au a'r 1940au, dylanwadwyd ar ganu'r efengyl gan fathau o gerddoriaeth boblogaidd y De, gan gynnwyscerddoriaeth hen ffasiwn achanu gwerin a gwlad. Mae perfformiadau'rTeulu Carter, sydd yn cyfuno cerddoriaeth grefyddol yr eglwysig gwynion â thraddodiadau gwledig seciwlarAppalachia, yn esiampl o'r datblygiadu hyn.[1]