Cenia |
Gweriniaeth Cenia Jamhuri ya Kenya (Swahili) |
 |
| Arwyddair | Cenia Lledrithiol  |
|---|
| Math | gwladwriaeth sofran,gwlad  |
|---|
| Enwyd ar ôl | Mynydd Cenia  |
|---|
|
| Prifddinas | Nairobi  |
|---|
| Poblogaeth | 48,468,138  |
|---|
| Sefydlwyd | 12 Rhagfyr 1964 (Annibyniaeth oddi wrthLloegr) |
|---|
| Anthem | Ee Mungu Nguvu Yetu  |
|---|
| Pennaeth llywodraeth | William Ruto  |
|---|
| Cylchfa amser | UTC+03:00, Africa/Nairobi  |
|---|
| Gefeilldref/i | Cheltenham  |
|---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swahili,Saesneg  |
|---|
| Daearyddiaeth |
|---|
| Gwlad | Cenia |
|---|
| Arwynebedd | 581,309 ±1 km²  |
|---|
| Yn ffinio gyda | Ethiopia,Somalia,Tansanïa,Wganda,De Swdan,Swdan,Y Cynghrair Arabaidd,Llyn Victoria  |
|---|
| Cyfesurynnau | 0.1°N 38°E  |
|---|
| Gwleidyddiaeth |
|---|
| Corff gweithredol | Llywodraeth Cenia  |
|---|
| Corff deddfwriaethol | Senedd Cenia  |
|---|
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Cenia  |
|---|
| Pennaeth y wladwriaeth | William Ruto  |
|---|
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Cenia  |
|---|
| Pennaeth y Llywodraeth | William Ruto  |
|---|
 |
 |
| Ariannol |
|---|
| Cyfanswm CMC (GDP) | $109,704 million, $113,420 million  |
|---|
| Arian | swllt Cenia  |
|---|
| Canran y diwaith | 9 ±1 canran  |
|---|
| Cyfartaledd plant | 4.334  |
|---|
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.575  |
|---|
|
|
Gwlad yn nwyrainAffrica ywGweriniaeth Cenia neuCenia[1] (hefydCenya). Mae'n ffinio âSomalia i'r gogledd-ddwyrain,Ethiopia i'r gogledd,De Swdan i'r gogledd-orllewin,Wganda i'r gorllewin,Tansanïa i'r de aChefnfor India i'r de-ddwyrain.Nairobi yw'r brifddinas.
Mae Cenia yn wlad ag iddi nifer o wahanol ddiwylliannau, megis Swahili ar yr arfordir, cymunedau bugeiliol yn y gogledd, a nifer o gymunedau eraill yng ngorllewin ac yng nghanol y wlad. Mae'r ddiwylliantMaasai, un o grwpiau lleiafrifol y wlad, yn adnabyddus oherwydd y ffordd maen nhw'n addurno eu cyrff ac am y gemwaith maen nhw'n ei wisgo.
Gan fod o leiaf 42 cymuned ethnig i'w cael yng Nghenia, a phob un ohonynt â symbolau amrywiol sydd yn gwneud yn unigryw, nid oes un wisg genedlaethol cydnabyddedig.
Yn 2005, fe noddodd cwmniUnilever gynllun i greu gwisg genedlaethol, o'r enw'Sunlight quest for Kenya's National Dress'[2]. Fe gafodd dyluniad ei ddewis, ac er cafodd ei ddadorchuddio mewn seremoni cyhoeddus gyda phobl enwog yn modelu'r wisg, ni wnaeth y dyluniad afael gyda pobol Cenia.
Mae Kitenge, sef defnydd cotwm wedi'i wneud mewn i nifer o wahanol liwiau, yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobol Cenia fel gwisg genedlaethol, ond er ei fod yn cael ei ddefnyddio yn nifer o wledydd Affrica, dydy hi dal ddim yn wisg cenedlaethol eto, gan ei fod yn cael ei wisgo'n amlach mewn seremonïau. Mae'r Maasai yn gwisgo darnau o goch tywyll i ddangos ei cariad am y ddaear ac eu dibyniaeth arno. Mae hefyd yn sefyll am ei gwaed ac am ei gwroldeb.Mae'r Kanga neu Lesso yn ddefnydd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o gartrefi Cenia. Mae'r Kanga yn wisg rhwng 1.5 ac 1 medr o hyd, gyda dywediadau Kiswahili neu Saesneg arno, sydd yn cael ei wisgo gan ferched yn amlaf o gwmpas ei cyrff. Mae hefyd yn gallu cael ei defnyddio fel ffedog, blanced neu sling i gario plentyn bach.
Mae Cenia yn wlad llawn cerddoriaeth o bob steil, o gerddoriaeth o wlad arall, megis afro-fusion ac benga, i gerddoriaeth gwerin. Y gitâr yw'r offeryn mwyaf poblogaidd yng Nghenia, ac mae'n cael ei ddefnyddio mewn nifer o rhythmau. Y gitarydd enwocaf yn yr 20g cynnar oedd Fundi Konde. Mae cerddorion eraill o'r 60au yn cynnwys Fadhili Williams, sef canwr y gân 'Malaika' a gafodd ei ail-wneud yn hwyrach ganMiriam Makeba,Boney M. ac Daudi Kabaka.
Fe all cerddoriaeth poblogaidd yn yr 80au a'r 90au cael ei rhannu i ddau ffurf, y sŵn Swahili a'r sŵn Congolese. Mae hefyd steiliau amrywiol yn dibynnu ar ardaloedd gwahanol, ac mae rhai perfformwyr yn gwneud cerddoriaeth i apelio at dwristiaid, ac un enghraifft o hwn yw'r grŵp - Them Mushrooms.
Yn ddiweddar, mae dau ffurf arall wedi dod i'r golwg - Genge a Kapuka. Mae hwn wedi chwildroi cerddoriaeth poblogaidd Cenia, ac wedi creu math newydd o gerddoriaeth yn fwy at y genhedlaeth ifanc. Mae rhai pobl sy'n enwog am y math yma o gerddoriaeth yn cynnwys Poxi Presha, (Otonglo time) Kalamashaka a K-South.
Mae rhai cerddorion felNameless,Redsan,Necessary Noise,Wawesh,Nonini,Juacali, Kleptomaniax, Longombas,Suzannah Owiyo, Achieng Abura ac nifer eraill yn canu mewn steil Reggae, Pop,Afro-fusion acHip-Hop. Mae rhai o'r cerddorion hefyd yn ysgrifennu can yn gymysgedd o eiriau Swahili ac Saesneg.
Mae'rKisima Music Awards sydd yn arddangos holl dalentau cerddorol Dwyrain Affrica wedi'i leoli yng Nghenia, ac bob blwyddyn, mae nifer o gerddorion Cenia yn ennill gwobrau yn y digwyddiad pwysig yma.