Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Cerddoriaeth

Oddi ar Wicipedia
Cerddoriaeth
Enghraifft o:ffurf gelf, arbenigedd, maes astudiaeth, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathadloniant,y celfyddydau Edit this on Wikidata
Cynnyrchcerddoriaeth Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04rlf edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF1676 edit this on wikidata
QuoraMusic edit this on wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dechrau sonata piano K545 gan Mozart

Cerddoriaeth yw celfyddyd a fynegir drwy gyfrwng sŵn wedi'i drefnu mewn amser. Elfennau cyffredinol cerddoriaeth ywtraw sy'n rheolialaw aharmoni,rhythm (a'i gysyniadau perthynoltempo amydr),deinameg,soniaredd agwead.

Mae'r cread, perfformiad, arwyddocâd a hyd yn oed diffiniad cerddoriaeth yn amrywio yn ôl diwylliant a chyd-destun cymdeithasol. Mae cerddoriaeth yn amrywio o gyfansoddiadau trefniedig llym (a'u hail-gread yn ystod perfformiad) i ffurfiau cerddorol byrfyfyriol. Fe ellir rhannu cerddoriaeth i mewn igenres gwahanol.

I bobl yn nifer oddiwylliannau, mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o'u ffordd o fyw. DiffinioddathronwyrGroeg acIndia hynafol gerddoriaeth fel tonau wedi'u trefnu'n llorweddol fel melodïau ac yn fertigol fel harmonïau. Yn gyffredinol nid oes un cysyniad rhyng-ddiwylliannol sy'n diffinio beth yw cerddoriaeth heblaw ei bod yn 'sŵn drwy amser'.[1]

Hanes

[golygu |golygu cod]

Cyfnodau cyn-hanes

[golygu |golygu cod]

Mae'n rhaid bod datblygiad cerddoriaeth ymhlith bodau dynol cynnar wedi digwydd wrth iddynt sylwi ar synnau naturiol fel y synnau y mae adar ac anifeiliaid eraill yn gwneud wrth gyfathrebu. Cerddoriaeth gyn-hanesyddol yw'r enw a roddir ar gerddoriaeth a gynhyrchwyd gan ddiwylliannau cyn-ysgrifen. Gall ysgolheigion ddychmygu cerddoriaeth gyn-hanesyddol wrth astudio olion a ddargynfuwyd ar safleoeddpaleolithig, fel esgyrn gyda thyllau a ddefnyddiwyd fel ffliwt o ryw fath.[2]

Fe welir y cofnodion cynharach o fynegiant cerddorol yn ySamaveda ynIndia ac mewnsgript gynffurf ynUr sy'n dyddio o 2,000 C.C. Hefyd fe ddarganfyddwydofferynnau llinynnol o'rGwareiddiad Dyffryn Indus.[3]

Mae gan India un o'r traddodiadau cerddorol hynaf yn y byd; fe welir cyfeiriadau at gerddoriaeth glasurol Indiaidd (marga) yn llenyddiaeth hynafol y traddodiadHindwaidd, yVeda. Mae gan draddodiad cerddorolTsieina hanes o dair mil o flynyddoedd ac roedd cerddoriaeth yn agwedd bwysig ar fywyd diwylliannol yngNgroeg hynafol

Offerynnau

[golygu |golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Nattiez 1990: 47-8, 55
  2. Son et musique au paléolithique", Pour La Science,. 253, 52-58 (1998)
  3. The Music of India Gan Reginald MASSEY, Jamila MASSEY. Google Books
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch amcerddoriaeth
ynWiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod amgerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Cerddoriaeth&oldid=11829479"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp