Cennard Davies | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Ebrill 1937 ![]() Treorci ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | athro ![]() |
MaeCennard Davies (ganwyd17 Ebrill1937) yn ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg, a dysgu Cymraeg fel ail-iaith i oedolion yn arbennig. Fel cydnabyddiaeth o'i gyfraniad i'w fro ac i'r iaith Gymraeg, rhoddwyd iddo'r fraint o fod yn LlywyddEisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024.[1]
Magwyd Davies ynNhreorci yngNghwm Rhondda, ac mae wedi byw yn y dref erioed, oni bai am gyfnodau ymMhrifysgol Abertawe a blwyddyn ynyr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.
Ar ôl graddio fe ddychwelodd i’w hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro, cyn mynd iGoleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon.
Mae'n briod â Mary (neé Lawson) a fagwyd ynYnys-wen yn y Rhondda ac mae ganddynt ddau blentyn. Mae eu merch, Branwen Cennard, yn gynhyrchydd teledu a fu hefyd yn ymgeisydd gydaPhlaid Cymru.[2][3] Bu eu mab, Rhys Cennard Davies, yn hyfforddwr Pro golff yngnghlwb golff yr Eglwys Newydd, Caerdydd am flynyddoedd.
Fe dreuliodd weddill ei yrfa wedi ei gyfnod yng Ngholeg y Barri yn dysgu Cymraeg i oedolion, gan gynnwys dysgu cenedlaethau o drigolion yr ardal ar gyrsiauq dwys.
Daeth yn bennaeth Canolfan Astudiaethau IaithPrifysgol Morgannwg, ond mae hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu dysgu Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol.
Roedd ymhlith y tiwtoriaid a oedd yn gyfrifol am greu, a chyflwyno, y gyfres Catchphrase arBBC Radio Wales[1] a'r gyfres 'Croesi'r Bont' ar deleduBBC Cymru gyda'r cyflwynwyrHywel Gwynfryn a Mair Robbins (Y Diliau) yn cyflwyno yn yr 1970au.[4] Bu hefyd yn gyfrifol am ddatblygu'rLinguaphone Cymraeg gyda Basil Davies.
Roedd Davies yn ddefnyddioCymraeg Byw, sef ymdrech ar safon newydd i'r Gymraeg a ddysgwyd i ddysgwyr y Gymraeg.[5]
Roedd Davies yn un o sylfaenwyr ardal Dysgu Cymraeg yn yrEisteddfod Genedlaethol, ac yn un o’r arloeswyr cynnar ynCanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
Bu’n gadeiryddMudiad Meithrin yn yr 1970au ac ymgyrchodd i sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Fel rhan o'i ymrwymiad i ddatblygu addysg Gymraeg mae'n Lywydd AnrhydeddusCronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg.
Bu’n olygydd ‘Y Gloran’,papur bro'r Rhondda am ddegawdau, yn gynghoryddPlaid Cymru drosDreorci arGyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Hermon,Treorci a, chyn hynny, yn asiant i Vic Davies bu bron â chipio Etholaeth Gorllewin y Rhondda mewn is-etholiad enwog ar ddiwedd yr 1967au.[6][7]
Disgrifiwyd cyfraniad Cennard Davies ganHelen Prosser, fel "dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan". Ychwanegodd bod "ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy".[1]
Mae Cennard Davies wedi ysgrifennu sawl llyfr yn ymwneud â'r Gymraeg a dysgu Cymraeg:[8]
Mae Cennard Davies wedi derbyn sawl anrhydedd fel teyrnged a gwerthfawrogiad i'w gyfraniad at hybu a datblygu dysgu Cymraeg i oedolion.