Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Celf Islamaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oCelf Islamig)
Celf Islamaidd
Enghraifft o:arddull mewn celf Edit this on Wikidata
Mathcelf Edit this on Wikidata
Rhan oIslamic culture, Islam and art Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

CelfIslamaidd.

Patrymau

[golygu |golygu cod]
Golygfa tu mewn y brif gromen ymMosg Selimiye yn Edirne, Twrci.

Mae patrymau yn nodwedd boblogaidd gan arlunwyr Mwslimaidd ers canrifoedd. Dylanwadwydmathemateg Islamaidd yn gryf gan weithiau'r Hen Roegwyr, ac felly roeddgeometreg yn bwysig mewn diwylliant Islam. Defnyddiodd arlunwyr batrymau geometrig sy'n ail-adrodd, yn cylchdroi ac yn adlewyrchu. Defnyddiwyd celf batrymog i addurno waliau, lloriau, carpedi, potiau, lampiau, cloriau llyfrau, a thecstilau, yn enwedig yn ymosg.

Roedd negeseuon crefyddol gan rai o'r patrymau. Maent yn dechrau mewn canol cylch: mae'r cylch yn symboleiddioAllah, sef un duw heb ddiwedd, ac mae'r canol yn symboleiddioMecca, a thuag at y ddinas sanctaidd hon mae Mwslimiaid yn wynebu wrth weddïo. Mae natur ailadroddus patrymau yn gallu cynrychioli deddf ddinewid Allah. O'r cylch gellir tynnu siapiau eraill yn fanwl gywir, a'r dair ffurf sylfaenol yng nghelf Islamaidd yw'r triongl, y sgwâr a'r hecsagon. Caiff rhain eu llunio a'u cyfosod i greu patrymau cylchdroëdig ac adlewyrchol o frithwaith geometrig neu gylymau a chadwyni plethedig. Mae symbol y seren a'r cilgant yn bresennol mewn nifer o ddyluniadau. YmgorfforircaligraffegArabeg yng nghelf Islamaidd yn aml.

Hyd heddiw, arddurnir mosgiau gyda phatrymau tebyg i gelf Islamaidd draddodiadol. Ni chaniateir unrhyw gelf yn y neuadd weddïo, ond adeiladwyd nifer o fosgiau gydag addurniadau allanol crand a deiniadol. Gwelir patrymau hefyd ar gopïau o'rCoran a llyfrau eraill, dillad a wisgir gan Fwslimiaid, a chynnyrch ycrochenydd a'rchwythwr gwydr.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Celf_Islamaidd&oldid=10965721"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp