Ardaloedd lle trigai Celtiaid yn yr henfyd mewn gwyrdd golau; ardaloedd lle siaredir iaith Geltaidd heddiw mewn gwyrdd tywyll.Dau dderwydd, o gerflun mewn bedd yn AutunLlun a gyhoeddwyd ynyr Iseldiroedd tua 1574 o'r Brythoniaid cynnar.
Defnyddir y termy Celtiaid gan haneswyr ac archeolegwyr am bobl a oedd yn byw ar draws ardal eang yn cynnwys canolbarth a gorllewinEwrop, gyda rhai pobloedd yn ymestyn cyn belled agAsia Leiaf. Defnyddir y term hefyd am genhedloedd modern sy'n siarad iaith Geltaidd neu a oedd yn siarad iaith Geltaidd hyd yn weddol ddiweddar. Mae tebygrwydd yn dal i'w weld ynieithoedd Celtaidd a diwylliant Celtaidd y bobloedd hyn heddiw, yn enwedig rhwng y tair iaithFrythoneg (Cymraeg,Llydaweg, aChernyweg) a rhwng y tair iaithOideleg (Gaeleg,Gwyddeleg, aManaweg).
Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr henfyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr henfyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia (Marseille heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. DywedHerodotus eu bod yn byw o gwmpas tarddleAfon Donaw; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yngNgâl gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywedIŵl Cesar fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.
Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y18g pan ddangosoddEdward Lhuyd fod ieithoedd megisCymraeg,Llydaweg aGwyddeleg yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwysy diwylliant Hallstatt adiwylliant La Tène. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr henfyd yn cynnwysCelt-Iberiaid (Portiwgal aSbaen heddiw, gan gynnwysGalicia), trigolionPrydain acIwerddon, y Galiaid yngNgâl (Ffrainc, gogleddyr Eidal, ySwistir a'r cylch) a'rGalatiaid (Asia Leiaf:Twrci heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.
Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewinEwrop —yr Alban,Cernyw,Cymru,Iwerddon,Ynys Manaw, aLlydaw. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennigGalicia acAsturias ynSbaen.
Ceir llawr o gyfeiriadau gan awduron o'r henfyd yn ysgrifennu mewnGroeg aLladin at yCelti (Κελτός,Κελτοί) neu'rCeltae am lwythau yng ngogledd yr Eidal ac i'r gogledd o'rAlpau, ac yn ddiweddarach am lwythau yn siarad ieithoedd cyffelyb ynAnatolia. Mae enw'rGalli' (Galiaid) aGalatae (Galatiaid) yn dod o'r un gwreiddyn. Defnyddid y gairCeltiberi am drigolion canolbarthSbaen.[1]
Nid oes sicrwydd am darddiad yr enw. Gall darddu o hen airIndo-Ewropeaidd; efallai*k'el yn golygu "cuddio" (cymharer Cymraeg "celu") neu*kel yn golygu "gyrru ymlaen".[1]
Yn ôl chwedl a adroddir ganDiodorus Siculus, roedd y Galiaid yn ddisgynyddion iHeracles. Dywedir fod Heracles wedi ymweld agAlesia yng Ngâl a bod merch y brenin yno wedi syrthio mewn cariad ag ef. Ganwyd mab o'r enw Galates iddynt. Yn ôl y chwedl yma, Celtus oedd cyndad y Celtiaid.[2]
Mae'r cyfeiriadau cynnar ar y Celtiaid yn dod gan awduron Groegaidd, ac yn ddiweddarach gan awduron Rhufeinig. Crybwyllwyd y Celtiaid am y tro cyntaf gan yGroegwrHecataeus o Filetos ym 517 CC. Fe'i gelwid yn Κελτοί (keltoi), sydd yn golygu "pobl gudd". Dywed Hecataeus fod dinas Roegaidd Massillia (Marseille) wedi ei sefydlu yng ngwlad yLigwriaid, gerllaw gwlad y Celtiaid. Mae hefyd yn crybwyll tref Geltaidd o'r enw Nyrax, sydd yn ôl pob tebyg yn cyfateb iNoricum ynAwstria.[3] Ceir y cyfeiriad enwocaf atynt gan Roegwr arall,Herodotus, yng nghanol y 5g CC. Dywed ef:
“
Mae'r afon Ister (Afon Donaw) yn dechrau gyda'rKeltoi a dinas Pyrene, ac yn llifo fel ei bod yn gwahanu Ewrop trwy'r canol (mae'rKeltoi tu draw i Bileri Ercwlff ac yn ffinio ar y Kynesiaid, sy'n byw pellaf tuag at y machlud o holl drigolion Ewrop).[4]
”
Mae Afon Donaw yn tarddu yng nghanolbarth yrAlmaen, ond mae'n ymddangos oddi wrth hyn fod Herodotus yn credu ei bod yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin, ym mynyddoedd yPyreneau. Roedd "Pileri Ercwlff" yn yr hen fyd yn gyfeiriad at y creigiau bob ochr iGulfor Gibraltar. Mae'n amlwg fod Herodotus yn meddwl am y Celtiaid fel pobl yn byw yn y gorllewin; de-orllewinFfrainc neu ogledd-orllewinSbaen yn ôl pob tebyg.[5]
Mae'r daearyddwr GroegaiddStrabo yn y ganrif gyntaf CC. yn lleoliCeltica yngNgâl, a cheir cyfeiriadau at yr ardal yma gan nifer o awduron eraill, er bod rhai'n rhoi lleoliad gwahanol i'rKeltoi. Ceir cyfeiriadau gan awduron megisPolybius,Posidonius,Diodorus Siculus aPlinius yr Hynaf.[6]
Ceir yr unig gyfeiriad gan awdur clasurol at bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" ganIŵl Cesar ym mrawddeg gyntaf enwog ei lyfrDe Bello Gallico oedd yn adrodd hanes ei ymgyrchoedd milwrol yng Ngâl a'i ymweliadau a Phrydain:
“
Gallia est omnis divisa in partes tres, quarum unam incolunt Belgae, aliam Aquitani, tertiam qui ipsorum lingua Celtae, nostra Galli appellantur.[7] (Mae Gâl gyfan wedi ei rhannu yn dair rhan; yn un mae'r Belgae yn preswylio, yn un arall yr Acwitaniaid, ac yn y drydedd y bobl yr ydym ni yn eu galw'r Galiaid, ond yn eu hiaith hwy eu hunain fe'i gelwir yn Geltiaid).
”
Dywed Cesar fod trigolion y tri rhanbarth yma yn siarad ieithoedd gwahanol. Cred rhai ysgolheigion mai at dafodieithoedd gwahanol yn hytrach nag ieithoedd y mae'n cyfeirio yma. Treuliodd Cesar flynyddoedd yn ymgyrchu yng Ngâl, a cheir cryn dipyn o fanylion am arferion y Galiaid yn ei lyfr. Un pwynt a wneir gan awduron megis Simon James yn y blynyddoedd diwethaf yw nad oes unrhyw awdur clasurol yn cyfeirio at drigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid. Er hynny, mae Cesar ynDe Bello Gallico yn dangos cysylltiadau clos rhwng Gâl a Phrydain mewn diwylliant, iaith a chrefydd.[8]
DiwylliannauHallstatt aLa Tène. Maes craidd Hallstatt (HaC, 800 CC), melyn tywyll Maes dylanwad Hallstatt (HaD, hyd at 500 CC), melyn golau Maes craidd La Tène (450 CC), gwyrdd tywyll, Maes dylanwad La Tène (hyd at 50 CC), gwyrdd golau. Nodir tiriogaethau rhai o'r prif lwythau Celtaidd yng nghyfnod diweddar La Tène.
Mae ansicrwydd mawr ymhlith ysgolheigion ynglŷn â mamwlad wreiddiol y Celtiaid. Un awgrym yw bod yr iaithGelteg wreiddiol wedi datblygu ymhell i'r dwyrain, efallai o gwmpas yMôr Du. Nid oes sicrwydd o hyn, ac erbyn i siaradwyr ieithoedd Celtaidd gael eu cofnodi gan haneswyr clasurol, roeddynt yn byw ar draws rhan helaeth o Ewrop.
Un anhawster yw diffinio beth yn union a olygir wrth sôn am "Geltiaid". DywedMyles Dillon er enghraifft:
“
By Celts I mean people who spoke a Celtic dialect, not people who buried their dead in urnfields, or had leaf-shaped swords or any particular kind of poetry. This is not an infallible statement of known truth, it is merely an agreed use of the term upon which linguists insist, and which has a long history behind it.[9]
”
Tuedd archeolegwr, ar y llaw, arall, yw diffinio "Celtiaid" fel pobl ag iddynt fath arbennig o ddiwylliant yn yr ystyr archeolegol. Cred rhai ysgolheigion fodDiwylliant y Meysydd Wrnau yng ngogledd yrAlmaen a'rIseldiroedd yn dynodi presenoldeb Celtiaid. Roedd y diwylliant yma yn amlwg yng nghanolbarth Ewrop rhwng tua 1200 CC a 700 CC. Mae'rdiwylliant Hallstatt a ddatblygodd yng nghanolbarth Ewrop rhwng tua 700 CC a 500 CC hefyd wedi ei gysylltu â'r Celtiaid.
Dilynwyd y diwylliant Hallstatt ganddiwylliant La Tène, hefyd yng nghanolbarth Ewrop. Cysylltir y diwylliant hwn gyda'r Celtiaid gan lawer o ysgolheigion, sy'n nodi bod cryn nifer o enwau Celtaidd ar afonydd o gwmpas rhan uchafAfon Donaw acAfon Rhein. Cred eraill fod y diwylliant La Tène yn rhy hwyr i fod yn brawf o leoliad mamwlad y Celtiaid, a'u bod wedi ymledu i'r ardaloedd hyn o rywle arall. Ni ymdaenodd diwylliant La Tène i bob ardal Geltaidd ei hiaith; roedd Sbaen a'r rhan fwyaf o Iwerddon tu allan i draddodiad La Tène.[10]
Syniad arall yw bod mamwlad y Celtiaid fwy tua'r gorllewin. Mae'r haneswyrDiodorus Siculus aStrabo yn awgrymu mai yn neFfrainc yr oedd mamwlad y Celtiaid, tra awgrymoddPlinius yr Hynaf fodCeltica, gwlad wreiddiol y Celtiaid, ger aberAfon Guadalquivir yn ne Sbaen a Phortiwgal. Mae ymchwil ddiweddar wedi nodi tebygrwydd genidol rhwng y Cymry a'r Gwyddelod a'r Basgiaid, sy'n awgrymu lledaeniad tua'r gogledd oSbaen ar hyd yr arfordir, symudiad a ddechreuodd tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.[11]
Dengys astudiaethau o elfennau Celtaidd eu hiaith mewn enwau lleoedd yn Ewrop gan Patrick Sims-Williams fod y ganran uchaf o leoedd gydag enwau o darddiad Celtaidd yng Ngâl, Prydain a Sbaen, gyda chanran lawer is ymhellach i'r dwyrain.[12]
Mae'r ardal werdd yn dangos tiriogaeth debygol dylanwad proto-Geltaidd tua 1000 CC yn ôl un theori. Mae'r ardal brennaidd yn dangos lle ganwyd arddull a diwylliantLa Tène. Mae'r ardal goch yn amlinellu'n fras yr ardaloedd Celtaidd neu dan ddylanwad Celtaidd tua 400 CC
Erbyn i awduron clasurol ddechrau crybwyll y Celtiaid yn y 6g CC, roedd pobloedd yn siarad ieithoedd Celtaidd yn ymestyn dros ran helaeth o orllewin a chanolbarth Ewrop, yn cynnwys Gâl, Prydain, rhan helaeth o Benrhyn Iberia a'r rhan o ganolbarth Ewrop i'r gogledd o'rAlpau. Credir fod y Celtiaid ar Benrhyn Iberia yn ffurfio dau ddiwylliant gwahanol, un grŵp yn y gogledd-orllewin yn cynnwys y llwythau Lwsitanaidd yn yr hyn sy'n awr yn wladwriaethPortiwgal a llwythau yng ngogledd a gorllewinSbaen megis ynGalicia,Asturias aCantabria. Yr ail grŵp oedd yCeltiberiaid yng nghanolbarth Sbaen. Credir eu bod hwy yn gymysgedd o Geltiaid oedd wedi ymfudo o Gâl a'rIberiaid lleol.
Mae cofnod archeolegol o Geltiaid yn bresennol yng ngogleddyr Eidal cyn gynhared â'r 6g CC. Yn ôl yr hanesyddDiodorus Siculus ymosododd Celtiaid oedd yn byw i'r gogledd o'r Alpau ar ogledd yr Eidal yn 391 CC. a meddiannu'r ardal o gwmpas dyffrynAfon Po, yr ardal a alwai'r Rhufeiniaid ynGallia Cisalpina. Y Celtiaid a sefydlodd ddinasMilan.
Y prif ardaloedd ieithyddol ar Benrhyn Iberia tua 200 CC.[13]
Ymhellach i'r dwyrain, roedd teyrnas Geltaidd yScordisci wedi sefydlu eu prifddinas yn Singidunum (Belgrade heddiw) erbyn y 3g CC. Mae hefyd lawer o olion archeolegol mewn rhannau oHwngari. Cofnodir fod Galiaid wedi ymsefydlu ynPannonia yn y 3g CC. oherwydd gorboblogi yng Ngâl, ac yn 279 CC ymosododd byddin o'r Galiaid hyn dan arweiniadBrennus ar y Groegiaid, gan eu gorchfygu ynThermopylae a cheisio anrheithio cysegrApollo ynDelphi cyn cael eu gorfodi i encilio. Ymsefydlodd rhai o'r Celtiaid hyn ynThrace (Bwlgaria), a symudodd un garfan iAnatolia tua 278 CC, lle gelwid hwy'rGalatiaid.[14] Nododd SantSierôm yn y4g fod gan y Galatiaid eu hiaith eu hunain, oedd yn debyg i iaith yTreveri yng Ngâl.[15]
Y farn gyffredinol hyd yn weddol ddiweddar oedd bod yr ieithoedd Celtaidd wedi cyrraedd Prydain ac Iwerddon trwy i nifer fawr o Geltiaid ymfudo yno o'r cyfandir yn ystodOes yr Haearn a disodli'r boblogaeth flaenorol. Barn llawer o ysgolheigion bellach yw na fu ymfudiad mawr o'r fath. Cred rhai bod yr ieithoedd Celtaidd wedi bod yn bresennol yn yr ynysoedd ersOes yr Efydd, ac awgrymodd Oppenheimer y gallent fod wedi bod yno ers y cyfnodNeolithig.[16]
Yn 387 CC ymosododd llwyth Celtaidd ySenones o ogledd yr Eidal ar ddinasRhufain dan ei harweinyddBrennus (neu Brennos). Gorchfygasant y Rhufeiniad ym Mrwydr yr Allia, a meddiannu'r cyfan o ddinas Rhufain heblaw bryn y Capitol. Bu raid i'r Rhufeiniaid dalu swm mawr o aur i achub y ddinas. Yn ôl y stori enwog, pan oeddynt yn talu'r aur i'r Senones, datblygodd ffrae ynghylch y pwysau oedd yn cael eu defnyddio i fesur yr aur. Ymatebodd Brennus trwy daflu eu cleddyf ar ben y pwysau gyda'r geiriau "Vae victis" ("Gwae'r gorchfygedig"). Yn ddiweddarach llwyddodd y conswl Furius Camillus i orchfygu Brennus ac arbed y ddinas.[17]
Gorchfygwyd byddin Geltaidd gan y Rhufeiniaid ym Mrwydr Telemon yn 225 CC, ond dim ond yn 192 CC y gorchfygodd y Rhufeiniaid y teyrnasoedd Celtaidd annibynnol olaf yn yr Eidal. Ymosododd y Rhufeiniaid arSbaen yn 218 CC fel rhan o'u rhyfel yn erbyn yCarthaginiaid oedd wedi meddiannu rhannau o Sbaen. Erbyn tua 200 CC roedd y Rhufeiniad yn rheoli'r rhan fwyaf o Benrhyn Iberia, er mai dim ond yn 19 CC y concrwyd pob rhan yn derfynol.
Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar ddeGâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion dinasMassilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarach daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enwGallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl ganIŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oeddBrwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniadVercingetorix o lwyth yrArverni.[18]
Roedd Iŵl Cesar wedi ymosod ar Brydain ddwywaith yn ystod ei ymgyrchoedd yn erbyn y Galiaid, ond dim ond yn 43 CC y gwnaed ymgais benderfynol i ymgorffori Prydain yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Dros y blynyddoedd nesaf, ymestynnodd y Rhufeiniaid eu rheolaeth dros yr ynys. Cyrhaeddwyd y penllanw yn tua 83 neu 84 CC pan orchfygoddAgricola yCaledoniaid ymMrwydr Mons Graupius yn yr hyn sy'n awr yng ngogleddyr Alban. Fodd bynnag, ni allodd y Rhufeiniaid ddal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r Alban, ac adeiladwydMur Hadrian i amddiffyn y ffin. Yng ngogledd yr Alban ac ynIwerddon, nas ymosodwyd arni gan y Rhufeiniaid, parhaodd teyrnasoedd Celtaidd annibynnol mewn bodolaeth.
Ni fu erioed, hyd y gwyddys, unrhyw fath ar ymerodraeth Geltaidd. Yn hytrach, roedd cryn nifer o unedau a elwir yn draddodiadol yn "llwythau", er bod rhai o'r rhain yn fwy datblygedig na'r diffiniad arferol o "lwyth", ac yn hytrach yn wladwriaethau. Daw'r manylion am y llwythau hyn o nifer o ffynonellau, yn arbennigDe bello Gallico Iŵl Cesar yn yganrif 1af CC, ac yn ddiweddarachGeographiaPtolemi, sy'n enwi llawer o lwythau a'u prif ddinasoedd.
Ymhlith llwythau pwysicaf canolbarth Gâl, roedd yrArverni, yCarnutes, yrAedui a'rAllobroges. Yng ngogledd-ddwyrain Gâl, roedd nifer o lwythau a elwid yBelgae, oedd efallai o darddiad Almaenaidd yn wreiddiol, yn cynnwys yTreveri a'rNervii. Ceid rhai llwythau Belgaidd yn ne-ddwyrainLloegr hefyd; ymddengys eu bod wedi mudo yno ychydig cyn ymweliad cyntaf Iŵl Cesar â'r ynys. GwelerRhestr o lwythau Celtaidd am restr gyflawn.
Rheolid y rhan fwyaf o'r llwythau hyn ganfrenhinoedd. Roedd gan ambell lwyth, megis yrEburones ddau frenin[19]; efallai rhag ofn i un fynd yn rhy bwerus, megis dau freninSparta. Ymysg yrAedui, yrHelvetii a rhai pobloedd eraill, roedd ynadon etholedig wedi cymryd lle'r brenin erbyn cyfnod Cesar. Gelwid prif ynad yr Aedui ynVergobret, ac etholid ef am gyfnod o flwyddyn.[20]
O dan y brenhinoedd roedd yr uchelwyr; dywed Cesar fod pawb o bwys ymysg y Celtiaid yn perthyn un ai i'r uchelwyr (equites) neu'rDerwyddon. Roedd gan nifer o lwythausenedd yng nghyfnod Cesar; er enghraifft roedd gan yNervii senedd o 300[20]. Ychydig o rym oedd gan y bobl gyffredin; gallent ddod yn ddilynwyr uchelwyr a chael eu hamddiffyn ganddo yn gyfnewid am eu teyrngarwch.
Amaethyddiaeth oedd yr elfen bwysicaf yn economi'r rhan fwyaf o'r llwythau, yn cynnwys tyfu cnydau a chadw anifeiliaid. Roeddgwartheg yn arbennig o bwysig, ond cedwid defaid a moch hefyd. Ystyrid yceffyl o bwysigrwydd mawr ar gyfer dynodi statws ac ar gyfer rhyfel. Roedd mwyngloddio yn bwysig i rai o'r bobloedd Geltaidd hefyd, yn enwedig cloddfeyddhalen yng nghanolbarth Ewrop.
Dechreuodd rhai pobl Geltaidd fathu eu darnau arian eu hunain tua diwedd y3edd ganrif CC, efallai oherwydd dylanwad Groegaidd. Erbyn yganrif 1af CC roedd llawer o'r llwythau yn cynhyrchu eu darnau arian eu hunain. Dengys eitemau a gladdwyd gyda'r meirwon fod masnach sylweddol rhwng rhai o'r bobloedd Geltaidd a'r gwledydd o amgylchMôr y Canoldir. Ymhlith yr eitemau a allforid roeddhaearn,tun,gwlân ahalen, tra mewnforidgwydr,gwin ac eitemau eraill.
Cysylltir y Celtiaid yn aml âdiwylliant Hallstatt. Mae'r diwylliant yma yn dyddio o ddiwedd yrOes Efydd a rhan gyntaf yrOes Haearn yng nghanolbarth Ewrop. Yn sicr cofnodir pobloedd oedd yn siarad ieithoedd Celtiaid mewn llawer o'r ardaloedd lle ceir y diwylliant yma, ond mae'n debyg fod pobloedd oedd yn siarad ieithoedd eraill yn dangos nodweddion y diwylliant yma hefyd.[10]
Dilynwyd diwylliant Hallstatt danDdiwylliant La Tène yn ddiweddarach yn yr Oes Haearn, eto yng nghanolbarth Ewrop i'r gogledd o'rAlpau. Mae rhywfaint mwy o sail dros gysylltu'r Celtiaid â'r diwylliant yma, ac mae celfyddyd gwaith metel La Tène yn dangos nodweddion celfyddyd Geltaidd. Ymledodd diwylliant La Tène cyn belled â Phrydain a rhan o Iwerddon; er enghraifft ystyrir y casgliad o eitemau a ddarganfuwyd ynLlyn Cerrig Bach arYnys Môn yn un o'r casgliadau pwysicaf o gelfi La Tène ynYnysoedd Prydain.[21]
Credid ar un adeg fod ymddangosiad eitemau yn arddullLa Tène yn dynodi dyfodiad y Celtiaid i'r ynysoedd hyn, gan ddwyn yr ieithoedd Celtaidd gyda hwy. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion o'r farn na fu symudiad mawr o bobl, dim ond lledaeniad ffasiwn newydd mewn celfyddyd. Nid oes dim llawer o eitemau La Tène wedi eu darganfod yn Sbaen, lle'r oedd poblogaeth Geltaidd sylweddol.
Nodweddir celfyddyd y Celtiaid gan duedd at batrymau haniaethol, defnydd o linellau troellog, delweddau anthropomorffig a defnydd o anifeiliaid a phlanhigion. Efallai mai'r esiampl enwocaf o gelfyddyd Geltaidd ywPair Gundestrup. Mae eu celfyddyd hefyd arfeini ledled Ewrop.
Pentref Celtaidd wedi ei ail-greu yn Steinbach am Donnersberg.
Roedd bywyd y Celtiaid yn amrywio cryn dipyn mewn gwahanol rannau o'r byd Celtaidd. Mewn rhai rhannau adeiledidbryngaerau amddiffynnol, rhai ohonynt o faint sylweddol iawn. Ar y cyfandir o ddiwedd y3edd ganrif CC ymlaen, datblygodd trefi a elwir ynOppida. Mae cloddio archeolegol wedi bod mewn nifer o'r rhain, yn cynnwysMagdalensberg yn Awstria,Manching yn yr Almaen aBibracte acAlesia yn Ffrainc.
Ceir llawer o gyfeiriadau at fywyd a nodweddion y Celtiaid gan awduron clasurol. Maent yn cytuno fod y Celtiaid yn bobl ryfelgar, ond eu bod yn ymladd fel casgliad o unigolion yn hirach nag fel byddin ddisgybledig yn null y Rhufeiniaid. Dywedir eu bod yn hoff o gasglu pennau eu gelynion a'u harddangos yn eu pentrefi. Ymddengys fod gan y pen dynol arwyddocâd neilltuol i'r Celtiaid, ac efallai fod adlewyrchiad o hyn yn chwedlBranwen ferch Llŷr ymMhedair Cainc y Mabinogi, lle maeBendigeidfran, wedi ei glwyfo hyd angau, yn gorchymyn torri ei ben a'i gladdu ynLlundain i amddiffyn y deyrnas.[22]
Tai crwn Brythonig yn Nhan-yr-Ogof.Rhan o Galendr Coligny.
Roedd pedair prif ŵyl yn y flwyddyn Geltaidd: "Imbolc" (Gŵyl y Canhwyllau) ar1 Chwefror, yn gysylltiedig â'r dduwiesBrigit ("Ffraid" yn Gymraeg); "Bel-tân" (Gŵyl Galan Mai) ar1 Mai, yn gysylltiedig â ffrwythlondeb ac efallai â duw'r haul,Belenos, neuFeli Mawr; "Lughnasa" (Gŵyl Galan Awst) ar1 Awst yn gysylltiedig â'r cynhaeaf a'r duwLugh neuLeu Llaw Gyffes, a "Samhain" (Gŵyl Galan Gaeaf), gŵyl bwysicaf y pedair, ar31 Hydref.[23] Ar Ŵyl Galan Gaeaf, roedd y ffiniau rhwng y byd daearol a'r arall-fyd yn diflannu, syniad sy'n parhau i raddau yn rhai o arferion dathluGŵyl Galan Gaeaf.Calendr Coligny o Ffrainc, wedi ei ysgrifennu yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. Dywed Iŵl Cesar eu bod yn mesur cyfnodau amser yn ôl nosweithiau yn hytrach na dyddiau, rhywbeth sydd efallai wedi goroesi yn y gair Cymraeg "pythefnos".[24]
Er bod cymdeithasau'r Celtiaid yn un batriarchaidd, mae'n ymddangos fod i ferched safle uwch yn eu plith nag yn y rhan fwyaf o gymdeithasau'r cyfnod. Er enghraifft, un o'r darganfyddiadau mwyaf ysblennydd o'r byd Celtaidd yw bedd ynVix yn nyffrynAfon Seine sy'n dyddio o tua 500 CC. Bedd dynes oedd hon; ar un adeg fe'i disgrifid gan ysgolheigion fel "tywysoges Vix", ond y farn gyffredinol erbyn hyn yw mai math o offeiriades neusiaman oedd hi.[25] Ceir hanesBuddug (Boudica) yn arwain gwrthryfel yn erbyn Rhufain, ac mae esiamplau eraill megis y breninesauCartimandua ym Mhrydain aMedb yn Iwerddon, y ddwy i bob golwg a mwy o rym a dylanwad na'u gwŷr. Mae'r hanesyddDio Cassius yn nodi rhyddid rhywiol merched Celtaidd:[26]
...sylw ffraeth a wnaed gan wraig Argentocoxus, Caledoniad, iJulia Augusta. Pan oedd yr ymerodres yn tynnu ei choes, wedi gwneud y cynghrair, am ryddid ei rhyw gyda dynion ym Mhrydain, atebodd hithau: ‘Rydym ni'n cyfarfod ag anghenion natur mewn dull llawer gwell na chi ferched Rhufeinig; oherwydd rydym ni'n cysylltu'n agored a'r dynion gorau, tra'r ydych chi yn gadael i chi'ch hunain gael eich llygru yn y dirgel gan y gwaelaf.’
Roeddcrefydd draddodiadol y Celtiaid yn cynnwys nifer fawr o dduwiau. Duwiau lleol oedd llawer o'r rhain, a'u dylanwad wedi ei gyfyngu i lecyn arbennig. Ar y llaw arall roedd rhai duwiau oedd yn cael eu haddoli dros ardal eang iawn. Er enghraifft maeLleu yng Nghymru yn cyfateb iLugh yn Iwerddon aLugos yng Ngâl. Mae'r "Dinlle" yn yr enwDinas Dinlle yn ei hanfod yr un enw âLugdunum, hen enw dinasLyon. Ymddengys fodEpona, duwies geffylau'r Galiaid (cymharer y gair "ebol" yn Gymraeg) yr un dduwies aMacha yn Iwerddon aRhiannon yng Nghymru. Mae nifer o'r cymeriadau ymMhedair Cainc y Mabinogi, fel Lleu a Rhiannon, i bob golwg yn dduwiau Celtaidd wedi eu troi yn gymeriadau o gig a gwaed. Esiampl arall ywManawydan fab Llŷr, sy'n cyfateb i dduw'r môr,Manannán mhac Lir, yn Iwerddon. UniaethirMabon fab Modron yn chwedlCulhwch ac Olwen a'r duwMaponos, a enwir ar nifer o arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Un o'r prif dduwiau oedd y duw corniog,Cernunnos, efallai duw hela ac arglwydd y fforest.[27] Elfen arall oedd yn adnabyddus trwy'r byd Celtaidd oedd y triawd o fam-dduwiesau.[28] Dywed rhai bod yr hen grefydd Geltaidd wedi goroesi mewn ffurf oneo-baganiaeth.
Mae awduron Rhufeinig yn cysylltu'r Celtiaid a'rDerwyddon ac yn cyfeirio at seremonïau crefyddol mewn llwyni coed sanctaidd. Ceir cyfeiriad at hyn yn hanesTacitus am ymosodiad y Rhufeiniad danSuetonius Paulinus arYnys Môn yn60 CC.[29] Yn ôlPoseidonius ac awduron eraill roedd tri dosbarth yn gyfrifol am grefydd a diwylliant Gâl, y derwyddon, y beirdd a'rvates.[30] Dywed rhai awduron Rhufeinig, er enghraifft Iŵl Cesar a Plinius yr Hynaf, fod y Celtiaid yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.[31] Yn ôl Cesar, roedd Derwyddiaeth wedi dechrau ym Mhrydain ac wedi lledaenu i Gâl.[32]
CyrhaeddoddCristnogaeth rannau mwyaf dwyreiniol y byd Celtaidd yn gynnar iawn; er enghraifft ysgrifennoddYr Apostol Paul eiEpistol at y Galatiaid cyn64 CC. Roedd Cristnogaeth wedi ei sefydlu yn y rhannau Celtaidd o'r Ymerodraeth Rufeinig erbyn y4g,[33] a chenhadwydIwerddon yn y5g. Yn Iwerddon, yr Alban, Cymru a Llydaw, datblygodd yr hyn a elwir yn "Gristionogaeth Geltaidd". Teithiodd cenhadon o Iwerddon, yn arbennig, ar hyd a lled y cyfandir, a thyfodd celfyddyd nodweddiadol. Yr enghraifft enwocaf o'r gelfyddyd yma yw llawysgrif addurnedigLlyfr Kells, sy'n dyddio o tua800.[34]
Yn 2009, cyflwynodd yr AthroJohn Koch, o'rBwrdd Gwybodau Celtaidd ynAberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardalTartessos, deSbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, ac yn dyddio i gychwynOes yr Haearn. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur, ac yna fel llyfr.[35] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'rIeithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[36] Er bod anghytundeb ynglŷn â hyn, mae'r dystiolaeth yn cynyddu.
Golyga hyn fod y ddamcaniaeth draddodiadol mai crud y Celtiaid oedd canol Ewrop wedi'i chwalu, a chred llawer o haneswyr, bellach, mai ym Mhortiwgal a de Sbaen yw gwir grud yr iaith Geltaidd.
Mae'rieithoedd Celtaidd yn perthyn i'r teulu ieithyddolIndo-Ewropeaidd. Nid yw ysgolheigion yn cytuno ar eu perthynas ag is-deuluoedd eraill yn y teulu.
Mae anghytundeb hefyd ar sut yn union y dylid dosbarthu'r ieithoedd Celtaidd eu hunain. Un dosbarthiad yw eu rhannu yn Gelteg Ynysig a Chelteg y Cyfandir. RoeddCelteg y Cyfandir yn cynnwys sawl iaith a thafodiaithGelteg a siaredid ar gyfandir Ewrop a rhan oAsia Leiaf, yn cynnwys,Galateg (iaith y Galatiaid),Galeg (iaithGâl,Celtibereg (iaith rhannau oBortiwgal aSbaen) aLeponteg (iaithGallia Cisalpina yng ngogleddYr Eidal). Nid oes yr un o'r ieithoedd hyn yn fyw heddiw, ond darganfuwyd nifer fawr o arysgrifau o Gâl, gogledd yr Eidal a Sbaen. Sylwer mai iaith Ynysig ywLlydaweg, er mai ar y cyfandir y siaredir hi.[37]
Mae'r ieithoedd Celtaidd gorllewinol, neu Ynysig, yn cael eu rhannu yn ddau deulu neu gangen oGelteg Ynysig:Goideleg, a elwir weithiau'nGelteg Q, sy'n cynnwysGwyddeleg,Manaweg aGaeleg yr Alban, aBrythoneg a elwir weithiau'nGelteg P, sefCymraeg,Cernyweg aLlydaweg.[38] Mae rhai ysgolheigion yn anghytuno a'r dosbarthiad yma, ac yn credu fod yr ieithoedd Brythoneg yn perthyn yn nes i ieithoedd megis Galeg tra bod yr ieithoedd Goideleg yn perthyn yn nes i Gelteg Iberiaidd. Cred y rhan fwyaf o ysgolheigion bellach fodPicteg hefyd yn iaith Frythonig.[39]
Dywed nifer o'r awduron clasurol fod y Celtiaid yn ymwrthod ag ysgrifennu ac yn trosglwyddo dysg ar dafod leferydd. Cyfeirio at yr offeiriaid neu'r derwyddon y mae hyn yn bennaf fodd bynnag, a cheir llawr o arysgrifau o'r gwledydd Celtaidd eu hiaith.[40] Roedd rhai o'r arysgrifau Galeg cynnar yn defnyddio'rwyddor Roegaidd, ond yn ddiweddarach defnyddid yr wyddor Ladin. Datblygodd gwyddorOgam yn Iwerddon yn gynnar yn y cyfnod Cristionogol, a cheir nifer fawr o feini gydag arysgrif Ogam yn ne-orllewin Cymru hefyd, yn ogystal ag ambell un mewn mannau eraill.[41]
Ni oroesodd dim o lenyddiaeth Geltaidd y cyfandir. Mae'n debyg i Gâl, er enghraifft, cael ei Seisnigeiddio cyn i'r llenyddiaeth lafar gael ei rhoi mewn ysgrifen. Fodd bynnag, mae hen lenyddiaeth o Gymru ac yn arbennig o Iwerddon wedi goroesi, sydd yn rhoi golwg ar fywyd Celtaidd. Ymhlith y pwysicaf o'r rhain maeCylch Wlster ac yn arbennig yTáin Bó Cúailnge ("gyrru ymaith wartheg Cooley"), cerdd y credir ei bod wedi ei gosod yn y 4g er bod y llawysgrifau yn llawer mwy diweddar. Mae'n rhoi hanes rhyfel rhwngWlster aConnacht pan mae byddinMedb, brenhines Connacht yn ymosod ar Wlster i geisio dwyn y tarw enwogDonn Cuailnge, ac ymdrechion yr arwr ieuancCúchulainn i'w hatal. Yn ôlJohn Davies, "rhyfeddod yw canfod ynddi gyffelybiaethau â'r disgrifiadau o'r Celtiaid a geir yng ngweithiau llenorion clasurol megis Posidonius a Cesar".[42] Cylch pwysig arall ywCylch Fionn o tua'r un cyfnod, yn adrodd hanes yr arwrFionn mhac Cumhaill a'i wŷr.
Gellir gweld adlais o'r un arferion Celtaidd mewn rhannau o Bedair Cainc y Mabinogi yng Nghymru, ac efallai yn arbennig yn chwedlCulhwch ac Olwen. Mae'n debyg bod y chwedlau hyn wedi eu newid cryn dipyn gan gopïwyr Cristionogol, ond ymddengys fod nifer o'r cymeriadau ar un adeg wedi bod yn dduwiau Celtaidd.[43]
Yn y cyfnod diweddar, nododd yr hanesydd o AlbanwrGeorge Buchanan yn ei lyfrRerum Scoticarum Historia (1582) fod grŵp o ieithoedd ym Mhrydain ac Iwerddon a hen iaith Gâl oedd ar wahân i'r ieithoedd Lladin a'r ieithoedd Germanaidd, a galwodd hwy'r ieithoedd Galaidd. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" am rai o drigolion Prydain ac Iwerddon, gan awgrymu fod Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban wedi cyrraedd yno gydag ymfudwyr o dde Gâl. Nid oedd ef yn cynnwys y Brythoniaid yn ei ddefnydd o "Celt".[44]
Mae'r defnydd o'r geiriau 'Celtiaid' a 'Cheltaidd' yn yr ystyr fodern yn deillio o lyfr a gyhoeddwyd yn1703 gan yLlydäwrPaul-Yves Pezron. YnAntiquité de la nation, et de langue des celtes dangosodd fod y Llydäwyr a'r Cymry yn perthyn i'w gilydd, a dywedodd eu bod yn ddisgynyddion y Celtiaid yr oedd yr awduron clasurol yn cyfeirio atynt.[45]
Ym1707 cyhoeddodd yr ieithydd a hynafiaethyddEdward Lhuyd y gyfrolGlossography, y gyfrol gyntaf o'rArchaeologia Britannica arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Dangosodd fod ieithoedd megisCymraeg,Llydaweg aGwyddeleg yn perthyn i'w gilydd, a rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'rieithoedd Celtaidd.[45] Ymddengys mai Lhuyd oedd y person cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" mewn rhywbeth tebyg i'w ystyr fodern, er mai term ieithyddol ydoedd ganddo ef.
Iolo Morgannwg
Datblygodd diddordeb yn y Celtiaid trwy'r18g, er enghraifft llyfrau'r hynafiaethyddWilliam Stukeley yn rhoi pwyslais ar y derwyddon. Cyhoeddwyd barddoniaeth oedd wedi ei briodoli i'r bardd GaelegOssian, ond a oedd mewn gwirionedd wedi eu hysgrifennu ganJames MacPherson, a chawsant dderbyniad brwd. CafoddIolo Morgannwg hefyd ddylanwad mawr; hoerai ef fod beirddMorgannwg wedi cadw traddodiad o ddoethineb oedd yn mynd yn ôl i gyfnod y derwyddon.[46]
Yn y19g tyfodd cenedlaetholdeb yn Iwerddon yn arbennig, ac arweiniodd hyn at ddiddordeb yn y Celtiaid fel hynafiaid cenedl y Gwyddelod. Datblygwyd cysylltiadau rhwng y gwledydd Celtaidd, er enghraifft yn dilyn ymweliadau'r LlydäwrThéodore Hersart de la Villemarqué, awdur yBarzaz Breiz, a Chymru yn 1838 a 1839. Ymhlith yr astudiaethau ysgolheigaidd dylanwadol gellir nodiEssaie sur la Poésie des Races Celtiques (1854) ganErnest Renan acOn the Study of Celtic Literature (1867)Matthew Arnold.[47]
Cynhaliwyd cyngres Ban-geltaidd ynSant-Brieg yn1867, wedi ei threfnu ganCharles de Gaulle, ewythr y cadfridog adnabyddus. Cynhaliwyd cyfarfod cyntafY Gyngres Geltaidd yn1917, a sefydlwyd mudiad mwy gwleidyddol, yrUndeb Celtaidd, yn1961. Y gwledydd Celtaidd yn ôl y ddau sefydliad yma yw'rAlban,Cernyw,Cymru,Iwerddon,Ynys Manaw, aLlydaw.[48] Rhain yw'r gwledydd lle siaredir iaith Geltaidd neu lle siaredid iaith Geltaidd hyd yn gymharol ddiweddar. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennigGalicia ynSbaen, ac maeGŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn cydnabod Galicia acAsturias fel gwledydd Celtaidd.[49]
Atgynhyrchiad o dŷ crwn o Oes yr Haearn yn Flag Fen, Lloegr. Dadleuir fod y gwahaniaeth rhwng y math yma ar dŷ a thai sgwâr neu hirsgwar y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop yn arwyddocaol.
Oddeutu ail hanner y 1990au dadleuodd rhai archeolegwyr, megis John Collis a Simon James, na ddylid cyfeirio at boblogaeth Ynys Prydain ac Iwerddon yn Oes yr Haearn fel "Celtiaid". Sail eu dadl yw nad oes cofnod o'r defnydd o'r gair "Celt" gan neb o drigolion yr ynysoedd hyn amdanynt eu hunain cyn gwaith Pezron a Lhuyd ar ddechrau'r18g, ac nad oes unrhyw awdur clasurol yn cyfeirio atynt fel "Celtiaid", gyda Strabo yn gwahaniaethu rhwng trigolion Prydain a'rCelti. Maent yn nodi hefyd fod cryn nifer o wahaniaethau rhwng Prydain ac Iwerddon a'r cyfandir, megis y defnydd o dai crwn yn hytrach na sgwâr.
Er bod Simon James, er enghraifft, yn pwysleisio nad yw hyn yn golygu fod y defnydd o'r gair "Celt" am drigolion presennol gwledydd megis Iwerddon, Cymru a Llydaw yn annilys, bu beirniadu llym ar y ddadl gan rai ysgolheigion eraill, er enghraifft Ruth a Vincent Megaw. Awgrymwyd mai sail y ddadl oedd gelyniaeth Seisnig tuag atddatganoli ac integreiddio Ewropeaidd. BarnJohn Davies ar hyn yw:
O'r braidd fod y fath gyhuddiadau yn deg, yn arbennig o gofio nad yw beirniaid pan-Geltigiaeth archeolegol yn awgrymu fod gan Brydain Oes yr Haearn ddiwylliant unffurf; ple sydd ganddynt o blaid pwysigrwydd amrywiaeth ranbarthol.[50]
Ei farn ef yw bod Simon James, yn arbennig, yn colli golwg ar y ffaith fod trigolion yr ynysoedd yn Oes yw Haearn yn siarad iaith Gelteg.
Mae nifer fawr o lyfrau ac erthyglau ar y Celtiaid ar gael. Rhoddir yma ddetholiad o lyfrau Cymraeg a rhai o'r llyfrau Saesneg mwyaf safonol. Am y gwledydd Celtaidd, gweler dan y gwledydd unigol.
↑Stephen Oppenheimer,The Origins of the British (Constable, 2006), tt.116-20
↑P. Sims-WilliamsAncient Celtic place-names in Europe and Asia Minor (Blackwell, 2006); dyfynnir yn Oppenheimer,The Origins of the British, tt. 53, 279
↑Leslie Alcock, "Was there an Irish Sea culture-province in the Dark Ages?" ynThe Irish Sea province in archaeology and history, gol. Donald Moore (Caerdydd, Cymdeithas Archeolegol Cambria, 1970) tt. 60-2
↑John Collis, "George Buchanan and the Celts in Britain", ynCeltic Connections: proceedings of the tenth international cnference of Celtic Studies, tt. 91-107